Skip page header and navigation

Mae myfyriwr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Kira Roberts, wedi gwneud argraff ar frand byd-eang yn Llundain yn sioe ddylunio flynyddol fwyaf blaenllaw’r DU i raddedigion, New Designers, ym mis Gorffennaf.

Kira Roberts yn gwenu wrth ymyl ei chynnyrch, cadair Heineken werdd gyda photel Heineken wag yn sownd wrth bob ochr a’r gair Hi mewn llythrennau mawr wedi’i osod ar y gefnell; mae symbol calon goch wedi cymryd lle’r smotyn ar ben y llythyren i.

Cafodd Kira, a raddiodd wythnos diwethaf o’r BA Hysbysebu Creadigol yng Ngholeg Celf Abertawe y Drindod Dewi Sant, ei dewis gan PepsiCo o blith miloedd o weithwyr creadigol i dderbyn eu Gwobr ‘Uncorn’ Dylunio ac Arloesi mawreddog yn ail wythnos Arddangosfa Graddedigion New Designers.

Roedd y briff a ysgogodd ei phrosiect buddugol yn gofyn i fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant greu dyluniad a fyddai’n ysgogi’r Genhedlaeth Z a Mileniaid i greu syniadau newydd i hyrwyddo newid cymdeithasol. Rhedodd Kira â’r arwyddair ‘let’s start with hi’ a arweiniodd yn y pen draw at brosiect wedi’i ddylunio ar gyfer Heineken.

Gan fynd â’r cwestiwn ‘Beth fyddech chi’n ei newid am y byd?’ at ei chymuned leol, derbyniodd Kira lawer o syniadau’n ôl, a chreodd gasgliad o gynhyrchion yn ymgorffori’r syniadau hyn a sbardunodd sgyrsiau a dod yn ‘becyn offer i greu newid’.

Roedd y casgliad yn cynnwys cardiau chwarae, poteli, agorwyr poteli, cadeiriau, a hyd yn oed ffilteri cyfryngau cymdeithasol ar gyfer Instagram a Facebook, sydd i gyd wedi’u hanelu at gychwyn sgyrsiau a chreu syniadau newydd.

Mae’r wobr yn rhoi interniaeth 3 mis o hyd â thâl i Kira yn stiwdio ddylunio PepsiCo yn Llundain, gan ganiatáu iddi brofi gweithio i frand gwirioneddol fyd-eang sydd â swyddfeydd ledled y byd.

Dywedodd y beirniaid am Kira a’r wobr: “Yn PepsiCo Design and Innovation, rydym yn wynebu pob diwrnod â dewrder ac angerdd busnes newydd er mwyn rhoi cyffro, lluniaeth a hwyl i bobl ym mhob rhan o’r byd. Rydym yn chwilio am ddylunwyr amrywiol, hynod dalentog o’r un anian. Rydyn ni’n hoffi eu galw’n uncyrn.

“Dangosodd Kira hyder, angerdd a brwdfrydedd mawr wrth sôn am ei gwaith. Mae ganddi syniadau mawr gydag addysg gadarn yn sail iddynt. Mae deunydd uncorn ynddi.”  

Kira Roberts yn derbyn ei gwobr gan gynrychiolwyr PepsiCo.

Meddai Kira: “Roedd tîm PepsiCo yn dwli ar lefel yr ymchwil a arweiniodd at fy syniadau, a pha mor arloesol yr oedd yr ymgyrchoedd yn fy mhortffolio. Fe wnaeth staff y Drindod Dewi Sant fy herio’n barhaus i gwestiynu popeth a gwthio fy syniadau ymhellach bob tro, a oedd yn anodd ond yn union beth oedd ei angen i lunio’r dylunydd hyderus yr ydw i heddiw.

“Fe roesant brofiadau i mi na allwn eu dysgu fy hunan o gwrs ar-lein. Roedd yn fwy na’r modylau yn unig, fe wnaethant fy addysgu sut i fod yn llawn cymhelliant, sut i oroesi fel gweithiwr creadigol a llawer mwy.

“Rwy’n awr yn paratoi i symud i Loegr i ddechrau fy interniaeth gyda PepsiCo ym mis Medi. Byddaf yn treulio’r mis cyntaf gyda’u tîm diodydd, mis gyda’u tîm byrbrydau a’r mis olaf gyda’u tîm profiad yn gweithio ar ddigwyddiadau sydd i ddod. Nes i fyth ddychmygu’r cyfleoedd y byddai mynd i’r brifysgol yn eu datgloi i mi, ond dyna oedd un o’r penderfyniadau gorau i mi eu gwneud erioed.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Rhaglen Kira ar gyfer Hysbysebu Creadigol yn y Drindod Dewi Sant, Martin Bush: “Mae buddugoliaeth Kira’n haeddiannol iawn. Mae’n brawf o waith caled a ddechreuodd bedair blynedd yn ôl ar ein cwrs Celf a Dylunio Sylfaen ac a arweiniodd at radd anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Hysbysebu Creadigol gyda ni eleni.

“Mae ei gwaith yn cyfleu empathi ochr yn ochr ag ymwybyddiaeth fasnachol, ac rydym mor falch ei fod wedi’i gydnabod gan gleient rhyngwladol mor enwog â PepsiCo.”

Bu myfyrwyr eraill o’r Drindod Dewi Sant yn arddangos yn ystod ail wythnos New Designers hefyd, gan gynnwys y rheiny a oedd yn astudio Dylunio Graffig, Darlunio, a Dylunio Cynnyrch a Chelfi.

Cafodd sawl un ganmoliaeth gan frandiau blaenllaw, gan gynnwys Hannah Evans a gafodd gymeradwyaeth gan Tom Faulkner, Habitat, Sylva a London Design Fair am ei Chasgliad o Gelfi, Brethyn.

Canmolwyd Vilde Skaarnaes gan New Territory a rhoddwyd y potensial iddi arddangos ei phrosiect Inguz Regrow yn yr NEC.

Mae Maria Arias De Diego wedi cael cyfle i arddangos flwyddyn nesaf yn y sioe yn rhan o raglen New Designers Select i raddedigion sy’n masnacheiddio eu diddordebau yn fusnes.

Ynglŷn â New Designers

Arddangosfa flynyddol yw New Designers sy’n dwyn y doniau graddedig gorau ynghyd o bob rhan o’r DU. Mae’r digwyddiad wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol yn y diwydiant dylunio, yn ogystal â defnyddwyr cyffredinol sydd â diddordeb mewn gweld y tueddiadau diweddaraf ym maes dylunio. Mae New Designers hefyd yn croesawu cannoedd o fyfyrwyr ysgol bob blwyddyn, gan ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddylunwyr. Dros bythefnos, mae’r arddangosfa’n dangos gwaith mwy na 3,000 o raddedigion talentog mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau, yn cynnwys tecstilau, graffeg, dylunio cynnyrch, a mwy.

Nodyn i’r Golygydd

Ffotograffau yn New Designers gan Mark Cocksedge, trwy garedigrwydd New Designers.


Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon