Skip page header and navigation

Mae Dietegydd o’r rhaglen Ffit Cymru ar S4C, Beca Lyne-Pirkis, bellach yn wyneb adnabyddus ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant fel myfyrwraig sy’n astudio cwrs Meistr mewn Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Pum cyflwynydd y rhaglen deledu FFIT Cymru yn sefyll yn erbyn wal frics gan wenu.

Fe raddiodd Beca fel deietegydd llynedd, a phenderfynodd i barhau gyda’i hastudiaethau drwy astudio cwrs Meistr mewn Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn y Drindod Dewi Sant, gan fod ganddi ddiddordeb mawr o fewn y maes chwaraeon, a rôl maeth ar gyfer sesiynau hyfforddi a chystadlu.

Meddai Beca:

“Dwi wastad wedi cael diddordeb mewn maeth sy’n ymwneud â hyfforddi ar gyfer rhedeg, yn enwedig marathon, gan fy mod i fy hunan wedi cyflawni sawl un dros y blynyddoedd.

“Pan ro’n i’n astudio’n ngradd fel dietegydd, ro’n i wastad yn moen mynd ymlaen i ddysgu mwy am yr effaith oedd bwyd a maeth yn cael ar y corff tra’n hyfforddi, cystadlu a perfformio ym myd chwaraeon.”

Dyma’r drydedd flwyddyn i’r cwrs Meistr mewn Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff gael ei chynnig yn y Drindod Dewi Sant, ac mae yna ystod eang o fyfyrwyr yn dod i astudio’r cwrs o gefndir maeth, dieteteg, a Gwyddor Chwaraeon i enwi ond ychydig. Mae Maetheg Chwaraeon yn faes gymarhol newydd, ac yn un sy’n parhau i dyfu.

Daeth Beca i astudio yn y Drindod Dewi Sant, gan mai dyma’r unig le yng Nghymru sy’n cynnig cwrs meistr o fewn y pwnc hwn. Roedd hi’n ymwybodol o’r cyfleusterau oedd gan y Brifysgol i’w cynnig, ac yn gwybod am y cysylltiadau arbenigol oedd gan y Brifysgol yn lleol ac yn genedlaethol, gan gynnwys IronMan Cymru.

Fel rhan o’r cwrs, mae Beca’n dysgu am egwyddorion maetheg chwaraeon a ffitrwydd sydd wedi’u seilio ar ddamcaniaethau a thystiolaeth gyfoes. Defnyddir meddalwedd arbenigol i ymgymryd â dadansoddiad dietegol a chynllunio prydau. Mae’r myfyrwyr hefyd yn defnyddio’r labordy perfformio dynol i asesu lefelau iechyd a ffitrwydd unigolion.

Ychwanegodd Beca:

“Mae’r gymysgedd o wneud elfennau fel profi ein VO2 Max yn y labordi profi chwaraeon yn wych o rhan gallu, ac yna dadansoddi’r data a deall sut effaith all bwyd gael ar rhywun ar ôl casglu, a deall canlyniadau o’r profion. Dwi’n berson sy’n hoff iawn o ffigyrau a mathemateg, ac yna’n gallu cyfieithu popeth mewn i brydiau a bwydydd gwahanol i helpu rhywun - ma fe’n gyfuniad perffaith o bopeth dwi’n hoffi!”

Chris Cashin yw rheolwr y rhaglen, ac mae’n faethegydd chwaraeon profiadol iawn sydd wedi gweithio gyda rhai o berfformwyr chwaraeon gorau’r wlad. Dywedodd:

“Rhennir y rhaglen yn ddwy ran lle mae myfyrwyr yn astudio’r ddamcaniaeth dros 2 flynedd yn rhan amser, ac yna’n cwblhau’r traethawd hir mewn maes sydd o ddiddordeb iddynt.

“Mae’r radd wedi’i hysgrifennu i fodloni cymwyseddau’r Gofrestr Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff (SENr) - ystyrir y gofrestr a gaiff ei rhedeg gan Gymdeithas Dieteteg Prydain fel y safon aur ar gyfer ymarferwyr maetheg chwaraeon ac mae ein graddedigion yn gymwys i gael mynediad uniongyrchol ar ôl iddynt gwblhau’r rhaglen.

“Bydd ein Academi Chwaraeon newydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad ymarferol gydag amrywiaeth o chwaraeon.

“Rydym yn falch iawn i groesawu Beca Lyne - Perkis fel myfyrwraig atom i’r Brifysgol, ac rydym yn edrych ymlaen i’w gweld wrth ei gwaith ar FFIT Cymru”.

O ddydd i ddydd, mae Beca yn gweithio fel Deietgydd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ac yn cydnabod fod cyfuno’r wybodaeth mae’n barod yn ei ddefnyddio gyda’r hyn mae’n dysgu ar y cwrs wedi bod yn fuddiol, yn ogystal â’i chynorthwyo ar FFIT Cymru.

Dywedodd:

“Dwi wrth fy modd cael bod yn rhan o deulu FFIT Cymru! Mae’r cyfle o allu gweithio gyda’r arweinwyr i drawnsnewid eu bywydau gyda’r Seicolegydd Dr Ioan a’r Hyfforddwr Personol Rae Carpenter yn bleser. Mae cael chwarae rôl bach yn ei siwrne trawsnewid yn sbesial iawn, gan eu bod nhw’n gorfod gwneud cymaint o newidiau, a chael eu ffilmio pob cam o’r ffordd, ond rydym yno i’w cynorthwyo a’u hysgogi, ac yna maen nhw’n mynd mlaen i’n hysbrydoli ni a phawb sy’n gwylio’r gyfres.”

Mi fydd FFIT Cymru yn dychwelyd i S4C yr wythnos hon, ac mae Beca yn annog y rhai sy’n dymuno trawsnewid eu ffordd o fyw a bwyta i,

“wylio’r gyfres a mynd ar y wefan i ddilyn y cynllun bwyd a’r cynllun ffitrwydd. Peidiwch a di-galonnu os fydd pethau ddim cweit yn mynd yn iawn drwy’r amser, mae trawsnewid eich bywyd yn siwrne hir, ond daliwch ati, a gwyliwch y gyfres i gael eich ysbrydoli i gario ‘mlaen ar eich taith!”

Beca Lyne-Pirkis a Chris Cashin yn gwisgo hwdis glas PCYDDS ac yn gwenu.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau