Skip page header and navigation

Cyfarfu grŵp o gyn-fyfyrwyr Coleg y Drindod ar gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i ddathlu 60 mlynedd ers gadael y coleg fel athrawon cymwysedig.

Naw menyw a dau ddyn o ddosbarth ’63 yn gwenu ar gyfer llun grŵp; mae’r Capel a’r Hen Adeilad i’w gweld tu ôl iddynt.

Ar 28 Mehefin 2023, daeth hen ffrindiau at ei gilydd ar  gyfer aduniad ar gampws Caerfyrddin y Drindod Dewi Sant i goffáu 60 mlynedd ers ennill statws athrawon cymwysedig ar  25 Mehefin 1963, yn yr hyn a elwid bryd hynny yn Goleg y Drindod Caerfyrddin.

Roedd y grŵp hwyliog yn eu 80au cynnar ac wrth eu bodd i fod yn ôl yng nghwmni cyn  gyd-ddisgyblion gan deithio o ardaloedd mor agos â’r dref ei hun ac mor bell â chanolbarth Lloegr i gyfarfod unwaith eto yn y man lle dechreuodd eu cyfeillgarwch a’u gyrfaoedd.

Gadawsant eu cartrefi teuluol i symud i Gaerfyrddin yn 1960 lle astudion nhw i fod yn athrawon ysgol gynradd mewn sefydliad sy’n parhau i fod yn goleg hyfforddi athrawon hynaf Cymru ac sydd, ers ei sefydlu, wedi darparu addysg ddwyieithog.

Pan ymunon nhw, doedd dim llawer o amser wedi mynd heibio ers i’r Drindod ddod yn goleg cymysg wrth i fenywod gael eu derbyn am y tro cyntaf yn 1957.

Ar ôl tair blynedd o waith caled, gan gynnwys digon o chwarae a direidi, fe aeth Dosbarth ’63 ar hyd eu trywydd eu hunain gan ddechrau eu gyrfaoedd. Arhosodd llawer ohonynt mewn cysylltiad dros y blynyddoedd ac roedd rhai hyd yn oed  wedi ffurfio mwy na dim ond cyfeillgarwch – o fewn y grŵp roedd tri chwpl a oedd wedi cyfarfod a chwympo mewn cariad yn ystod eu dyddiau coleg.

Ffrindiau’n edrych ar luniau a dogfennau wedi’u lledaenu dros fwrdd ac yn siarad; mae baner ar y wal yn dweud – Class of 1963 Trinity College Carmarthen – Cheers to 60 years.

Trwy gydol yr aduniad, bu’r ffrindiau’n hel atgofion dros luniau a phethau cofiadwy oedd yn codi hiraeth, a chafwyd taith o amgylch y campws lle gwnaethon nhw ymweld â’r adeiladau lle buon nhw’n byw, bwyta, gweddïo, ac yn astudio, yn ogystal ag ymweld â  rhannau newydd o’r campws sydd wedi’u hadeiladu ers iddyn nhw adael.  

Buon nhw’n rhannu hanesion am y dyddiau ‘rag’ yng Nghaerfyrddin lle byddai myfyrwyr yn gwisgo i fyny ar gyfer gorymdeithiau a charnifalau er mwyn codi arian i elusennau; yn cyfnewid  straeon am eu hen ddarlithwyr fel Norah Isac a  ddysgodd  Drama a Chymraeg iddynt, a’r Prifathro Thomas Halliwell, ac fe gymerwyd y cyfle i ddal fyny ar yr hyn sydd wedi digwydd yn eu bywydau dros yr holl flynyddoedd diwethaf.

Ar ôl pryd o fwyd ac aros dros nos ar y campws, fe wnaeth y grŵp ffarwelio â’u ffrindiau a’r Brifysgol gyda’r sylwadau canlynol:

“Mae’n braf cael dod yn ôl i’r Drindod eto! Ble mae’r 60 mlynedd wedi mynd ers gadael ar 25 Mehefin, 1963?”

“Mae gen i atgofion hapus iawn o’m cyfnod yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin, ac mae’n arbennig iawn bod yn ôl.”

“Mae llawer o bethau wedi newid ond mae’r cyfeillgarwch a ffurfiwyd yr holl flynyddoedd yn ôl yn dal i aros ac ni fyddant byth yn cael eu hanghofio.”

“Achlysur gwirioneddol wych yn cyfarfod ar ôl 60 mlynedd - ac mae’r cyfeillgarwch yn parhau! Mae’n gyfnod o gariad a ffrindiau.”

“Diolch ffrindiau annwyl - daeth â chymaint o atgofion yn ôl.”

“Am aduniad gwych ar gyfer ein blwyddyn gyfan. Mae cymaint o atgofion hyfryd i’w rhannu. Rhyfedd gweld y newid i’r lle, ond mae craidd yr hen adeilad yn dal yn gyfan. Diwrnod gwych!”

“Ffantastig bod nôl yma eto yn gweld hen wynebau - hen yw’r gair allweddol!! Mae’r coleg wedi newid llawer ond mae’r prif adeilad yn dal i sefyll.”

Cwpl o hen ffrindiau’n edrych trwy albym lluniau ac yn gwenu.
Ffrindiau o ddosbarth  ’63 yn edrych trwy  albym lluniau.
Mae cyn-fyfyriwr yn pwyntiau at lun du a gwyn ohoni ei hun yn ifanc.
Mae grŵp o fyfyrwyr sydd wedi dychwelyd yn crwydro trwy’r ardd tu allan i’r Hen Adeilad.

Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon