Skip page header and navigation

Eleni bydd Darlith O’Donnell yn cael ei thraddodi gan Dr Alex Woolf.

Headshots of Dr Alex Woolf in front of book shelf

Trefnir y ddarlith flynyddol gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Celtaidd Prifysgol Cymru. Sefydlwyd Darlithoedd O’Donnell mewn Astudiaethau Celtaidd ym 1954 ac fe’u cyflwynir yn flynyddol ym Mhrifysgolion Caeredin, Rhydychen a Chymru. Testun y ddarlith eleni fydd ‘Comparisons, Continuities, and Contacts in Early Insular History’.

Cafodd Dr Alex Woolf ei fagu yn Nwyrain Sussex ac fe’i haddysgwyd ym Mhrifysgol Sheffield. Bu’n darlithio mewn Archaeoleg yn Llambed, yn Hanes Celtaidd a Chynnar yr Alban yng Nghaeredin, ac ers 2001 yn Hanes yr Alban a’r Oesoedd Canol ym Mhrifysgol St Andrews. Mae wedi cyhoeddi’n eang ar bynciau yn amrywio o Brydain Rufeinig i Deyrnas Manaw a’r Ynysoedd.

Meddai Dr Alex Wolf, ‘Am amryw o resymau, mae maes astudio Prydain ac Iwerddon yn y canoloesoedd cynnar wedi tueddu i gael ei rannu i is-ddisgyblaethau cymharol ynysig, gyda phob un yn canolbwyntio ar un o’r cenhedloedd modern neu ar siaradwyr prif iaith frodorol pob un. Dyma’r union fath o ddull yr oedd Charles James O’Donnell yn bwriadu ei chwalu pan sefydlodd y darlithoedd hyn. Yn y ddarlith hon, byddaf yn edrych ar gyfres o gymariaethau trawsddiwylliannol ar draws yr ynysoedd hyn, gan ofyn tybed a yw’r tebygrwydd a welwn mewn motiffau llenyddol yn gynnyrch etifeddiaeth a rennid o haen gynharach, yn ganlyniad i fenthyciadau, neu yn hytrach ddim ond yn ymateb cyffredin i gyflyrau ecolegol tebyg, yn naturiol ac yn ddiwylliannol’.

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, ‘Edrychwn ymlaen yn arw at glywed darlith O’Donnell eleni, a draddodir gan Dr Alex Wolf. Bydd y ddarlith yn gyfle ardderchog i glywed arbenigwr nodedig yn trafod agweddau ar drawsddiwyllliannedd y canoloesoedd cynnar yn yr ynysoedd hyn.’

Traddodir y ddarlith yn fyw yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac ar lein trwy Zoom ddydd Iau, 23 Mai am 17:00.

E-bostiwch canolfan@cymru.ac.uk i gofrestru i ddod i’r Llyfrgell neu i dderbyn y ddolen Zoom.

Digwyddiad rhad ac am ddim. Bydd paned am 16:30.

Croeso cynnes i bawb!

Nodiadau i Olygyddion 

Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk  

1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol. 

2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk  

3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru ddathlodd ei ganmlwyddiant yn 2021: https://www.geiriadur.ac.uk/


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon