Skip page header and navigation

Eleni bydd Darlith O’Donnell yn cael ei thraddodi gan Dr Ned Thomas.

Dr Ned Thomas yn sefyll mewn cap a gŵn graddio ac yn gwenu.

Trefnir y ddarlith flynyddol gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Celtaidd Prifysgol Cymru. Sefydlwyd Darlithoedd O’Donnell mewn Astudiaethau Celtaidd ym 1954 ac fe’i cyflwynir yn flynyddol ym Mhrifysgolion Caeredin, Rhydychen a Chymru. Eleni traddodir y ddarlith gan Dr Ned Thomas. Testun y ddarlith fydd ‘Lleiafrifoedd Ieithyddol Ewrop – braslun o hanes syniadol’.

Cafodd Ned Thomas yrfa amrywiol fel awdur a newyddiadurwr, academydd a chyhoeddwr, ymgyrchydd iaith ac ymchwilydd ym maes ieithoedd lleiafrifol Ewrop. Bu’n dysgu ym Mhrifysgol Salamanca yn Sbaen, fel athro ymweld ym Mhrifysgol Mosco yn nyddiau’r Undeb Sofietaidd, ac yn Adran Saesneg Prifysgol Aberystwyth. Treuliodd rhai blynyddoedd yn Llundain fel newyddiadurwr gyda Chwmni’r Times ac fel golygydd Angliya, cylchgrawn Llywodraeth Prydain yn yr iaith Rwsieg. Ar ôl dychwelyd i Gymru lansiodd y cylchgrawn Planet a’i olygu am bymtheg mlynedd cyn mynd yn Gyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru. Ef oedd sylfaenydd a chyfarwyddwr cyntaf Sefydliad Mercator a fu’n arwain ystod o brosiectau Ewropeaidd yn ymwneud ag ieithoedd a llenyddiaeth dros gyfnod o ddeg mlynedd ar hugain. Derbyniodd Ned Thomas Radd er Anrhydedd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant y llynedd. Mae’n Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru, yn Gymrawd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac fe’i urddwyd i’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol 2018.

Meddai Ned Thomas ‘Bydd y syniad o leiafrif ieithyddol yn ein harwain ni ar y naill llaw at hanes syniadau am natur a datblygiad iaith, ond hefyd at hanes gwleidyddol – sut y trefnir y gofod ieithyddol o fewn gwladwriaethau ac ymerodraethau. Dyma hanes gorthrwm a gwrthdaro, ond hefyd hanes yr ymdrechion i godi uwchben y gyflafan a chanfod patrymau o gyd-fyw’n heddychlon. Pan ddatblygodd Ewrop yn endid gwleidyddol, ceisiodd y sefydliadau Ewropeaidd warantu o leiaf rhai hawliau ieithyddol i bob un o’i dinasyddion, proses a ddaeth yn fater o frys ac yn fwy cymhleth wrth i’r Undeb ehangu tua’r dwyrain. A phan grëwyd strwythurau ar y cyd gan y lleiafrifoedd, cawsant lais, os llais egwan iawn, o fewn y sefydliadau Ewropeaidd. Heddiw mae globaleiddio a datblygiad technoleg, yr argyfwng hinsawdd a mudo rhyngwladol, a’r ymateb i’r pethau hyn, yn newid cyd-destun ein trafodaeth, ond nid yr angen am atebion.’

Medda’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, ‘Edrychwn ymlaen yn eiddgar at glywed Ned Thomas yn traddodi darlith O’Donnell eleni. Gwnaeth gyfraniad sylweddol a hirhoedlog dros ddegawdau lawer i fywyd deallusol Cymru ac ehangach, yn rhyngwladol, i faes ieithoedd lleiafrifedig ar draws Ewrop. Dyma ddarlith amserol i ni yng Nghymru wrth i ni ystyried ein hunaniaeth Ewropeaidd a’n perthynas â chenhedloedd a chymunedau ieithyddol cysefin yn rhyngwladol.’

Traddodir y ddarlith yn fyw yn Ystafell y Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac ar-lein trwy Zoom ar ddydd Iau, 18 Mai am 17:30.

Darlith yn Gymraeg fydd hon gyda chyfieithu ar y pryd i’r Saesneg.

E-bostiwch canolfan@cymru.ac.uk i gofrestru i ddod i’r Llyfrgell neu i dderbyn y ddolen Zoom.

Digwyddiad rhad ac am ddim. Bydd paned am 17:00.

Croeso cynnes i bawb!

Nodyn i’r Golygydd


Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk  

1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol.

2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk  

3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru ddathlodd ei ganmlwyddiant yn 2021: geiriadur.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau