Skip page header and navigation

Cynhaliodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Ddiwrnod y Diwydiant Lletygarwch yn Adeilad IQ ar Gampws SA1 Glannau Abertawe ddydd Llun 22 Mai.  

Cynhadledd Lletygarwch 2023 – llun grŵp o fyfyrwyr Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol y tu allan i’r IQ.

Ymunodd mwy na 600 o ddarpar weithwyr proffesiynol, myfyrwyr cyfredol a cholegau AB yn y digwyddiad yn bersonol ac ar-lein. Cafodd y mynychwyr eu hannog a’u haddysgu am yrfaoedd a thueddiadau o fewn sector Lletygarwch ffyniannus Cymru a chyfleoedd tu hwnt.  

Roedd y siaradwyr yn cynnwys gweithwyr proffesiynol blaenllaw yn y diwydiant lletygarwch sy’n gweithio yn ne Cymru yn cynnwys Thomas Ferrante, Cyfarwyddwr Grŵp yng Nghasgliad Seren; Christie Hayes, Rheolwr Bwyty’r Flwyddyn, Beach House; Vicky Probert, Cyfarwyddwr Gwerthu yn Village Hotels; a Martyn Guest, Prif Gogydd Stadiwm Swansea.com.  

Hefyd clywodd y mynychwyr gan bencampwyr cyfredol cystadleuaeth Cogydd Ifanc Gweinydd Ifanc y Byd, Tilly Morris ac Ali Halbert, a roddodd Gymru ar y llwyfan ryngwladol ar ôl ennill y rownd derfynol ranbarthol a gynhaliwyd gan y Drindod Dewi Sant yn Abertawe yr hydref diwethaf a phencampwriaethau’r byd ym Monaco.

Rhoddodd Sean Valentine FIH, Rheolwr Gyfarwyddwr Cystadleuaeth Cogydd Ifanc Gweinydd Ifanc y Byd, gyflwyniad i’r gystadleuaeth, a thrafododd system Michelin yn y DU a’r sector Lletygarwch yn ei gyfanrwydd.  Rhannodd academyddion y Drindod Dewi Sant o feysydd Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol a Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus eu harbenigedd hefyd.  

Pencampwyr Byd YCYW Tilly Morris ac Ali Halbert yn cael cyfweliad.

Meddai Ffion Cumberpatch, Rheolwr y Rhaglen Lleoliadau ar gyfer Rheolaeth Gastronomeg Ryngwladol yn y Drindod Dewi Sant:  “Roeddem ni wrth ein boddau i gynnig Cynhadledd Letygarwch a ddaeth ag arbenigwyr a darpar weithwyr proffesiynol at ei gilydd mewn lleoliad a ganiataodd iddyn nhw rwydweithio yn ogystal â dysgu, gan greu’r cysylltiadau hollbwysig hynny â’r diwydiant.”

Ychwanegodd Robyn Griffiths, Rheolwr Rhaglen ar gyfer MBA Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol yn y Drindod Dewi Sant:  “Rydym ni’n credu’n fawr ei bod hi bellach yn amser gwych i ymuno â’r diwydiant lletygarwch.  

“Gyda’r Drindod Dewi Sant yn cynnig cyfleoedd anhygoel am leoliadau, megis yng Nghasgliad Seren, Thomas Pontcanna, Ynyshir, Gwestai Marriott a Hilton i enwi ond ychydig, rydym ni’n rhoi i’r myfyrwyr y cyfleoedd gorau posibl yn y diwydiant i gyd-fynd â’u gradd.”

Mae modd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes lletygarwch archwilio cyrsiau arbenigol y diwydiant a gynigir yn y Drindod Dewi Sant ym meysydd Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol neu Reolaeth Gastronomeg Ryngwladol.

Cynhadledd Lletygarwch 2023 – Pum aelod o’r panel yn sefyll gyda Lawrence Blake.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau