Skip page header and navigation

Mae’r Is-Ganghellor sydd wedi gwasanaethu am y cyfnod hiraf yng Nghymru, yr Athro Medwin Hughes, DL, wedi cael ei anrhydeddu gan Ei Fawrhydi y Brenin a’i benodi’n Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig [C.B.E.] yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd 2023.

Portread o’r Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor PCYDDS.

Dyfarnwyd yr anrhydedd i’r Athro Hughes am ei wasanaeth i addysg a’r Gymraeg, ac fe’i cydnabyddir am ei gyfraniad personol rhagorol i’r system addysg yng Nghymru.

“Rwyf yn gwerthfawrogi’n fawr yr anrhydedd a ddyfarnwyd i mi”, meddai’r Athro Hughes. “Mae’r gydnabyddiaeth yn adlewyrchu’r gefnogaeth enfawr rwyf i wedi’i derbyn gan fy nheulu, fy nghydweithwyr agosaf, staff a phartneriaid strategol yn ystod fy 25 mlynedd yn Is-Ganghellor”.

Drwy gydol ei gyfnod hir yn y swydd mae wedi cyflwyno newidiadau systemig yn y system addysg. Roedd yn gyfrifol am yr uno mwyaf erioed ym maes Addysg Uwch yng Nghymru, gan ddod â phedair prifysgol a dau Goleg Trydyddol at ei gilydd i greu strwythur unol. Aeth i’r afael yn gadarn â phroblemau hanesyddol Prifysgol genedlaethol Cymru mewn cyfnod pan oedd ‘Cymru’ a’r sector addysg uwch wedi colli eu henw da.  Bu’n gyfrifol am ddiogelu rhai o asedau diwylliannol allweddol y genedl oedd mewn perygl o gael eu colli am byth – Gwasg Prifysgol Cymru, Geiriadur Prifysgol Cymru, y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a Gwasg Gregynog.

Mae wedi bod yn llysgennad cryf dros hyrwyddo’r Gymraeg mewn addysg uwch a bywyd cyhoeddus ledled Cymru. Mae ei rôl ragweithiol wrth osod y Gymraeg yn y brif ffrwd yn cwmpasu 30 mlynedd o ymgysylltu.

Ag yntau’n gefnogol ers tro byd i addysg gynhwysol, mae wedi ysgogi sawl menter yn hyrwyddo cydraddoldeb rhyngddiwylliannol ledled Cymru.

Mewn ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Cadeirydd Cyngor y Brifysgol, yr Hybarch Randolph Thomas

“Rwyf i wrth fy modd fod yr Athro Medwin Hughes wedi cael ei gydnabod am ei gyfraniad eithriadol i Gymru. Bu ei arweinyddiaeth yn allweddol yn trawsnewid PCYDDS a diogelu gwaddol Prifysgol Cymru. Mae’r Brifysgol yn ei longyfarch ar yr anrhydedd ac yn diolch iddo am ei wasanaeth hir.”

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau