Skip page header and navigation

Heddiw (12 Gorffennaf), dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Pam Berry yn ystod seremonïau graddio haf Y Drindod Dewi Sant yn Arena Abertawe.

Gan gwisgo gwn ddu a chap academaidd, mae Pam Berry yn sefyll rhwng Jane O’Rourke a Medwin Hughes, y ddau mewn gynau ffurfiol.

Ganed Pam yng Nghwm Tawe ym mhentref Cwmtwrch. Dechreuodd ei chysylltiad â’r Brifysgol pan hyfforddodd i fod yn Athrawes yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin. Bu’n dysgu am flwyddyn cyn penderfynu nad addysgu oedd ei galwedigaeth wedi’r cyfan.

Penderfynodd Pam ymuno â Gwasanaeth Gyrfaoedd yr Awdurdod Lleol fel Cynorthwyydd Cyflogaeth a drodd yn ddechrau gyrfa lwyddiannus o 30 mlynedd. Ar yr un pryd, gwasanaethodd Pam ar nifer o bwyllgorau gan gynnwys fel Llywodraethwr ar Gorff Llywodraethu Coleg Castell-nedd Port Talbot a Llywodraethwr Ysgol yn Ysgol Gynradd Parkland. Dyma le cyfarfu gyntaf â Dr Gerry Lewis a aeth ymlaen yn ddiweddarach i Gadeirio Cyngor Prifysgol Fetropolitan Abertawe.

Pan ymddeolodd Pam o’r Gwasanaeth Gyrfaoedd, wnaeth hi ddim rhoi’r gorau i weithio. Ymunodd ag elusen Cynllun Addysg Peirianneg Cymru neu STEM Cymru ac mae’r ymgysylltu hwn wedi parhau hyd yn hyn, rhyw 11 mlynedd yn ddiweddarach.

Yn y seremoni heddiw, cafodd ei hanrhydeddu i gydnabod ei gwasanaethau rhagorol i’r Brifysgol ac i bobl ifanc. Cyflwynwyd Pam Berry i’r gynulleidfa heddiw gan Jane O’Rourke, Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau Dynol y brifysgol.  Dywedodd hi:

“Mae’n anrhydedd ac yn fraint fawr iawn cael cyflwyno Pam Berry yn Gymrawd Er Anrhydedd y Brifysgol.

“Mae’n anodd yn yr amser sydd ar gael i ddal maint ac ehangder cyfraniad Pam i Gyngor y Brifysgol ers iddi ymuno â Bwrdd Athrofa Gorllewin Morgannwg am y tro cyntaf. Mae hi wedi gwasanaethu ar adegau o newid sylweddol gan gynnwys yr uno rhwng Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Chwaraeodd ran hanfodol fel rhan o’r gweithgor wrth ddod â’r ddau Gyngor ynghyd.

“Siaradais ag un o’n Cyfarwyddwyr Academaidd sydd wedi gweithio’n helaeth gyda Pam a sylwodd ei bod bob amser wedi bod yn barod i fynd y filltir ychwanegol yna i gyflawni nodau ac i fynd â phobl gyda hi ar y daith honno. Nododd hefyd bod brwdfrydedd Pam yn dod â mwy o bobl i mewn i weithgareddau STEM. Mae’n ei hystyried hi fel un o’r modelau rôl gorau y gallem ei chael ac mae ei hymroddiad, ei brwdfrydedd, a’i pharodrwydd i helpu pobl ifanc yn rhai o’i rhinweddau nodedig sydd wedi gwneud gweithio gyda hi yn gymaint o bleser.

“Mae Pam wedi byw a gweithio erioed yn Abertawe a’r cyffiniau ac mae wedi bod yn hynod gefnogol i’r Brifysgol ac i gynifer o bobl ifanc mewn Ysgolion a Cholegau ar draws y rhanbarth.”

Trwy ei gwaith gyda EESW STEM Cymru, mae Pam wedi dod â mwy o gysylltiadau ag ysgolion a cholegau AB i’r Brifysgol. Mae hi wedi teithio ar draws De Cymru i sefydlu prosiectau STEM a chefnogi disgyblion trwy gydol eu taith prosiect. Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Pam Berry:

“Hoffwn ddiolch i’r Is-ganghellor, yr uwch dîm rheoli ac aelodau’r cyngor am ddyfarnu’r anrhydedd hwn i mi.

“Hoffwn hefyd ddiolch i rai o’r staff academaidd ym meysydd peirianneg, cyfrifiadureg a dylunio cynnyrch am eu cymorth a’u cefnogaeth ac yn arbennig i’r technegwyr yn ogystal - hebddynt ni fyddwn wedi gallu cael unrhyw lwyddiant. Ni allaf longyfarch pob aelod o staff y bûm yn gweithio gyda nhw ond hoffwn ddiolch i’r Is-ganghellor, y cadeirydd, y cyngor, Jane O’Rourke, Sarah Clark a’i thîm ac yn allweddol iawn Eirwen Nicholls a Margaret Williams yn swyddfa’r is-gangellorion sy’n gwneud ein bywydau fel aelodau’r cyngor yn llawer haws trwy fod mor gymwynasgar.

“Hoffwn orffen trwy ddiolch eto i’r brifysgol a dymuno llwyddiant mawr i’r graddedigion. A gaf i eich annog i ymrwymo i’ch cymunedau ac i wirfoddoli gan y byddwch chi’n cael llawer mwy allan o hyn, nag y gwnaethoch chi ei roi i mewn, ac yn arwain ymlaen o’r hyn a ddywedodd y siaradwr blaenorol, mae’n creu cymunedau gwell hefyd. Diolch yn fawr.”


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon