Skip page header and navigation

Mae Judy Chen Hsieh wedi derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd yn Y Drindod Dewi Sant i gydnabod ei harweiniad rhyngwladol i arweinyddiaeth ryngwladol i gefnogi deialog ryngddiwylliannol a rhyng-ffydd a hyrwyddo Bwdhaeth.

Dr Jeremy Smith, Judy Chen Hsieh a Medwin Hughes.

Cafodd Judy ei geni a’i magu yn Nhaiwan, lle hyfforddodd yn y gwyddorau, gan ennill gradd mewn Peirianneg Gemegol o Brifysgol Technoleg Genedlaethol Taipai. Oddi yma symudodd i ddysgu, gan gymryd ei swydd gyntaf fel darlithydd Cemeg yn Sefydliad Technoleg Li Ming yn Nhaiwan, coleg sy’n ymroi i gydweithrediad diwydiannol, cyrsiau galwedigaethol a sgiliau ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.

Dros y 30 mlynedd nesaf, ffynnodd ei gweithgareddau masnachol hefyd, yn amrywio o fewnforio dodrefn rhyngwladol i weithrediadau cyfanwerthu cymunedol ac o newyddiadurwr lleol i swyddog gweithredol cwmni cyfryngau rhanbarthol ac o fuddsoddi mewn tai i fod yn hyfforddwr yoga yng Ngholeg Richland yn Dallas - felly ni chollodd y cysylltiad hwnnw ag addysg.

Yn cyflwyno Judy Chen Hsieh i’r gynulleidfa oedd Dr Jeremy Smith, Deon Cynorthwyol y Sefydliad Addysg a Dyniaethau yn y brifysgol. Dwedodd ef:

“Mae’n bleser mawr gennyf gyflwyno i chi Mrs Judy Chen Hsieh ar gyfer dyfarniad Doethuriaeth er Anrhydedd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Er holl lwyddiant masnachol a busnes Judy, nid busnes a chyfryngau rhyngwladol a helpodd i lunio pwy oedd hi na diffinio’r hyn a wnaeth. Yn hytrach, dau ddigwyddiad arloesol, rhyw ddwy flynedd ar bymtheg oddi wrth ei gilydd, oedd y sbardunau ar gyfer cerfio ei gwaith ym maes sicrhau heddwch.

Roedd y cyntaf ym 1984, yn fuan ar ôl iddi gyrraedd yr Unol Daleithiau, lle cyfarfu am y tro cyntaf â’r Hybarch Feistr Chin Kung, sylfaenydd Bwdhaeth Western Pureland. Yr ail ddyddiad allweddol ym mywyd Judy oedd Medi 11eg 2001, y diwrnod y bu awyrennau a herwgipiwyd hedfan i mewn i dyrau Canolfan Masnach y Byd yn Efrog Newydd a’r Pentagon yn Washington. Cafodd y digwyddiad hwn effaith fawr ar Judy oherwydd tra ei bod hi yn Dallas, roedd un o’i merched yn byw yn Efrog Newydd a’r llall yn Washington.

Roedd hyn I Judy yn cynrychioli popeth roedd hi’n credu ynddo ac wedi gweithio iddo ac yn ei gadael yn benderfynol o ddyblu ei hymdrechion dros achos heddwch. Erbyn hyn, dewisodd Judy ddefnyddio’r hyn a oedd ar gael iddi i’r perwyl hwn, a hynny trwy’r gwasanaethau cyfryngol yr oedd wedi’u datblygu a’i chysylltiadau busnes a gwleidyddol ag arweinwyr ar draws y byd, yn ogystal â’i hangerdd parhaus dros rym trawsnewidiol addysg.

Dechreuodd ei gorsafoedd teledu nawr ddarlledu negeseuon gobaith, heddwch a thosturi, trwy weithdai a darlithoedd yr hybarch feistr 24 awr y dydd. Roedd miliynau yn gweld gweledigaeth o obaith, heddwch a chariad yn lle trais, casineb a rhaniad. Bu’n helpu i drefnu rhwydwaith o gynadleddau Rhyng-ffydd, Rhyngddiwylliannol rheolaidd, ar draws y byd, a ddaeth ag arweinwyr a llefarwyr cymunedol o wahanol gefndiroedd, crefyddau ac ethnigrwydd at ei gilydd, i archwilio trwy ddeialog ein cyffredinedd dynol sylfaenol, beth bynnag fo’n ffydd, diwylliant neu gefndir.

Mae gwaith Judy ym maes deialog rhyng-ffydd, rhyngddiwylliannol, ac ar gyfer achos ehangach heddwch byd-eang wedi bod yn aruthrol ac yn ddylanwadol. Mae hi wedi gweithio’n ddiflino a chydag ymdeimlad dwys o wasanaeth, mewn ffordd dawel, ddiymhongar ac am y gwaith hwn rydyn ni’n ei hanrhydeddu heddiw.”

Wrth dderbyn ei gwobr, ychwanegodd Judy Chen Hsieh:

“A gaf i ddiolch i chi i gyd am yr anrhydedd mawr yr ydych wedi ei roi i mi heddiw. Diolch i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am ei chefnogaeth i waith yr Hybarch Feistr Chin Kung. Dduw bendithia pawb. Mae heddwch a harmoni yn dechrau gyda phob un ohonom.”


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau