Skip page header and navigation

Mae taith ddysgu Dr Felicity Healey-Benson yn arddangos ei phenderfyniad diwyro, ei hysbryd entrepreneuraidd, a’i hymrwymiad i ysgogi newid positif. Yn fyfyriwr yn yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd, roedd ei hymchwil yn canolbwyntio ar brofiadau darlithydd o feithrin Sgiliau Meddwl ar Lefel Uwch (HOTS) mewn addysg, gan bwysleisio creadigrwydd, datrys problemau, a meddwl yn feirniadol ymhlith myfyrwyr.

Yr Athro Kathryn Penaluna a Dr Felicity Healey-Benson yn gwenu ac yn gwisgo gynau academaidd coch, cyflau gwyrddlas a hetiau du.
Yr Athro Cysylltiol Kath Penaluna, Cyfarwyddwr ARDEC, a Dr Felicity Healey-Benson

Mae hyn yn cyd-fynd â phwyslais ein prifysgol ar addysg entrepreneuraidd, ac mae ymchwil ffenomenolegol arloesol Dr Felicity Healey-Benson wedi dwyn safbwynt newydd i’r maes.

Yn ystod pum mlynedd o gydbwyso astudiaethau doethurol rhan-amser, ei hymrwymiad proffesiynol i brosiectau yn yr Athrofa Ryngwladol ar gyfer Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol (ARDEC), a bywyd yn fam i dri o blant bach, sefydlodd a chyd-sefydlodd Dr Healey-Benson dair menter lwyddiannus.

Fe wnaeth ei blog adfyfyriol, EmergentThinkers.com, ennill dilynwyr o fwy na 150 o wledydd. Cydsefydlodd yr Harmonious Entrepreneurship Society (Ltd) hefyd gyda’r Athro David A Kirby, i fynd i’r afael â rôl entrepreneuriaeth wrth daclo her cynaliadwyedd. Yn ogystal, cyd-sefydlodd hanfod.NL, cymdeithas ddysgedig ar ffenomenoleg gyda Dr. Mike Johnson o Brifysgol Caerdydd. Ar hyn o bryd, mae Dr Healey-Benson yn cyd-olygu llyfr ar gyfraniad ffenomenoleg i Ddysgu Rhwydweithiol.  

Meddai: “Wrth adfyfyrio ar fy nhaith, rwy’n chwyddo â llawenydd aruthrol a diolchgarwch mawr am yr unigolion hyfryd rydw i wedi dod ar eu traws yn ystod fy astudiaethau doethurol. Mae’r profiad trawsnewidiol hwn wedi cynnwys gwahanol fathau o dwf, ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar am y cymorth a’r ysbrydoliaeth amhrisiadwy a gefais gan y rhai o’m cwmpas.

“Mae’r sgiliau entrepreneuriadd rydw i wedi’u mireinio, y safbwyntiau rhyngddisgyblaethol rydw i wedi’u cael, a’r cysylltiadau rydw i wedi’u meithrin gydag unigolion o’r un anian wedi chwarae rhan hollbwysig wrth lunio fy hunaniaeth broffesiynol.

“Mae fy nhaith yn enghraifft o werth mawr gweithgareddau menter i ddatblygiad cyffredinol ymchwilwyr. Trwy gofleidio entrepreneuriaeth a’i sgiliau cysylltiedig, mae gennym y grym i gyfrannu’n sylweddol at ddyfodol cynaliadwy a ffyniannus. Trwy feithrin arloesi, ysgogi newid positif, a gwneud cyfraniadau ystyriol i gymdeithas, gall ymchwilwyr baratoi’r ffordd i yfory gwell.”

Meddai’r Athro Cysylltiol Kath Penaluna, Cyfarwyddwr ARDEC: “Ers i ni gwrdd â Felicity gyntaf, roedd hi’n amlwg bod sawl synergedd rhwng ei hymchwil hi a’n nodau dysgu entrepreneuraidd ni, y datblygwyd sawl un ohonynt drwy ein gwaith â’r Cenhedloedd Unedig.

“Mae dulliau ymchwil ffenomenoleg yn ymwneud â phrofiadau bywyd, a dysgu drwy brofiad yw’r ffordd orau o addysgu addysg mentergarwch, lle mae’n rhaid i chi wneud rhywbeth er mwyn dysgu, nid dim ond clywed amdano mewn darlith. Bydd ymchwil Felicity’n ein helpu ni i barhau i ddatblygu ein harlwy mewn mentergarwch cynaliadwy yn y Drindod Dewi Sant, ac i adeiladu ar ein Gwobr 2022-3 yn Brifysgol Entrepreneuraidd Ewropeaidd y Flwyddyn gan Triple E.” 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau