Skip page header and navigation

Mae Kaycee Blake yn enillydd Medal Arian IMMAF y Byd Jiu- Jitsu Brasil (BJJ) a hyfforddwr Chrefftau Ymladd Cymysg (MMA). Penderfynodd ddod i astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar ôl cael anaf difrifol yn ystod Pencampwriaethau IMMAF y Byd yn 2019.

Gwena Kaycee Blake yn ei gwisg academaidd.

Arweiniodd yr anaf at dorri rhan o asgwrn y tibia, ac o ganlyniad bu’n rhaid i Kaycee roi’r gorau i gystadlu a chymryd rhan mewn gweithgareddau MMA a BJJ am flwyddyn. Gwnaeth yr anaf iddi feddwl beth byddai’n ei wneud pe na bai’n gallu cymryd rhan mewn chwaraeon mwyach.

Meddai:

“Roeddwn i’n meddwl y gallai cael gradd helpu agor drysau na fyddai o reidrwydd ar gael i mi, ac y gallwn i ei chymhwyso i’m camp fy hun gan fy mod i ar ddechrau fy ngyrfa hyfforddi. Roeddwn i’n meddwl y byddai’n ffordd dda hefyd o allu cadw mewn cysylltiad o fewn y gamp a’r sector ei hun, hyd yn oed pe bai’r amser yn dod pan na fyddwn i’n gallu cystadlu neu hyfforddi mwyach. Byddwn i’n gallu trosglwyddo fy ngwybodaeth i’r genhedlaeth nesaf o athletwyr.

“Ar y pryd hefyd roedd gen i ferch flwydd oed brysur iawn ac fel rhiant sengl, roeddwn i’n meddwl pe bawn i’n cael fy anafu hyd yn oed yn waeth, sut fyddwn i’n gofalu amdani hi.”

Fe wnaeth Kaycee fwynhau pob agwedd ar y cwrs, o’r elfen ymarferol i’r theori, ac roedd wrth ei bodd yn gweld sut roedd hi’n gallu datblygu ei gwybodaeth a’i hyder.

“Mae wedi fy ngwthio’n gyson y tu hwnt i’r hyn rwy’n gysurus yn ei wneud yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol ond mae hefyd wedi fy nysgu i gredu ac i ymddiried ynof fi fy hun a’m gwybodaeth. Fel rhywun sy’n dioddef â gorbryder, mae’n dipyn o her i wneud hyn gan fy mod i’n amau fy hun yn gyson, fodd bynnag mae’r cwrs wedi dangos i mi y dylwn i ymddiried ynof fi fy hun 100% ac fy mod i’n dal i ddysgu’n araf i gefnogi fy hun yn fwy.”

Teimlai hefyd fod y cwrs wedi’i strwythuro’n dda a’i bod yn cael ei chefnogi gan ei darlithwyr.

“Roedd y darlithwyr ar fy nghwrs yn wych, yn enwedig Geraint a Dave. Cefais gefnogaeth aruthrol ganddynt drwy gydol y cwrs, bob cam o’r ffordd, ac roedd ganddyn nhw lawer mwy o ffydd ynof fi nag oedd gen i. Byddwn i’n anfon e-bost atynt yn gyson i wneud yn siŵr fy mod i ar y trywydd iawn gydag aseiniadau, neu i dawelu fy meddwl pan fyddwn i’n dechrau mynd i banig, a bydden nhw hefyd yn ateb nôl ac yn rhoi’r gefnogaeth oedd ei hangen arnaf. Felly diolch enfawr iddyn nhw oherwydd heb eu cefnogaeth nhw, fyddwn i ddim wedi cyflawni’r hyn rwy wedi.”  

Meddai’r darlithydd Geraint Forster:  

“Mae wir wedi bod yn bleser gweld Kaycee yn tyfu ac yn datblygu dros y tair blynedd diwethaf. Cofrestrodd yn wreiddiol ar ein cwrs blwyddyn Tystysgrif Addysg Uwch mewn Hyfforddiant Personol a Thylino Chwaraeon oherwydd doedd hi ddim yn meddwl ei bod hi’r ‘teip’ i ddilyn cwrs Prifysgol nac â’r gallu academaidd i wneud gradd. Mae’r ffaith ei bod hi bellach wedi graddio â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf ac yn bwriadu gwneud gradd Meistr yn dyst i’w hymrwymiad a’i hymroddiad.  

“Fel staff ar y radd, y cyfan a ofynnwn yw i fyfyrwyr fod â’r angerdd a’r ymrwymiad i eisiau dysgu – os ydynt yn dangos hynny, fe wnawn ni bopeth y gallwn i’w helpu i gyflawni’u potensial.”

Wrth i Kaycee edrych ymlaen at y dyfodol, mae’n awyddus i barhau â’i hastudiaethau er mwyn gwella ymhellach ei gallu i hyfforddi. Mae hi hefyd yn bwriadu ceisio sefydlu ei busnes ei hun yn datblygu sesiynau tylino, hyfforddiant personol a sesiynau taro un i un neu mewn grwpiau bach.  

Byddai’n annog eraill i ddilyn ôl ei throed a chofrestru ar y cwrs.  

“Fy nghyngor i fyddai sicrhau eich bod 100% yn siŵr cyn gwneud cais ac os ydych chi, ac os oes gennych chwaraeon neu ymarfer corff rydych chi’n ei fwynhau, ceisiwch ddeall sut y gallech roi’r hyn rydych wedi’i ddysgu a’ch gwybodaeth newydd ar waith yn eich camp chi yn ogystal â chwaraeon eraill. Gwnewch yn siŵr fod gennych syniad clir ynghylch ble rydych chi eisiau i’r cwrs hwn eich arwain ond bod gennych hefyd gynllun wrth gefn. Yn bwysicaf oll, ewch ati a mwynhau’r daith.” 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau