Ffair Yrfaoedd y Drindod Dewi Sant yn cysylltu myfyrwyr a graddedigion â chyflogwyr
Mis diwethaf, trefnodd Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ddigwyddiad llwyddiannus yn helpu myfyrwyr a graddedigion diweddar i ddod o hyd i opsiynau gyrfa posibl ac adeiladu rhwydweithiau proffesiynol.
Wedi’i chynnal yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe, daeth 170 o fyfyrwyr o Athrofa Rheolaeth ac Iechyd y Brifysgol, a thu hwnt, i gael sgyrsiau ynghylch profiad gwaith, rhaglenni graddedigion a chynlluniau gwirfoddoli.
Croesawodd y ffair amrywiaeth o gyflogwyr a sefydliadau gwirfoddoli gan gynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Heddlu De Cymru, Gyrfaoedd GIG Cymru (AaGIC), Cyngor Abertawe a’r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS) i enwi ond ychydig.
Roedd Cynghorwyr Gyrfaoedd y Brifysgol hefyd wrth law i ddarparu clinigau cymorth i unrhyw un a oedd yn dymuno cael arweiniad gyrfa, cyngor CV a hyfforddiant cyfweliadau - gwasanaeth y maent yn ei ddarparu’n rheolaidd i fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr.
Ar gyfer unrhyw westeion oedd am wella eu presenoldeb proffesiynol ar-lein, trefnwyd ffotograffydd i dynnu lluniau proffesiynol ar gyfer LinkedIn.
Gadawodd myfyrwyr a graddedigion y ffair gyda syniadau, cyfleoedd a chysylltiadau proffesiynol newydd.
Dywedodd Jane Bellis, Cynghorydd Gyrfaoedd Gweithredol:
“Fel Gwasanaeth Gyrfaoedd roeddem yn falch iawn o groesawu dros 30 o arddangoswyr i’r ffair yrfaoedd gyntaf yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe ar gyfer ein myfyrwyr. Diolch yn arbennig i’r holl fyfyrwyr a ddaeth draw i gymryd rhan yn y diwrnod, ac i’r holl staff a wnaeth iddo ddigwydd.
“Roeddem yn falch o groesawu ystod eang o gyflogwyr, elusennau a gwasanaethau y Drindod Dewi Sant yn y digwyddiad. Rydym yn gobeithio adeiladu ar y flwyddyn gyntaf hon o lwyddiant a dychwelyd yn 2024 gyda digwyddiad pellach i’n myfyrwyr a’n graddedigion.”
Cynhelir y Ffair Yrfaoedd nesaf ar gampws y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin ar ddydd Mawrth, Ionawr 23ain.
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
Ffôn: +447482256996