Skip page header and navigation

Bydd angen mwy na 400,000 o raddedigion ychwanegol yng Nghymru erbyn 2035 er mwyn ymateb i fylchau sgiliau a heriau gweithluoedd y dyfodol. Dyma ganfyddiad adroddiad newydd, Jobs of the Future, gan Universities UK.

Graddedigion yn chwerthin wrth iddynt daflu eu capiau academaidd i’r awyr ar bompren Bae Copr â’i waliau aur yn Abertawe.
  • Erbyn 2035, bydd 95% o swyddi newydd yng Nghymru ar lefel graddedigion, a disgwylir y bydd 88% o swyddi’r Deyrnas Unedig ar lefel graddedigion.
  • Bydd angen mwy nag 11 miliwn o raddedigion ychwanegol ar fusnesau’r Deyrnas Unedig erbyn 2035, gyda’r twf cyflymaf yn y galw am raddedigion ym meysydd STEM, iechyd, addysg a gwasanaethau busnes.
  • Prifysgolion Cymru yn cael eu canmol am feithrin sgiliau a phrofiadau gwerthfawr mewn diwydiannau newydd, gan gynnwys roboteg a deallusrwydd artiffisial (AI).

Bydd angen mwy na 400,000 o raddedigion ychwanegol yng Nghymru erbyn 2035 er mwyn ymateb i fylchau sgiliau a heriau gweithluoedd y dyfodol. Dyma ganfyddiad adroddiad newydd, Jobs of the Future, gan Universities UK (UUK), sy’n amcangyfrif y bydd 95% o swyddi newydd yng Nghymru ar lefel graddedigion erbyn 2035.

Yn y cyfamser, mae arolwg o gwmnïau FTSE 350 a gynhaliwyd ochr yn ochr â’r adroddiad yn dangos bod busnesau yn gosod eu golygon yn bendant ar y gronfa dalent yng Nghymru, gydag un o bob pump yn bwriadu recriwtio talent o ardal Caerdydd dros y pump i ddeg mlynedd nesaf.

Ar draws y Deyrnas Unedig, bydd angen mwy nag 11 miliwn o raddedigion ychwanegol i lenwi swyddi erbyn 2035, gyda’r twf cyflymaf yn y galw am raddedigion ym meysydd STEM, iechyd, addysg a gwasanaethau busnes. Ar hyn o bryd, mae 15.3 miliwn o raddedigion yng ngweithlu’r Deyrnas Unedig, felly mae hynny’n golygu cynnydd sylweddol yn y galw.

Mae disgwyl y bydd datblygiad AI yn benodol yn cael effaith sylweddol ar dueddiadau cyflogi, gyda graddedigion yn debygol o elwa o’r maes hwn sy’n tyfu’n gyflym. O ganlyniad i AI, bydd cynnydd net o 10% yn y swyddi yn y Deyrnas Unedig y bydd angen gradd ar eu cyfer dros yr 20 mlynedd nesaf, gan gynnwys bron i 500,000 yn rhagor o swyddi proffesiynol a gwyddonol.

Mae’r Athrofa Ryngwladol ar gyfer Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol (ARDEC) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi ymgorffori AI yn ei fframwaith addysgu. Mae hyn yn gwella galluoedd entrepreneuraidd y myfyrwyr yn sylweddol, ac mae hynny’n gwbl angenrheidiol o ystyried y galw cynyddol am alluoedd AI yn y farchnad swyddi. Drwy wneud defnydd o AI, mae’r rhaglen PGCert mewn Sgiliau Menter yn ymgorffori cyfuniad unigryw o ddysgu yn ôl eich pwysau eich hun a phrofiadau rhyngweithiol, cydweithredol sy’n efelychu senarios yn y byd go iawn. Mae ARDEC yn deall bod profiad o’r byd go iawn yn cyfoethogi’r dysgu’n sylweddol, a dyna pam mae lleoliadau gwaith sy’n galluogi’r myfyrwyr i weithio’n uniongyrchol gydag AI yn rhan annatod o’r rhaglen hefyd.

Mae’r newidiadau arwyddocaol hyn i’r tirlun cyflogaeth yn tanlinellu pwysigrwydd cynyddol dysgu gydol oes hefyd. Dywedodd dros hanner (54%) yr ymatebwyr i arolwg y FTSE350 eu bod yn disgwyl y bydd angen i weithlu’r dyfodol ailhyfforddi o leiaf unwaith yn ystod eu gyrfa o ganlyniad i gyflymder aruthrol newidiadau technolegol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru, Amanda Wilkinson:

“Mae mwy na chwarter gweithlu presennol y Deyrnas Unedig heb ddigon o gymwysterau ar gyfer y swydd y maen nhw ynddi – ac mae’r blynyddoedd lawer o dwf di-baid yn y galw am raddedigion yn golygu ein bod yn ceisio dal i fyny er mwyn arfogi ein cyflogwyr â’r hyn sydd ei angen arnynt i lwyddo.

“O iechyd a thechnoleg i sgiliau digidol ac addysg, mae graddedigion prifysgol yn elfen hanfodol ar gyfer llwyddiant yr economi, ond mae’n bwysig ein bod ni’n cael ein harfogi i allu parhau i ddiwallu’r angen hwn – a’n bod yn sicrhau bod addysg uwch yn fforddiadwy ac yn hygyrch a bod lefel uchel yr addysg a ddarperir gan ein sefydliadau ar hyn o bryd yn cael ei chynnal.”

Dywedodd Alex Hall-Chen, Prif Ymgynghorydd Polisi ar gyfer Cynaliadwyedd, Sgiliau a Chyflogaeth yn Sefydliad y Cyfarwyddwyr:

“Mae prinder parhaus a dybryd o ran sgiliau yn un o’r pryderon sy’n pwyso fwyaf ar fusnesau’r Deyrnas Unedig. Mae’r galw am sgiliau trosglwyddadwy – fel meddwl yn feirniadol a chyfathrebu – yn parhau’n gryf ar draws pob sector, a bydd sector addysg uwch y Deyrnas Unedig yn chwarae rôl allweddol yn datblygu llif o dalent gyda’r sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau er mwyn ffynnu.”

Wrth dynnu sylw at yr angen am ragor o weithwyr â sgiliau, mae UUK wedi canmol prifysgolion Cymru am feithrin sgiliau a phrofiadau y mae galw mawr amdanynt mewn diwydiannau newydd – o ymgorffori AI mewn cwricwla a fframweithiau addysgu i gefnogi graddedigion sy’n sefydlu cwmnïau newydd ym maes realiti rhithwir a datblygu technoleg roboteg sydd ar flaen y gad.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon