Skip page header and navigation

Nos Iau, 26 Hydref lansiwyd rhwydwaith newydd sef ‘Gorllewin Cymru Creadigol’ yng Nghanolfan S4C Yr Egin.  

Dyn yn siarad tu ôl i bodiwm; mae draig goch nesaf at y geiriau Cymru Greadigol yn Gymraeg a Saesneg i’w gweld ar sgrin y tu ôl iddo.

Bwriad y rhwydwaith newydd hon yw cynrychioli ac ymgysylltu’r diwydiannau creadigol yn y rhanbarth, sef siroedd Abertawe, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gâr a Nedd Port Talbot. Y blaenoriaeth gychwynnol ar gyfer rhwydwaith Gorllewin Cymru Greadigol yw canolbwyntio ar dŵf y sectorau sgrîn, cerddoriaeth, digidol ac ymchwil a datblygu.

Fel rhan o’r lansiad cafwyd rhagddangosiad arbennig o gyfres dogfen newydd S4C gan y cwmni cynhyrchu lleol Carlam sef “Ceffylau, Sheiks a Chowbois” sy’n dilyn hanes teulu o Ffairfach i Abu Dabi a sesiwn cwestiwn ag ateb bywiog am y dyfodol gall y rhwydwaith effeithio.

Dywedodd Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaieth:

“Mae lansio Gorllewin Cymru Greadigol yn newyddion cyffrous i’r sector, ac rwy’n falch iawn ein bod yn gallu cefnodi sefydlu’r rhwydwaith. Gobeithiwn y bydd creu Gorllewin Cymru Greadigol yn cefnogi cadw talent a datblygu sgiliau yn y dyfodol, yn gwella amrywiaeth creadigol a chyfleoedd ar draws y sector, ac edrychwn ymlaen at weld llawer o bartneriaethau a syniadau yn ffynnu fel rhan o’r fenter newydd hon.”

Mae rhwydweithiau tebyg wedi eu sefydlu’n barod yng Nghaerdydd a Gogledd Cymru sy’n profi i fod yn rhwydweithiau effeithiol i hyrwyddo’r diwydiannau creadigol. Yn ogystal, mae adroddiad diweddar ‘Screen Survey Wales’ gan Brifysgol De Cymru yn cydnabod fod yna glwstwr creadigol yn bodoli yn Ne Orllewin Cymru, ac yn rhagweld tŵf o 11.3% yno.

Dywedodd Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin:

“Gyda’r hyder a’r hanes o lwyddiant yn sgil pum mlynedd o osod gwreiddiau’r Egin a chanfyddiadau cychwynnol ymchwil diweddar yn nodi i’r Egin gynhyrchu effaith economaidd o £21.6 miliwn yn economi Cymru yn ystod 2022-2023, ac effaith economaidd yn Sir Gâr o £7.6 miliwn yn ystod yr un flwyddyn, rwy’n gyffrous i ddatblygu rhwydwaith Gorllewin Cymru Greadigol fydd â chydweithio, annog, cwestiynnu a dysgu yn rhan annatod ohono er mwyn codi proffil y diwydiannau creadigol a sbarduno twf pellach ar draws y rhanbarth.”

Grwpiau o bobl yn gwenu ac yn sgwrsio yn ystod y derbyniad.

Mae ariannu cychwynnol gan Cymru Greadigol, sef asiantaeth Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi a hyrwyddo’r diwydiannau creadigol yng Nghymru tuag at sefydlu’r rhwydwaith.

 Ychwanegodd Geraint Evans, Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi S4C:  

“Mae lleoliad pencadlys S4C yng Nghaerfyrddin yn rhoi’r cyfle perffaith i ni gyfrannu i’r prosiect blaengar yma.  

“Wrth weithio’n agos gyda’n partneriaid fe allwn ni adeiladu ar y gwaith gwych sydd yn cael ei wneud ar draws y rhanbarth.” 

Cafwyd sesiwn holi ac ateb ddifyr ar ddiwedd y noson gyda Catrin Rowlands, Captain Jac, Dyfrig Davies, Telesgop / TAC, Euros Llŷr, Carlam, Geraint Evans, S4C a Carys Ifan, Yr Egin yn cadeirio yn trafod cryfderau’r rhanbarth a sut hoffent weld y sector yn datblygu yn sgil y rhwydwaith. 

Y camau nesa yn dilyn y lansiad yw sefydlu grwp llywio gyda chynrychiolwyr o’r sectorau gwahanol, siroedd a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach er mwyn cyd-gynllunio’r digwyddiadau a datblygiadau nesaf.

Cadeirydd a phanel o bedwar yn eistedd ar lwyfan; Dyfrig Davies yn dal meicroffon ac yn siarad.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau