Skip page header and navigation

Mae dwy Seremoni Raddio ar gyfer ein graddedigion Campws Llundain yn cael eu cynnal heddiw yn y Guildhall yn Llundain.

Saith o fyfyrwyr mewn gynau academaidd yn gafael eu capiau yn yr awyr tu allan i fynediad deunawfed ganrif gothig y Guildhall, Llundain.

Mae dros 600 o ddarpar raddedigion, o lefel Tystysgrif Addysg Uwch i gyrsiau Ôl-raddedig, yn bresennol gyda’u ffrindiau, eu teuluoedd ac aelodau’r staff ar yr achlysur cofiadwy hwn.

Mae’r seremonïau graddio’n cynnig cyfle i ddathlu llwyddiant, gwaith caled ac ymrwymiad graddedigion y Drindod Dewi Sant ac yn rhoi cyfle i gymuned y Brifysgol dalu teyrnged i’r ymroddiad hwnnw.

Wrth annerch y darpar raddedigion, meddai’r Darpar Is-Ganghellor Yr Athro Elwen Evans, KC: “Mae heddiw yn ymwneud â chi a’ch llwyddiannau wrth i chi raddio o’r Drindod Dewi Sant. Mae wir yn fraint ac yn bleser eich croesawu yma heddiw, ar ddechrau eich dyfodol, mewn lleoliad sydd mor arbennig ac eiconig.

“Ers canrifoedd, mae sŵn camau llwyddiant wedi atseinio drwy’r coridorau hyn. Heddiw, eich camau pwysig chi sy’n atseinio ar y llwybr tuag at y dyfodol.

“Dymunwn bob llwyddiant i chi wrth i chi gyflawni eich nodau a’ch uchelgeisiau, a chofiwch gadw mewn cysylltiad. Mae eich dyfodol chi yn bwysig i ni.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau