Skip page header and navigation

Mae’r darlithydd Ysgrifennu Creadigol o’r Drindod Dewi Sant, Dominic Williams, wedi’i wahodd i berfformio yng Ngŵyl Farddoniaeth Morecambe eleni.

Mae lluniau o bump o’r cystadleuwyr yn amgylchynu poster digwyddiad.

Y penwythnos hwn, bydd yn ymuno â chwe deg dau o feirdd yn y Morecambe Winter Gardens am dridiau o weithdai, sesiynau meiciau agored, sioeau sy’n addas i deuluoedd, sêr adnabyddus, teithiau cerdded geiriau a blodeugerdd o farddoniaeth. Mae’r ŵyl eleni’n croesawu enwau cyfarwydd fel Brian Bilston, Carol Ann Duffy, a Roger McGough.

Yn ogystal â’i waith fel darlithydd, mae Dominic Williams yn fardd, yn berfformiwr ac yn fentor creadigol. Mae’n rhan o’r act gair llafar a symudiad byrfyfyr, Your Strangest Friend, gyda’r ddawnswraig gyfoes Stina Nilsson ac yn rhan o gydweithfa FYD, grŵp rhyngwladol o artistiaid cyfoes o Serbia, Sweden, Croatia, a Chymru.

Mae ei gyhoeddiadau diweddaraf yn cynnwys Pen & Paper: Punks in Print, traethawd telynegol darluniadol (Kultivera Productions, 2021); En galen man på tåget, casgliad o’i farddoniaeth a gyfieithwyd i Swedeg (Magnus grehn förlag, 2022) a The Lonely Crowd (Gwasg Iconau, 2022), cyfieithiad i’r Saesneg o farddoniaeth Bengali wreiddiol Anisur Rahman.

Cyn yr ŵyl, dywedodd Dominic Williams:

“Rwy’n gyffrous i fod yn cymryd rhan mewn digwyddiad mor bwysig ac i gael y cyfle hwn i weithio gyda’r beirdd eraill o Gymru sydd wedi’u gwahodd i lwyfannu’r arddangosfa arbennig hon o farddoniaeth Gymraeg gyfoes.

Daeth y syniad i arddangos barddoniaeth o Gymru yn Morecambe yn dilyn sgwrs rhwng y bardd Des Mannay a threfnydd yr ŵyl Matt Panesh. Yn dilyn eu trafodaeth am y sîn yng Nghymru, penderfynodd Matt ei fod eisiau arddangosfa o feirdd a barddoniaeth o Gymru yn yr ŵyl a dyna sut y cefais i wahoddiad.

“Bydd cymryd rhan mewn digwyddiad mor amlwg wrth gwrs yn brofiad bendigedig ond bydd hefyd yn gyfle i rannu syniadau a gwybodaeth. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at rannu fy mhrofiadau yn yr ŵyl gyda’m myfyrwyr pan fyddaf yn dychwelyd i’r campws.”

Mae’r rhaglen Ysgrifennu Creadigol yn y Drindod Dewi Sant wedi’i seilio ar ddiffiniad y Gymdeithas Ysgrifenwyr mewn Addysg Genedlaethol (NAWE) o’r pwnc. Ychwanegodd Dominic Williams:

Mae ein Rhaglenni Creadigol wedi’u cynllunio i feithrin awduron creadigol ac i hwyluso creu gweithiau newydd mewn cymuned gefnogol ond beirniadol. Mae myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu eu hymarfer gyda modiwlau sy’n codi ymwybyddiaeth greadigol a beirniadol o elfennau a thechnegau ysgrifennu effeithiol.

“Rydym yn cyflwyno barddoniaeth, rhyddiaith a drama ym mlwyddyn un ac yn ehangu’r ffocws yn yr ail a’r drydedd flwyddyn i feithrin ysgrifennu llais, ffurf a lle.  Ategir y sgiliau craidd hyn – ysgrifennu, ymchwil a golygu – gan fodylau sy’n eich cyflwyno i fydoedd cyhoeddi a pherfformio, sy’n eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth o ragolygon gyrfaol ysgrifenwyr yn y diwydiannau creadigol a chymhwysiad sgiliau ysgrifennu mewn cyddestunau entrepreneuraidd.”


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau