Skip page header and navigation

Mae gwaith wedi dechrau ar y Matrics Arloesi, y cam nesaf yn Ardal Arloesi Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn SA1 Glannau Abertawe. 

Saith o bobl yn sefyll wrth bostyn dur y tu mewn i adeilad y Matrics Arloesi yn PCYDDS. Yn rhan o’r grŵp mae’r Is-Ganghellor,  uwch aelodau PCYDDS a chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe.

Mae’r Matrics Arloesi’n ganolog i uchelgais y Brifysgol yn Abertawe a bydd yn darparu llwyfan newydd ar gyfer ymchwil a chyfnewid gwybodaeth Y Drindod Dewi Sant i gysylltu â chwmnïau rhyngwladol, BBaCh, microfentrau, entrepreneuriaid a buddsoddwyr traws-sector, a’u cefnogi i ysgogi twf masnachol ar gyfer economi Cymru sydd wedi’i grymuso’n ddigidol ac sy’n ehangu.

Wedi’i ariannu drwy bartneriaeth strategol rhwng y Brifysgol a Bargen Ddinesig Bae Abertawe, bydd y Matrics Arloesi’n annog ac yn cefnogi datblygu economi gynaliadwy a arweinir gan arloesedd, sy’n seiliedig ar wybodaeth, arloesedd ac entrepreneuriaeth.

Dywedodd yr Athro Ian Walsh, Profost campysau Abertawe a Chaerdydd Y Drindod Dewi Sant: “Mae’r Matrics Arloesi’n darparu cyswllt hanfodol i gampws ehangach y Brifysgol yn Abertawe, gan gynnwys IQ a’r Fforwm, Technium 1 a 2, Canolfan Dylan Thomas, Campws Busnes Abertawe,  Ardal Gelfyddydol Dinefwr, ALEX ac Adeilad y BBC.  Mae’n cynrychioli ehangiad mawr yn ecosystem arloesi’r Brifysgol ac yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i gefnogi twf economaidd a thrawsnewid yn rhanbarth Bae Abertawe.”

Mae’r adeilad yn arwydd o gam sylweddol ymlaen yn agenda carbon sero-net y Brifysgol gan ddarparu gofod 2,200 metr sgwâr o ansawdd uchel, a bydd wedi’i leoli ochr yn ochr ag adeiladau presennol y Brifysgol, sef IQ a’r Fforwm, yng nghanol Ardal Arloesi Abertawe. Mae’r Brifysgol yn gweithio ochr yn ochr â’r penseiri Stride Treglown a’r cwmni adeiladu Kier i wireddu’r datblygiad cyffrous hwn a fydd yn agor yn 2024.

Cynhaliwyd digwyddiadau cychwyn ar y safle ddydd Mercher a dydd Iau, 7fed ac 8fed Mehefin, lle’r oedd Mr Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru; y Gwir Anrhydeddus David T.C. Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Llywodraeth y DU; Arweinydd Cyngor Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart; ac uwch swyddogion yn cynrychioli Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn bresennol.

Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae gan Lywodraeth Cymru ffocws clir ar greu dyfodol economaidd cryfach, tecach a gwyrddach. Rydym am i Gymru fod yn wlad sydd ar flaen y gad o ran arloesi technolegau newydd a fydd o fudd i bobl yn eu bywydau bob dydd. Mae gan y Matrics Arloesi rôl bwysig i’w chwarae wrth gyflawni’r weledigaeth honno gan wasanaethu fel catalydd ar gyfer twf economaidd a ffyniant.

“Mae’r Matrics Arloesi’n enghraifft wych o’r byd academaidd a diwydiannol yn gweithio’n agos i helpu i yrru arloesedd a rhagoriaeth. Mae ganddo’r potensial i ddatgloi deallusrwydd cyfunol er mwyn mynd i’r afael â heriau cymhleth yn fwy effeithiol, cyflymu cyflymder arloesi a sbarduno newid ystyrlon yn ein cymdeithas.”

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies:

“Llongyfarchiadau i bawb sy’n ymwneud â’r cyfleuster newydd cyffrous hwn ar gyfer Abertawe. Mae Llywodraeth y DU yn falch o fuddsoddi ym Margen Ddinesig Bae Abertawe a helpu i greu lleoedd fel hyn lle gall ymchwilwyr, arloeswyr, busnesau, entrepreneuriaid a buddsoddwyr i gyd ddod at ei gilydd a lle gall syniadau ffynnu.

“Ynghyd â’n partneriaid, rydym am dyfu’r economi ddigidol yng Nghymru a chreu swyddi sy’n talu’n dda ar gyfer y dyfodol a lledaenu ffyniant. A lleoedd fel y Matrics Arloesi fydd yn helpu i sicrhau hyn.”

Ychwanegodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor Y Drindod Dewi Sant:

“Y Matrics Arloesi yw’r cam nesaf yn uchelgais y Brifysgol i drawsnewid glannau Abertawe yn gymdogaeth lle bydd pobl yn gweithio, yn astudio ac yn byw, a lle bydd y Brifysgol a’i phartneriaid yn cydleoli ac yn cydweithio. Gyda’n gilydd, rydym yn creu canolfannau menter newydd a chynlluniau cyflymu sgiliau uchel i dyfu busnesau newydd sy’n gysylltiedig â’n portffolio. Rydym hefyd yn datblygu sgiliau busnesau presennol ac yn denu buddsoddiad newydd i’r rhanbarth”.

I gloi, meddai yr Hybarch Randolph Thomas, Cadeirydd Cyngor y Brifysgol: “Nod y Brifysgol yw datblygu ein campysau ar draws y rhanbarth yn ganolfannau effaith sy’n cysylltu â blaenoriaethau cenedlaethol a rhanbarthol a sicrhau ein bod ni’n ymateb i anghenion economaidd a chymdeithasol ein cymunedau. Mae’r Matrics Arloesi’n ddatblygiad allweddol i’r Brifysgol ac rydym yn ddiolchgar o fod yn gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys Bargen Ddinesig Bae Abertawe, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ”.

Nodyn i’r Golygydd


Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn rhan o Grŵp Y Drindod Dewi Sant, conffederasiwn o nifer o sefydliadau gan gynnwys Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. Mae Prifysgol Cymru yn bartner i’r grŵp. Mae Grŵp Y Drindod Dewi Sant yn cynnig continwwm o addysg bellach i addysg uwch er budd dysgwyr, cyflogwyr a chymunedau.

Gweledigaeth Y Drindod Dewi Sant yw bod yn brifysgol sydd ag ymrwymiad i les a threftadaeth y genedl wrth wraidd ei holl weithgareddau. Yn ganolog i’r weledigaeth mae hyrwyddo ac ymgorffori system addysg sector deuol sy’n addysgu dysgwyr o bob oed a chefndir, ac sy’n ysgogi datblygiad economaidd yn y rhanbarth, ledled Cymru a thu hwnt.

Sefydlwyd y Brifysgol ym 1822 a dathlodd ei daucanmlwyddiant yn 2022. Hi yw man geni addysg uwch yng Nghymru. Siarter Frenhinol 1828 y Brifysgol yw’r hynaf gan unrhyw brifysgol yng Nghymru. Mae campysau’r Brifysgol wedi’u lleoli yn Abertawe, Caerfyrddin, Llambed, Caerdydd, Llundain a Birmingham.

Mae’r Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i wneud myfyrwyr yn ganolog i’w chenhadaeth trwy ddarparu cwricwlwm dwyieithog perthnasol ac ysbrydoledig, darparu amgylchedd dysgu cefnogol, buddsoddi yn ei champysau a’i chyfleusterau a sicrhau bod myfyrwyr, o bob cefndir, yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial.  

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o hyd at £1.3 biliwn mewn portffolio o raglenni a phrosiectau mawr ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Dros gyfnod 15 mlynedd y portffolio, bydd y Fargen Ddinesig yn rhoi hwb o £1.8 biliwn o leiaf i’r economi ranbarthol, wrth gynhyrchu dros 9,000 o swyddi. Arweinir Bargen Ddinesig Bae Abertawe gan y pedwar awdurdod lleol rhanbarthol - Cyngor Sir Gaerfyrddin, Cyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Benfro - ynghyd â Byrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Phrifysgol Hywel Dda, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a phartneriaid yn y sector preifat.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau