Skip page header and navigation

“Rwy’n dad i ddwy ferch a bachgen, ac mae fy ngwraig yn nyrs gymunedol,” meddai Clifford. “Ochr yn ochr â bywyd teuluol, treuliais 12 mlynedd yn hyfforddwr tennis, yn dysgu pawb o blant oed meithrin yr holl ffordd i’r henoed.

Clifford Musiyiwa yn gwenu tuag at y camera yn ei wisg a het academaidd.

“Roedd gweithio gyda phobl yn y ffordd hon yn golygu ei bod hi’n hawdd symud i waith cymorth, rhywbeth rydw i wedi’i wneud ers bron i ddegawd, yn ogystal â gofalu am bobl ag anghenion arbennig.”

Dywedodd Clifford, sydd mewn cyflogaeth lawn amser yn y sector gofal cymdeithasol, iddo fod yn chwilio am gyfle i ddatblygu ei yrfa wrth allu parhau i ofalu am ei blant bach gyda’i wraig.

“Pan welais hysbyseb ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 4 yn Y Drindod Dewi Sant, roeddwn i’n falch iawn, oherwydd roedd yn cynnig yr hyblygrwydd yr oeddwn i ei eisiau.

“Cofrestrais ar gyfer y cwrs yn syth oherwydd mae’n addas i’m maes gwaith, gan ganiatáu i mi gael y newyddion diweddaraf am wybodaeth gyfoes y sector fel y gallaf fod yn well o fewn fy mhroffesiwn.

“Cwrs blwyddyn gan fynychu dwywaith yr wythnos yw Lefel 4. Ceir 6 modwl (2 bob tymor), sy’n cynnwys Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol (IGC), Iechyd y Cyhoedd, Datblygiad Proffesiynol o fewn IGC a Seicoleg, ac fe wnes i elwa’n fawr o’r holl fodylau hyn.

“Roedd lle i wella o ran fy mherfformiad ar lefel 4, oherwydd roedd rhaid i mi weithio oriau ychwanegol i dalu am ofal plant. Ond mae fy ngwraig wedi fy herio i gadw i fyny gyda hi y tro hwn – cyflawnodd hi ragoriaeth yn ei chwrs nyrsio! – felly dyna rwy’n anelu ato yn fy ngradd Baglor, yr wyf yn ei astudio ar hyn o bryd.

“Rwy’n bwriadu achub ar gynifer o gyfleoedd ag y gallaf yn y dyfodol. Byddwn yn awgrymu i bob person, hyd yn oed os ydyn nhw’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn barod, i ddilyn cwrs sylfaenol o leiaf oherwydd mae’n agor drysau ac yn dysgu llawer i chi am y proffesiwn a chi’ch hun.”


Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau