Skip page header and navigation

Dros yr haf, fe wnaeth menter galonogol a roddodd fywyd newydd i arddangosfeydd blodau dros ben o briodasau ddod ag aelodau’r gymuned ynghyd, o bob oed, drwy weithredoedd caredig syml.

Pum merch yn gwenu yn cymryd tuswau o rosod o focs mawr.

Bu’r Athrofa Ryngwladol ar gyfer Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol (ARDEC) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gweithio gyda Chyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (SCVS), Lleoliadau Priodas Moethus Oldwalls ac Ysgol Gynradd Penyrheol i addysgu plant am rym gweithredoedd caredig syml a sut y gall cydweithredu greu gwerth cymdeithasol a chynaliadwy.

Mae’r prosiect, o’r enw Positive Posies, yn rhaglen arloesol sy’n hyrwyddo ailddefnyddio tuswau priodasol, sydd yn aml yn costio miloedd o bunnoedd ac sy’n cael eu hedmygu am un diwrnod yn unig.

Mae Positive Posies yn cydnabod harddwch a gwerth trefniadau blodau moethus, ac mae’n gweithio i gynnwys cymunedau i sicrhau bod y blodau’n cael bywyd hirach. Mae’r prosiect yn defnyddio gwirfoddolwyr i gasglu’r arddangosfeydd ar ôl seremonïau a’u dosbarthu i ysgolion, eglwysi, a grwpiau cymunedol sy’n cymryd rhan, lle cânt eu trawsnewid – neu eu “huwchgylchu” – yn duswon hyfryd.

Mae’r tuswon ffres hyn wedyn yn cael eu hanfon at y rheiny yn y gymuned a fyddai’n elwa’n fawr o fymryn o dosturi – pobl unig, sâl, hen, a’r rhai sydd wedi’u hallgáu. Mae 1500 o duswon wedi’u dosbarthu hyd yn hyn.

Mae nifer o fanteision i’r fenter hon. Mae’r prosiect wedi caniatáu i blant ysgol ddod yn gyfranwyr mentrus a chreadigol, a dysgu am gariad pobl at flodau a’r hyn y maen nhw’n eu cynrychioli mewn cymdeithas, wrth atgyfnerthu ysbryd cymunedol drwy weithgaredd sy’n cael effaith gynaliadwy hynod gadarnhaol.

Meddai Hazel Israel, Darlithydd mewn Addysg Entrepreneuraidd a Menter yn y Drindod Dewi Sant: “Nid yw’r fenter hon yn ymwneud â chynaliadwyedd yn unig. Mae’r disgyblion yn bod yn greadigol a mentrus iawn, gan greu gwerth diriaethol yn y byd go iawn a fyddai fel arall wedi cael ei daflu i ffwrdd a’i wastraffu.

“Mae ail-bwrpasu’r blodau hyn i wneud daioni yn addysgu ein cenhedlaeth iau am werthoedd empathi, gweithredu cadarnhaol, a dyfeisgarwch. Trwy uwchgylchu’r arddangosfeydd blodau hyn, mae plant ac aelodau’r gymuned yn dysgu y gallant greu harddwch, caredigrwydd a phwrpas yn y ffyrdd mwyaf syml.”

Meddai Pennaeth Ysgol Gynradd Penyrheol, Alison Williams: “Mae’r rhai sy’n creu’r tuswon yn profi llawenydd creadigrwydd a gwers ddofn troi rhywbeth byrhoedlog yn arwydd parhaol o ewyllys da, tra bo’r derbynwyr yn derbyn nid tusw yn unig, ond symbol o ofal cymunedol.”

Trwy gefnogi Positive Posies, mae’r Drindod Dewi Sant yn ailadrodd ei hymrwymiad i arferion cynaliadwy, ymgysylltiad cymunedol a chydweithredu, gan feithrin caredigrwydd a gwerth ar gyfer pobl eraill ym mhob cornel o Gymru.

Meddai Anna Jones, Pennaeth Ymgysylltu Dinesig yn y Drindod Dewi Sant: “Yn y Drindod Dewi Sant, rydyn ni nid yn unig yn cydnabod ein Cennad Ddinesig ffurfiol mewn cymdeithas a’r effaith y gall sefydliadau addysgol ei chael ar fywydau pobl, ond rydym hefyd yn deall fod dysgu’n digwydd mewn sawl ffordd i fyfyrwyr.

“Trwy gymryd rhan mewn prosiect mor wych, gallwn arddangos i’n myfyrwyr fod sgiliau bywyd sy’n cofleidio tosturi, cymuned a chyd-gynhyrchu yr un mor bwysig â’u hastudiaethau academaidd. Yr unigolion sy’n cymryd rhan yw ein cenhedlaeth nesaf, ac mae addysgu’r sgiliau hyn iddynt hefyd yn golygu gofalu ar ôl eu llesiant eu hunain i’r dyfodol a dyfodol ein cymunedau.”

“Roeddwn i’n hynod ddiolchgar i dderbyn tusw mor hardd,” rhannodd Heather Jones, derbynnydd 84 mlwydd oed. “Mae’n fwy na blodau’n unig; mae’n rhywbeth sy’n atgoffa fod pobl yno sy’n becso.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gefnogi neu gymryd rhan gyda Positive Posies, cysylltwch â Hazel Israel ar h.israel@uwtsd.ac.uk.

Plant yn cario tuswau i mewn i neuadd lle mae phobl hŷn yn eistedd.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon