Skip page header and navigation

Mae Steven Clarey yn un o raddedigion BA Ffilm a’r Cyfryngau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, ond bellach yn byw yn Ninbych-y-pysgod, mae’n wneuthurwr ffilmiau a ffotograffydd llawrydd enwog.

Steven Clarey, yn gwisgo dillad awyr agored cynnes a menig, yn dal camera gyda meicroffon allanol yn ei ddwylo.

Ers i Steven adael y Drindod Dewi Sant, mae wedi dilyn gyrfa yn y diwydiant ffilm a chyfryngau. Mae wedi cael cyfleoedd i weithio gyda nifer o frandiau byd-eang mawr fel Panasonic, Red Bull, Monster Energy, Aston Martin F1 a sawl un arall ledled y byd. Meddai:

“Rydw i wedi bod yn ffodus i gael cynifer o uchafbwyntiau yn fy ngyrfa hyd yma, o ffilmio’r ymgyrch lansio ar gyfer Lumix GH5 Panasonic ym Mozambique, gweithio ar Daith Ewrop Drift Innovation yn 2013, gweithio gyda Quest TV ar Le Mans 24 awr yn 2016/17, a’m rôl bresennol fel dyn camera nodwedd ar Bencampwriaeth Rallycross y Byd FIA, i enwi ychydig.”

Roedd Steven wedi cyrraedd croesffordd yn ei fywyd pan gofrestrodd yn fyfyriwr yn y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin. Roedd newydd adael swydd yr oedd yn anhapus iawn ynddi a phenderfynu y dylai roi cynnig ar rywbeth gwahanol, a gwnaeth gais i’r brifysgol. Dywedodd:

“Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth creadigol ac er nad oedd gen i unrhyw brofiad mewn ffilm a’r cyfryngau, roeddwn i’n meddwl y byddai’n gyfeiriad da i fynd iddo. Roedd yn help hefyd bod y campws yng Nghaerfyrddin mewn lleoliad gwych ac yn agos at dŷ fy rhieni.”

Cafodd Steven fod y cwrs BA Ffilm a’r Cyfryngau wedi newid ei fywyd. Ychwanega:

“Pan gofrestrais i ddechrau, fy mhrif ffocws oedd mwynhau bywyd fel myfyriwr a phartïa a chael hwyl. Fodd bynnag, yr eiliad y codais gamera a dechrau ffilmio cynnwys, newidiodd fy ffocws yn llwyr. Roedd y darlithwyr yn hynod gefnogol o’r cyfeiriad yr oeddwn i’n mynd â’m delweddaeth, sef ffilmio syrffio a chwaraeon eithafol.”

Ei hoff agwedd ar y cwrs oedd yr elfen ymarferol sy’n caniatáu hyblygrwydd i fyfyrwyr ffilmio prosiectau sy’n gweddu iddyn nhw a’u harddull.

Taniodd y cwrs yrfa Steven trwy ganiatáu amser iddo ymarfer ei grefft ochr yn ochr â’i astudiaethau, gyda’r darlithwyr wrth law i helpu i feithrin ei sgiliau a chael pen ffordd yn y diwydiant.

Byddai Steven yn treulio llawer o amser yn ffilmio syrffio yn ystod ei astudiaethau. Mae’r sgiliau a enillodd Steven o ganlyniad i hyn wir wedi ei helpu yn ei yrfa bresennol ym maes gwneud ffilmiau.

Dysgodd Steven lawer gan y cwrs, o olygu, cyfansoddi, a’r sgiliau a’i galluogodd i fwrw ati’n syth.

“Roedd y darlithoedd ar sinematograffi hefyd yn gymorth mawr iawn. Roedd cymaint o agweddau ar wneud ffilmiau nad oedd gen i syniad amdanynt yn flaenorol. Fe wnes i hefyd fwynhau’n fawr cymaint o waith ymarferol yr oedd yn rhaid i ni ei wneud. Dydw i ddim yn hoff iawn o draethodau ac er bod traethodau’n rhan hanfodol o’r cwrs, canolbwyntiais y rhan fwyaf o’m sylw ar yr aseiniadau ymarferol.”

Teimla Steven fod y cymorth a gafodd gan ei ddarlithwyr yn amhrisiadwy.

“Mae’n anodd mynegi faint o gefnogaeth a gefais gan y darlithwyr yn ystod fy amser yn y brifysgol. Roedd fel pe baent wedi helpu i ysgogi rhan o’m hymennydd nad oedd yno’n flaenorol, gan roi hyder i mi gyflawni beth bynnag yr oeddwn i ei eisiau. Roeddent hefyd yn hynod hyblyg gyda fy astudiaethau, a’m galluogodd i fynd allan i ymarfer fy nghrefft. Fe wnaethant hefyd helpu’n fawr gyda’r partneriaethau a’r cyfleoedd a gefais y tu allan i’r brifysgol; gan fy helpu i gael pen ffordd wrth weithio gyda brandiau a sefydlu fy hun yn weithiwr llawrydd gweithredol.”

Mae Dr Brett Aggersberg, Cyfarwyddwr Rhaglen BA Ffilm a’r Cyfryngau yn hynod falch o gyraeddiadau Steven. Meddai:

“Steven oedd yr ysbrydoliaeth i ni sefydlu’r radd BA Gwneud Ffilmiau Antur. Fel myfyriwr cynhyrchodd ffilmiau cyffrous yn seiliedig ar yr awyr agored a syrffio. Yna, fel myfyriwr graddedig, parhaodd i arbenigo mewn ffilmiau anturus a ffotograffiaeth, wrth deithio’r byd a gweithio i frandiau mawr.

“Roedd yn bleser croesawu Steven yn ôl i’r campws fel siaradwr gwadd yng Ngŵyl Cyfryngau Rhyngwladol Cymru. Roedd yn arbennig iawn gan ei fod yn cynrychioli un o’n partneriaid yn y diwydiant, Panasonic Lumix. Roedd ei sgwrs â myfyrwyr Coleg Sir Gâr, yn ogystal â’r Brifysgol, yn ysbrydoledig. Rhoddodd yr hyder i’r gynulleidfa arbrofi gyda’u syniadau a’u creadigrwydd ac anelu’n uchel at eu nodau mewn diwydiant.

“Mae Steven yn enghraifft o’r hyn rydyn ni’n gobeithio y bydd ein myfyrwyr yn ei gyflawni drwy astudio a chymryd rhan yn ein cyrsiau creadigol ac sy’n canolbwyntio ar y diwydiant.”

Wrth i yrfa Steven barhau i ffynnu, mae’n annog eraill i ddilyn ei ôl troed ac astudio Ffilm a’r Cyfryngau yn y Drindod Dewi Sant.

“Byddwn i’n dweud ewch amdani! Mae’n brifysgol wych, mwy agos-atoch na llawer o brifysgolion eraill yn y DU, sy’n caniatáu i chi gael perthynas well â’r darlithwyr sy’n gallu treulio mwy o amser gyda myfyrwyr unigol, gan helpu i’w cefnogi gyda’u hastudiaethau. Mae’r ardal hefyd yn anhygoel o hardd gyda golygfeydd rhyfeddol a digon i’ch cadw’n brysur y tu hwnt i’ch astudiaethau. Fe wnes i ddwli ar fy amser yn y Drindod Dewi Sant.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon