Skip page header and navigation

Bydd prosiect Hwb Crefftau Coleg Celf Abertawe, PCYDDS, yn cynnal yr Ŵyl Hwb Crefftau – rhaglen lawn o ddigwyddiadau, gan gynnwys arddangosfa ryngwladol yr Hwb Crefftau o grefftau cyfoes wedi’u dethol gan reithgor o Ewrop o fis Medi 15 i 26.

Lluniau torri lliwgar o esgid a jygiau mewn coch a glas wedi’u harddangos ar silff.

Gyda mwy na 30 o weithdai a sesiynau galw heibio wedi’u trefnu mewn chwe lleoliad ar draws Abertawe, bydd yr ŵyl yn ffocysu ar ymgysylltu â’r gymuned a chynhwysiant cymdeithasol trwy wneud crefftau. Bydd y gweithdai’n cael eu cyflwyno gan ymarferwyr crefftau gwych o bob rhan o Ewrop ac wedi’u teilwra i wahanol gynulleidfaoedd gyda’r nod o gynyddu ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o grefftau yn ogystal ag annog cyfranogiad pobl sy’n newydd i grefftau.

Mae’r arddangosfa’n gyfle gwych i arddangos ystod a ddetholwyd gan reithgor o Grefftau Cyfoes o bob rhan o Ewrop. Dim ond mewn lleoliadau yn yr Eidal, yr Almaen, Groeg, Portiwgal, ac Iwerddon mae’r gwaith wedi’i arddangos cyn ein cyrraedd ni yn Abertawe, Cymru. Y lleoliad nesaf yw Oslo, Norwy!

Ym mhob lleoliad, ychwanegir at yr arddangosfa gan ystod bellach o Grefftau a ddetholwyd gan reithgor o’r wlad sy’n ei chynnal.

Ychwanegir at yr arddangosfa gan ddetholiad helaeth o Lyfrgell Deunyddiau’r Hwb Crefftau, gyda samplau’n adlewyrchu gwahanol feysydd thematig, gan gynnwys cynaliadwyedd. Ymhlith yr enghreifftiau mae’r defnydd arloesol o wydr poeli a ailgylchwyd i greu gwydr pensaernïol wedi’i uwchgylchu’n hardd; yn ogystal â samplau a grëwyd gan wneuthurwyr gwadd yn ein Preswyliaeth Hwb Crefftau “Lliw Gwyllt”, yn archwilio ac arbrofi gyda’r broses lifio naturiol. Ymhlith y themâu eraill a archwiliwyd trwy ymholi deunyddiau , mae treftadaeth, arbrofi, ac arloesi technolegol.

Ochr yn ochr â’r Crefftau ffisegol, bydd yr arddangosfa’n cynnwys arddangosfa ddigidol (ar sgriniau ac y gellir cael mynediad iddynt trwy godau QR ar draws lleoliadau a chatalog yr Ŵyl). Mae hyn yn cynnwys cyfoeth o ffilmiau tiwtorial yr Hwb Crefftau, gydag Ymarferwyr Crefftau yn tywys y gynulleidfa trwy brosesau Crefft fel Llifio naturiol a phrintio sgrin ar decstilau; yn ogystal â Ffilmiau Cyfweld â Gwneuthurwyr, yn archwilio arfer, ysbrydoliaeth, a chymhelliant prif ymarferwyr crefftau ar draws Ewrop.

Meddai Shelley Doolan: “Dim ond rhan fach o’r Ŵyl Hwb Crefftau ehangach yn Abertawe rhwng 15-16 Medi 2023 yw’r holl weithgarwch hyn…Yn ogystal, bydd arddangosfeydd crefftau galw heibio a chyfleoedd ehangach i gymryd rhan.”

Meddai Mark Cocks, Deon Cynorthwyol, Athrofa Gwyddorau a Chelf Cymru: “Gyda hanes maith o addysgu sgiliau crefftau yng Ngholeg Celf Abertawe, buom wrth ein bodd bod ein staff a myfyrwyr wedi gallu gweithio ochr yn ochr â’r prosiect Hwb Crefftau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae ein hathroniaeth ysgol gelf o asio amrywiaeth o grefftau traddodiadol gydag arferion cyfoes yn rhoi i’n myfyrwyr y sgiliau cyflogadwyedd arloesol bydd yn rhaid eu cael yn eu gyrfaoedd creadigol yn y dyfodol. Felly, mae cynnal yr Ŵyl Ryngwladol Hwb Crefftau sydd ar y gweill yn enghraifft wych o’n harferion cydweithredol trwy’r cyfleoedd cyffrous ar gyfer ein cymuned i weld arddangosfeydd crefftau cyfoes a phrofi gweithdai gyda gwneuthurwyr arbenigol o bob rhan o Ewrop.”

Ymhlith pynciau’r gweithdai mae:  Gwneud les Borris, gyda gwneuthurwyr les anhygoel o Carlow, Iwerddon; cyflwyniad i Sashiko, math traddodiadol o frodwaith a phwytho Japaneaidd yn dyddio i gyfnod Edo (1615 – 1868); cyflwyniad i lifio botanegol; papier-maché cerfluniol gyda chrefftwyr Eustachio Santochirico, o Fatera, Yr Eidal; enamlo metel gyda Julia Griffiths-Jones artist-gwneuthurwr sy’n gweithio yng Nghymru; sesiynau cyflwyno i gerameg, paentio gwydr, gwneud patrymau a phrintiau, pwytho ar gyfer cwiltio a thrwsio a llawer mwy! 

Siapiau 3D.

Mae Julia Griffith Jones yn cynrychioli Cymru yn arddangosfa’r Hwb Crefftau ac fe fydd yn arwain gweithdy ar enamlo ar ddydd Gwener 15fed Medi yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS.  

Mae gwaith Julia yn ymwneud â throsi technegau tecstilau fel pwytho, cwiltio, clytwaith, brodwaith yn ffurf gwifren a metel; gan newid ei natur a swyddogaeth wreiddiol ond gan gadw ystyr yr addurniad. Cânt eu dylanwadu’n fawr gan waith tecstil a grëwyd gan ferched ochr yn ochr â’u dyletswyddau domestig yn fater o angen yn ogystal ag er mwyn cadw’n gynnes. Dechreuodd y diddordeb hwn pan oedd Julia’n fyfyriwr yn y Coleg Celf Brenhinol.

Mae Jessamy Kelly yn ddyluniwr-gwneuthurwr gwydr a cherameg cyfoes. Yn artist talentog sydd wedi ennill gwobrau, mae hi’n arbenigo mewn dylunio a chynhyrchu gwydr celf o ansawdd uchel. Mae hi’n creu cerfluniau, llestri a rhoddion unigryw â nifer cyfyngedig. Wedi’i magu yn Gogledd ddwyrain arfordir Lloegr, mae Jessamy yn byw a gweithio yng Nghaeredin ar hyn o bryd.

Gan weithio’n bennaf ym maes gwydr a cherameg, mae Jessamy yn aml yn cyfuno’r ddau ddefnydd yn ei gwaith. Mae hi’n gweithio’n bennaf gyda cherameg cast slip a gwydr wedi’i chwythu neu gastio; gan ddefnyddio technegau crefft â llaw traddodiadol fel ysgythru, torri â gwydr a swndio i fireinio ei gwaith.  Yn syml a chywrain o ran arddull, mae nifer cyfyngedig o bob darn ac maent yn ddarnau gwreiddiol wedi’u llofnodi. Yn 2009, enillodd Wobr Aur Gwneuthurwr Detholedig y Flwyddyn Crefftau a Dylunio. Enillodd hefyd y Wobr Gyntaf yn Arddangosfa 2010 Gaeaf Meffan.

Mae gwybodaeth Jessamy o ddylunio a gweithgynhyrchu gwydr diwydiannol wedi ei sefydlu’n arbenigwr yn y maes. Ymhlith ei chleientiaid mae cwmnïau fel Edinburgh Crystal a brand nwyddau cartref  Kevin McCloud, ‘Place’. Mae Jessamy yn defnyddio ei sgiliau dylunio gwydr arbenigol a’i gwybodaeth o weithgynhyrchu. Mae Jessamy yn cynnig gwasanaeth ymgynghori a chomisiynu dylunio pwrpasol; dylunio darnau pwrpasol, sy’n briodol i’w gofynion neu amgylcheddau penodol; ymgymerir â’r rhan fwyaf o gomisiynau. 

Mae Diana Butucariu yn artist sy’n gweithio gyda cherameg a gwydr.Yn hanu o Bucharest ac yn byw yn Stockholm ar hyn o bryd, maent yn gweithio gyda gwrthrychau cerflunio lle deuir â gwahanol dechnegau o feysydd crefft a ei gilydd.Mae cymysgedd o weadau, defnyddiau a thechnegau yn tanio’r synhwyrau ac yn pwysleisio’r ffin tenau rhwng gweithred yn y presennol a symudiad angof.Mae cymeriad dramatig y gwaith celf yn tynnu’r sawl sy’n edrych arno i mewn i ddialog am wahaniaethau a hunaniaethau cymdeithasol, cwympau diwylliannol, a gweddillion traddodiadol.

Diana Butucariu yn archwilio darn o wydr gweadog dwy droedfedd o hyd mewn gweithdy.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon