Skip page header and navigation

Bownsiodd Blwyddyn Newydd Tsieineaidd y Gwningen i mewn i Lambed ddydd Sadwrn 28 Ionawr gyda dathliad a ddenodd fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant a thrigolion o bell ac agos.

Deg athro a gwirfoddolwr yn gwenu gyda’i gilydd mewn llun grŵp.

Bu tîm o athrawon a gwirfoddolwyr dawnus o Sefydliad Confucius yn diddanu aelodau’r cyhoedd gyda cherddoriaeth a seremoni de Tsieineaidd draddodiadol, gan gynnig gweithgareddau creadigol megis plygu papur a chaligraffeg.  Gyda llawer o bobl yn dal i feddwl am eu haddunedau blwyddyn newydd i fod yn fwy iach yn 2023, cafwyd gweithdai Taiji, Kung Fu a Qigong hefyd.

Grŵp yn ymarfer caligraffi Tsieineaidd gan ddefnyddio brwshys, inc, a phapur coch o dan arweiniad Tang Yuqi.

Meddai Tang Yuqi, tiwtor Tsieinëeg Sefydliad Confucius:  

“Roedd yr Hen Neuadd ar gampws Llambed y Drindod Dewi Sant yn fwrlwm o sŵn pobl yn mwynhau ac yn dathlu diwylliant Tsieineaidd traddodiadol.  Roedd sŵn hynafol y pipa a’r guzheng yn llenwi’r awyr.  Roedd myfyrwyr y Drindod Dewi Sant, trigolion Llambed, a theuluoedd o bell ac agos yn mwynhau, gan wneud yn fawr o’r cyfle i roi cynnig ar blygu papur, caligraffeg a symudiadau meddylgar Taichi a kung-fu, heb sôn am y seremoni de Tsieineaidd a gynigiai flas i bawb ar hanes hir a rhyfeddol y diwylliant te Tsieineaidd.  Dywedodd cwpwl a oedd wedi dod i Gymru yr holl ffordd o Shanghai fod ein dathliadau Tsieineaidd yn fwy Tsieineaidd na dathliadau’r Flwyddyn Newydd yn Shanghai!”

Ymhlith tîm Sefydliad Confucius, dan arweiniad y Cyd-gyfarwyddwr Tsieineaidd Lisa Liu, roedd myfyrwyr Tsieineaidd y Ddoethuriaeth Broffesiynol sy’n astudio yn y Drindod Dewi Sant, ac a fu’n rhannu eu sgiliau arbenigol.  Meddai Lisa Liu: “Mae gennym dîm gwych o wirfoddolwyr sydd wedi rhoi llawer o amser i baratoi nifer o weithgareddau diwylliannol Tsieineaidd hyfryd i’w rhannu ag aelodau’r cyhoedd.  Rydym ni’n ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth, nid yn unig gyda’r digwyddiad hwn, ond hefyd am ein helpu i ddathlu Gŵyl y Gwanwyn Tsieineaidd mewn ysgolion cynradd yng Nghymru ac yn ein Hysgol Tsieineaidd yn Abertawe.”

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad a digwyddiadau’r dyfodol, anfonwch e-bost at k.krajewska@uwtsd.acuk

Ymwelwyr yr ŵyl yn ymarfer symudiadau Qigong o dan arweiniad tiwtor.

Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau