Skip page header and navigation

Un o raddedigion BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw Jack Morris o Dalacharn. Bu’n gweithio yn y diwydiant adeiladu am 20 mlynedd, ond symudodd i hyfforddiant personol yn 2016, 3 blynedd cyn dechrau yn Y Drindod Dewi Sant.

Jack Morris mewn gwisg academaidd.

Meddai:

“A bod yn onest, daeth y syniad ata i ryw diwrnod a chan fy mod i’n berson greddfol, dyma fi’n galw draw yn y brifysgol i holi, ac wedyn cofrestru. Mae’r gweddill yn hanes, fel y maen nhw’n ei ddweud. Roedd dychwelyd i addysg ar ôl cymaint o flynyddoedd yn anodd i ddechrau ond fel popeth mewn bywyd gydag ychydig o ymroddiad ac ymdrech, yn fuan roeddwn i’n gallu mwynhau’r broses. 

“Fy angerdd am hyfforddiant/chwaraeon a wnaeth i mi gymryd y cam cyntaf ,yna roeddwn i eisiau ehangu a dod yn hyfforddwr gwell, felly roedd hi’n ymddangos mai gradd gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff oedd yr opsiwn gorau.” 

Roedd Jack yn hoffi’r cwrs gan ei fod yn cynnig cyfuniad da o’r ymarferol a theori. Ei hoff agwedd ar y cwrs oedd y dysgu a’r gallu i ymroi i bwnc sy’n agos at ei galon gyda phobl o’r un anian. Meddai: 

“Mae’r cwrs cyfan wedi rhoi nid yn unig sgiliau academaidd i mi a’r gallu i ymchwilio i bynciau perthnasol ond hefyd wedi gwella fy sgiliau busnes a fydd, gobeithio, yn arwain at ddyfodol llwyddiannus.” 

Yn ystod ei flwyddyn olaf, cafodd Jack gyfle i ddefnyddio offer o’r radd flaenaf i asesu aelodau’r cyhoedd a gymerodd ran yn ei brosiect ymchwil. Rhoddodd ei ddarlithydd, Geraint Forster, gyfle iddo gydweithio â pharathletwr o Driathlon Cymru am 4 mis, pan fu’n dylunio a goruchwylio rhaglen gryfder a chyflyru yn y sied chwaraeon newydd ar y campws bob wythnos. 

Mae Jack yn teimlo bod ei gyfnod yn fyfyriwr wedi ei ddatblygu mewn sawl ffordd yn berson, sydd wedi caniatáu i Jack ddod yn fwy cynhyrchiol. 

“Mae’r dywediad mai pŵer yw gwybodaeth yn berffaith wir yn fy marn i a deall gwyddoniaeth ac mae’r corff dynol wedi fy helpu i resymoli fy newisiadau fy hun a sut rwy’n gweld y byd mewn perthynas ag eraill. 

Yn ystod ei gyfnod yn fyfyriwr, teimlai Jack ei fod wedi derbyn cymorth gwych gan ei ddarlithwyr a oedd yn allweddol iddo gwblhau a mwynhau’r cwrs. 

“Geraint a Dave oedd fy mentoriaid y byddwn i’n bwrw fy meddyliau atyn nhw ac yn cael ymateb. Roedd y ddau ddarlithydd yn wych ac roedd ganddyn nhw amser bob amser, ac roedd eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r pwnc yn arbennig ond yn bwysicach fyth, fe wnaethon nhw fy annog i herio eu cred hefyd, gan fod y pwnc yn esblygu’n barhaus.” 

Meddai’r darlithydd Geraint Forster: 

“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Jack dros y pedair blynedd ddiwethaf. Yn ddarlithydd, mae’n hynod o werth chweil pan fydd myfyriwr yn cyrraedd heb fawr o gefndir academaidd ac nad yw wedi cael profiadau cadarnhaol mewn addysg hyd yr adeg honno, ond sydd wedyn yn ffynnu ac yn tyfu yn ystod y radd. Erbyn diwedd ei radd, roedd Jack yn creu gwaith o’r safon uchaf, ac wedi cyflawni rhai o’r marciau uchaf a ddyfarnwyd gennym erioed ar y cwrs. Mae hyn yn dangos bod gan y myfyriwr angerdd a brwdfrydedd dros y pwnc, a’r cymhelliant i gymhwyso eu hunain yn llawn i ddysgu, gallant gyflawni pethau gwych gydag ychydig o gefnogaeth ac anogaeth.” 

Ar ôl graddio, mae Jack yn gobeithio tyfu ei fusnes yn hyfforddwr a hyfforddwr personol ac meddai, 

“Dydw i ddim eisiau cyfri’r cywion cyn iddyn nhw ddeor ond gobeithio y bydd y busnes yn mynd o nerth i nerth yn y dyfodol ac mae hyn yn ganlyniad i’r hyn rydw i wedi’i ddysgu yn fy amser yn Y Drindod Dewi Sant.” 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau