Skip page header and navigation

Cafodd yr Athro Emeritws Dafydd Johnston o’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ei ethol yn Gymrawd i’r Academi Brydeinig er cydnabyddiaeth am ei gyfraniadau blaenllaw i hanes llenyddiaeth Gymraeg a barddoniaeth Ganoloesol.

Yr Athro Emeritws Dafydd Johnston.

Mae’r Academi Brydeinig wedi croesawu grŵp newydd o ymchwilwyr blaenllaw o’r dyniaethau rhyngwladol a gwyddorau cymdeithasol i’w Chymrodoriaeth ar gyfer 2023. Mae’r Cymrodyr newydd yn ymuno â chymuned o dros 1,600 o ysgolheigion nodedig sy’n ffurfio academi genedlaethol y DU ar gyfer y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol.

Bu’r Athro Dafydd Johnston yn Gyfarwyddwr y Ganolfan am ddeuddeng mlynedd o Hydref 2008 tan ei ymddeoliad ar ddiwedd 2020. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar lenyddiaeth Cymru o bob cyfnod, gan gynnwys rhai o awduron Saesneg Cymru.

Ei faes ymchwil arbennig yw barddoniaeth yr Oesoedd Canol. Ymhlith ei gyhoeddiadau niferus y mae tri golygiad pwysig, Gwaith Iolo Goch (1988), Gwaith Lewys Glyn Cothi (1995) a Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen (1998), yn ogystal â dau gasgliad thematig a dorrodd dir newydd, Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (1991) a Galar y Beirdd (1993). Yn 2005 cyhoeddodd astudiaeth gynhwysfawr, Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525, cyfrol a fu ar y rhestr fer ar gyfer ‘Llyfr y Flwyddyn’ yr Academi Gymreig. Ei gyhoeddiad diweddaraf yw ‘Iaith Oleulawn’: Geirfa Dafydd ap Gwilym (2020).

Yr Athro Johnston oedd arweinydd prosiect ymchwil rhyngadrannol dan nawdd yr AHRC (2001–6) a gynhyrchodd olygiad newydd o waith Dafydd ap Gwilym ar ffurf electronig, dafyddapgwilym.net.

Bu’n gyd-archwilydd ar Brosiect Guto’r Glyn (2008–12) yn y Ganolfan, ac yn gyd-olygydd, gyda Mary-Ann Constantine, ar y gyfres ‘Cymru a’r Chwyldro Ffrengig’.

Bu’n un o olygyddion y cylchgrawn Studia Celtica o 2002 tan 2020, ac er 2014 ef yw golygydd Y Bywgraffiadur Cymreig.

Meddai’r Is-ganghellor, yr Athro Elwen Evans, KC, ‘Hoffwn longyfarch yr Athro Johnston yn ddiffuant ar gael ei ethol yn Gymrawd i’r Academi Brydeinig, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch iddo am ei arweinyddiaeth a’i ymroddiad ysbrydoledig tra’n Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd y Brifysgol’.

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwyr y Ganolfan, ‘Dyma anrhydedd a chydnabyddiaeth arbennig iawn o gyfraniad gloyw yr Athro Johnston i ysgolheictod. Hoffwn ei longyfarch yn wresog iawn a diolch iddo am arwain y Ganolfan Uwchefrydiau am ddeuddeng mlynedd. Rydym yn hynod falch fod ei gyswllt gyda’r Ganolfan yn  parhau fel Athro Emeritws ac fel Golygydd y Bywgraffiadur Cymreig.’

Nodyn i’r Golygydd

Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk  

1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol.

2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk  

3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon