Skip page header and navigation

Bu tîm Ehangu Mynediad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wrthi’n cynorthwyo 12 o ddysgwyr sy’n oedolion wrth gwblhau cwrs celf a’u hysbrydolodd i ddal ati i ddysgu.

Menywod yn eistedd wrth fwrdd hir yn gwneud brasluniau o goesynnau a dail planhigion.

Archwiliodd y cwrs 4 wythnos hwn, a gynhaliwyd yng Ngweithdy Dove ym Manwen, Castell Nedd, wahanol dechnegau, cyfryngau a themâu bob sesiwn. Cafodd ei addysgu gan Jenna Davies, artist sy’n gweithio’n agos gyda PCYDDS i helpu ysbrydoli egin artistiaid i ddychwelyd i ddysgu pan fyddant yn oedolion.

Yn dilyn y cwrs, roedd ar y grŵp eisiau dysgu rhagor am yr hyn sydd gan y Brifysgol i’w gynnig, a threfnwyd ymweliad campws ar yr 20fed Hydref, i archwilio Coleg Celf Abertawe ac i gymryd rhan mewn gweithdai ymarferol.

Cymerasant ran mewn gweithdy printio â gwasg gwres a brodwaith a ysbrydolwyd gan natur a defnyddiau naturiol a gynhaliwyd gan Amanda Roberts, Uwch Swyddog Cyswllt Addysgol PCYDDS gyda help myfyrwyr celf presennol. Yna, aeth y dysgwyr sy’n oedolion ar daith o gwmpas y campws, lle cawsant weld cyfleusterau adeilad Dinefwr Coleg Celf Abertawe, fel y gofod Dylunio Graffig a’r gweithdai Patrymau Arwyneb a Thecstilau.

Meddai Donna Williams, Swyddog Ehangu Mynediad PCYDDS: “Bu’n hyfryd gweld y dysgwyr, o bob cefndir, yn magu hyder bob wythnos, gan wthio eu ffiniau a chael hwyl ar yr un pryd.

“Gwnaethant ddysgu am gydweithio a chyfathrebu, ac roedd pawb yn cymryd rhan yn llawn ac yn frwdfrydig ynghylch dysgu technegau newydd a defnyddio ystod o offer a defnyddiau. Bellach, mae rhai o’r dysgwyr yn awyddus i ymuno â rhaglenni eraill a gynhelir gan Goleg Celf Abertawe, fel y cyrsiau Celf Liw Nos, sy’n newyddion gwych.”

Llaw mewn maneg blastig yn ychwanegu paent i fraslun o iorwg; mae sampl o’r planhigyn go iawn ar frig y papur.

Ar ôl y cwrs a’r daith, dywedodd P. Farrell, un o’r dysgwyr sy’n oedolion: “Roedd y gweithdy print gwres a brodwaith yn gyffrous ac yn ddiddorol iawn i fod yn ran ohono. Roedd gweld y stiwdios celf a’r cyfleusterau sydd gan y Brifysgol yn anhygoel…buaswn i’n hapus symud yno i fyw a pheidio byth â’i adael! Roedd ansawdd y lle a’r golau ar ddiwrnod gwlyb, llwydaidd yng Nghymru yn wych.

“Darparodd y cwrs 4 wythnos yn Nove, Banwen bedair sesiwn wahanol iawn a roddodd i mi ddeilliant gwahanol iawn i’r disgwyl. Roedd y prosesau newydd mor ddiddorol ac mae’r sesiynau, o fewn cyfnod mor fyr, wedi dylanwadu arna’i mewn llawer o ffyrdd positif ac wedi ysbrydoli ffyrdd newydd a mwy agored o wneud celf.”

Meddai dysgwr arall, Lesley Cottrell: “Roedd edrych o gwmpas y cyfleusterau creadigol a dysgu am y cyrsiau sydd ar gael yn ardderchog. Rwyf wir wedi mwynhau’r gweithdai ac mae’n hyfryd cael rhywbeth i edrych ymlaen ato bob wythnos. Cefais fy ysbrydoli i fynychu un o’r dosbarthiadau nos ac rwy’n edrych ymlaen at gyfleoedd eraill a gynigir gan PCYDDS.”

Meddai Jenna Davies, Tiwtor Celf: “Mae gweithio gyda thîm Ehangu Mynediad PCYDDS wedi bod yn bleser ac yn brofiad llawn boddhad. Trwy’r cwrs celf, roedd arna’i eisiau dangos i bobl de orllewin Cymru bod gan bob un ohonom ysbryd greadigol, gan ganiatáu i gyfranogion ddod o hyd i’w hochr greadigol, rhoi cynnig ar bethau newydd ac arbrofi. Y gobaith yw bod hyn wedi rhoi i ddysgwyr sy’n oedolion ardal Castell Nedd wahanol ffordd o edrych ar sut maent yn creu, ac wedi’u hysbrydoli i wneud eu celf eu hunain heb ofni fynd ati i roi cynnig ar bethau.”

Mae adran Ehangu Mynediad PCYDDS yn gweithio gyda chymunedau ac unigolion i gyfoethogi dealltwriaeth, hyder, llesiant a gwydnwch, wrth amlygu’r potensial i gyflawni mwy. Mae gwaith yr adran yn cryfhau cymunedau trwy ddarparu cyrsiau ymarferol i adnabod sgiliau, cyfeirio pobl tuag at gyfleoedd i ddysgu ymhellach a’u helpu i ddychwelyd i addysgu fel oedolion.

I gael rhagor o wybodaeth am Adran Ehangu Mynediad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, cysylltwch â Donna Williams yn donna.c.williams@pcydds.ac.uk

Stiwdio gelf fawr yn llawn dilynwyr cwrs, tiwtoriaid ac offer.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau