Skip page header and navigation

Mae dathliad dwbl gan Rebecca Trott yr wythnos hon – bydd ei gradd Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET) yn cael ei dyfarnu iddi yn arena newydd Abertawe ac mae hi wedi cael swydd newydd yn addysgu ar y cyrsiau gofal iechyd, cymdeithasol a phlant yng Ngholeg Afan.

Rebecca Trott yn gwenu yn ei gynau graddio.

Yn fam a llysfam i bedwar o bobl ifanc yn eu harddegau, mae bywyd Rebecca yn brysur yn barod ac ar fin bod yn fwy prysur fyth. Ond mae hi’n ymhyfrydu yn yr her.

Meddai Rebecca: “Cyn cofrestru ar y cwrs hwn, roeddwn i’n gydlynydd cymorth llythrennedd mewn ysgol uwchradd, gan weithio’n bennaf gyda phlant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).  Roedd arna’i eisiau cymryd cam ymhellach yn fy ngyrfa a defnyddio fy mhrofiad o ADY i hysbysu ac addysgu athrawon a staff addysg y dyfodol, a bod yn ddarlithydd oedd y llwybr naturiol i mi allu dylanwadu’n bositif ar bobl eraill.

Cwrs addysg athrawon proffesiynol yw’r cymhwyster Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol TAR (PCET) a fydd yn eich cymhwyso i addysgu yn y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol.

Penderfynodd Rebecca astudio yn Y Drindod Dewi Sant am fod y cwrs yn agos i adref, ac roedd y modylau’n cynnwys ADY, sef ei harbenigedd.

“Bu Caroline Lewis yn arweinydd caredig a llawn gwybodaeth a wnaeth y broses o wneud cais a chael cyfweliad yn un syml. Roeddwn i’n hoffi campws SA1, mae naws cyfeillgar iddo, a gwnaeth yr holl staff o’r glanhawyr, staff arlwyo, TG a darlithwyr i mi deimlo bod croeso yno i mi. Mae ganddynt wasanaeth llyfrgell gwych sy’n cadw toreth o lyfrau a chyfnodolion, ac mae digonedd o le yno i astudio.  Maent hefyd yn darparu ystafelloedd preifat ar gyfer grwpiau bach o bobl, golygodd hyn bod rhai o’r garfan wedi gallu cwrdd i astudio mewn grŵp, a chefais hyn yn amhrisiadwy, gan mai rhannu gwybodaeth a chymorth ymysg cymheiriaid yw un o’r ffyrdd gorau i gyfoethogi dysgu.”

Dywed Rebecca ei bod wedi magu hyder fel athro a pherson ac mae’n diolch i PCYDDS am hynny.

“Roeddwn yn poeni am gwrdd â phobl newydd yn yr achos cyntaf a ‘doeddwn i ddim yn gwybod p’un a fydden i’n gallu cwrdd â gofynion y cwrs.  Fodd bynnag, roeddem i gyd yn gyrru ‘mlaen yn ardderchog, a phylodd fy ansicrwydd.  Rwyf wedi datblygu’r gallu i wrando ar eraill yn fwy astud, rhoi cyfarwyddiadau clir a chyfathrebu gan ddefnyddio terminoleg addysgol.

“Wedi dysgu sut i strwythuro gwers, modwl a chwricwlwm, mae wedi fy helpu i drefnu fy mywyd yn fwy effeithlon hefyd, rwy’n defnyddio siartiau Gant ar gyfer gwaith ac i drefnu gwaith tŷ nawr.  Rwy’n llawer mwy trefnus, ac rwy’n dwlu ar hynny, ond mae fy mhlant yn meddwl fy mod yn cymryd fy sgiliau addysgu’n rhy bell!

Nawr, mae Rebecca yn edrych ymlaen at ei rôl addysgu newydd sy’n dechrau ym mis Medi.

“Plant mewn addysg yw ein dyfodol, a sicrhau bod pob plentyn, waeth beth fo’u gallu, yn ffynnu mewn addysg yw fy mhrif nod. Mae plant ADY yn tueddu i ddioddef llawer o straen a gorbryder yn yr ysgol a gyd fy mhrofiad i o addysgu plant ADY, gallaf drosglwyddo fy ngwybodaeth i’m myfyrwyr AB ac AU.

“Rhaid i ni weld y plentyn mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar unigolion a’u hannog i fod yn ddysgwyr annibynnol trwy sgaffaldio cymorth pwrpasol hyd nes na fyddant ei angen mwyach.  Rwy’n siŵr y bydd angen cymorth ar bawb rhywbryd yn eu hoed; rwy’n gwybod y buodd arna’i.

“Buaswn yn argymell y cwrs PCET yn fawr, mae’n llawn gwybodaeth am y ddeddfwriaeth sy’n gysylltiedig ag addysg ac mae’r sgiliau y dysgwch yn werthfawr i unrhyw un sy’n dilyn eu breuddwyd o ddod yn ddarlithydd. Rhowch eich cyfan i fodloni’r dyddiadau cyflwyno gwaith, ond peidiwch â bod ofn gofyn am help a chymorth oherwydd mae digonedd ohono ar gael yn PCYDDS.

Meddai Katie Gardner, darlithydd PCYDDS: “Mae Rebecca wedi ymgymryd â’r heriau yn ei blwyddyn PCET â brwdfrydedd ac mae hi’n jyglo bywyd adref a rhaglen brysur iawn gan wneud yn siŵr eu bod wedi rhoi ei chyfan i bopeth. O ganlyniad i’w gwaith caled cynigiwyd iddi rôl addysgu a fydd yn dechrau’r flwyddyn nesaf. Bu’n bleser addysgu Rebecca a bod yn rhan o’i thaith addysgu.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau