Skip page header and navigation

Mae’r entrepreneur a chyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Ken Pearce wedi derbyn Gwobr Busnes Newydd y Flwyddyn gan Fyfyriwr Graddedig am ei gwmni argraffu 3D yn rowndiau terfynol Gwobrau Busnesau Newydd Cymru 2023.

Tystysgrif StartUp Awards Wales ar gyfer Lunia 3D.

Sefydlwyd y Gwobrau Busnesau Newydd yn 2022 i ddathlu cyflawniadau entrepreneuriaid ar draws naw gwlad a rhanbarth y DU ym mhob sector o’r economi.

Eleni cafodd y seremoni Gwobrau Busnes Newydd Cymru ei gynnal yng Nghaerdydd ar 22ain Mehefin ac fe wnaeth cydnabod unigolion fel y cyn-fyfyriwr o’r Drindod Dewi Sant, Ken Pearce, sydd wedi troi syniad yn gyfle a chymryd y risg i lansio cynnyrch neu wasanaeth newydd.

Meddai Ken ynglŷn â’r fuddugoliaeth: “Rwyf wrth fy modd bod ymroddiad a gwaith caled ein tîm wedi cael eu cydnabod â Gwobr Busnes Newydd gan Fyfyriwr Graddedig. Hoffwn ddiolch i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am roi’r wybodaeth a’r sgiliau i mi sydd wedi bod yn allweddol wrth gyflawni’r garreg filltir hon.”

Dywedodd Kathryn Penaluna, Athro Cysylltiol Addysg Fenter Y Drindod Dewi Sant: “Dangosodd Ken ei ysbryd entrepreneuraidd trwy gydol ei astudiaethau, gan ddefnyddio ei greadigrwydd i ganfod cyfleoedd a’i ddealltwriaeth o ddylunio i ddatrys problemau i eraill.”

Ken Pearce yn casglu ei wobr gyda’i gydweithwyr Yousef Ahmed a James Bristow.

Sefydlodd Ken y cwmni argraffu 3D, Lunia3D yn 2020 ar ôl i Ken ddarganfod hyblygrwydd y broses tra’n fyfyriwr Dylunio Cynnyrch a Thechnoleg ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Abertawe.

Dechreuwyd y cwmni drwy greu masgiau wyneb i ddiogelu gweithwyr gofal lleol yn ystod Pandemig COVID-19. Yna ffurfiodd Ken bartneriaeth gyda hen ffrind ysgol, Yousef Ahmed, a oedd wedi graddio â gradd mewn peirianneg.

Gyda’i gilydd, fe ehangon nhw Lunia3D a heddiw mae ganddynt dros 10 argraffydd 3D sy’n gweithio bron bob awr o’r dydd a’r nos, saith diwrnod yr wythnos i ddod â gweledigaeth yn fyw trwy’r dechnoleg flaengar hon.

Mae Lunia3D wir yn gwthio’r ffiniau ar gyfer argraffu 3D ac yn cyfrannu at enw da cynyddol Cymru fel canolbwynt ar gyfer arloesi technolegol.

Mae prosiect diweddar wedi’u gweld yn dod â siarcod hynafol yn fyw wrth iddynt wneud modelau maint go iawn o ddannedd Megladon a Siarc Mawr Gwyn drwy argraffu 3D, gan sganio ffosiliau gwreiddiol. Mae’r creadigaethau hyn bellach  yn  ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o eigionegwyr a gwyddonwyr yn Ocean Extravaganza, Techniquest.

Yn ehangach, mae Lunia 3D hefyd wedi gweithio i amrywiaeth eang o ddiwydiannau gan gynhyrchu darnau argraffedig 3D, yn cynnwys ceir clasurol, darnau gwaith coed, modelau pensaernïol, trenau bach a golygfeydd, propiau chwarae rôl (cosplay), darnau newydd, addurniadau cartref, ategolion ffasiwn a rhagor.

Meddai Ken: “Mae ein taith ond megis dechrau. Bydd Lunia3D yn parhau i ymdrechu, archwilio ac argraffu’r dyfodol.”

Dau lun o ddant megalodon wedi’u printio â pheiriant 3D, un yn ei ddangos cyn cael ei fireinio a’i heneiddio, y llall yn dangos dant gorffenedig wrth ochr dant siarc llai a darn punt i ddangos y raddfa.

Nodyn i’r Golygydd

Mae’r Gwobrau Busnesau Newyddyn gydweithrediad rhwng sylfaenwyr Gwobrau Entrepreneuriaid Prydain Fawr, a Gwobrau Busnesau Newydd Cymru yw’r unig wobrau rhanbarthol sy’n dathlu busnesau newydd yn y DU ar hyn o bryd. 


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau