Skip page header and navigation

Cynhaliwyd ail Ŵyl Cyfryngau Rhyngwladol Cymru  (IMFW) yn adeilad Yr Egin, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin yr wythnos diwethaf i ddathlu a dyrchafu doniau lleol a rhyngwladol ym maes y cyfryngau.

Brett Aggersberg gyda phum enillydd gwobr yn gwenu o flaen sgrin ddu ac aur fawr wedi’i goleuo.

Roedd yr ŵyl yn cael ei chynnal am yr eildro yn unig ac wedi’i threfnu gan Brett Aggersberg, Darlithydd Gwneud Ffilmiau yn y Drindod Dewi Sant. Ymhlith yr amrywiaeth o gategorïau cyflwyno roedd Drôn, Antur, Animeiddio, a Realiti Rhithwir.

Derbyniodd yr Ŵyl gyflwyniadau o wledydd yn cynnwys Ffrainc, yr Unol Daleithiau, Kuwait, Tsieina a Seland Newydd, yn ogystal â nifer fawr o ffilmiau gan fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant ac aelodau o’r diwydiant cyfryngau lleol yn ne Cymru.

Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddydd Mawrth 24ain Hydref 2023 yn Yr Egin, gydag adloniant gan The Hepburns a nawdd gan y cwmni rym lleol Barti Ddu.

Meddai Brett Aggersberg, Darlithydd Ffilm yn y Drindod Dewi Sant a threfnydd y digwyddiad: “Mae Gŵyl Cyfryngau Rhyngwladol Cymru yn gyfle gwych i ddathlu’r dechnoleg a’r technegau arloesol mae gwneuthurwyr ffilm a chrewyr cynnwys yn eu defnyddio i adrodd eu stori.

“Mae’r ŵyl wedi tyfu ers y llynedd a’r darogan yw y bydd yn parhau i gynyddu’n fwy byth. Gyda chwmnïau mawr fel Panasonic Lumix, Format Hi-Tech, a lensys sinema Tokina, ynghyd â chwmnïau lleol fel Carmarthen Cameras a Wales Interactive, yn cefnogi’r digwyddiad, mae’n dangos i’r byd yr arloesi sy’n digwydd yng Nghymru, ac yn dathlu’r angerdd cyffredin i adrodd straeon. Roedd y beirniaid yn llawn edmygedd o ansawdd y cyflwyniadau gan wneuthurwyr ffilmiau ifanc lleol.” 

Rhys Cannon yn dal ei wobr; y tu ôl iddo ar sgrin mae coron wen o ddail llawryf yn amgylchynu’r geiriau Enillydd Winner 2023.

Enillodd Rhys Cannon, a raddiodd o’r rhaglen BA Gwneud Ffilmiau  yn y Drindod Dewi Sant y llynedd, y categori Teledu am ei ffilm arswyd fer ‘The Pit’ a ffilmiwyd yng Nghymru. Meddai Rhys: “Rwy’n ddiolchgar iawn am y wobr hon, ac i gael sylw yn yr ŵyl arloesol a blaengar hon.

“Roedd ‘The Pit’ yn brosiect ar y cyd rhyngof i a myfyrwyr eraill y cwrs Gwneud Ffilmiau, yn ogystal â myfyrwyr o gyrsiau eraill Caerfyrddin Greadigol. Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth o ymdrechion pawb, ac yn foment falch i mi yn ystod fy nghyfnod yn y Drindod Dewi Sant.”

Yn ystod yr un wythnos, gwnaeth y lleoliad lle cynhaliwyd yr ŵyl, Canolfan S4C Yr Egin, ddathlu 5 mlynedd fel lleoliad diwylliannol bywiog, a chanolfan fusnes a chreadigol. Mae’r adeilad eiconig ar gampws y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin yn ganolbwynt ar gyfer y gymuned greadigol yn ogystal ag ar gyfer cymunedau amrywiol ar draws y rhanbarth, ac mae’n bencadlys i sianel deledu Gymraeg S4C.

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Ffilm a’r Cyfryngau a gynigir yn y Drindod Dewi Sant, cysylltwch â Brett ar b.aggersberg@pcydds.ac.uk neu ewch i’r wefan uwtsd.ac.uk.


Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon