Skip page header and navigation

Ar ôl byw yn y DU am 22 flynedd a magu 4 o blant, cafodd Olibia Chaffatt ei hysbrydoli gan ei mab Pedro yn graddio â gradd Dosbarth Cyntaf. Penderfynodd mai ei thro hi oedd astudio bellach, gan ddewis BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Birmingham.

Gan wisgo ei gŵn academaidd a chwfl dros ffrog werdd llachar, edrychai Olibia Chaffatt yn ddifrifol tuag at y camera.

A hithau’n hanu o Jamaica yn wreiddiol, pan symudodd ei phlentyn hynaf yn ôl yno a daeth ei phlant eraill yn llai dibynnol, roedd yn teimlo fel yr amser iawn i Olibia.

“Dewisais i’r cwrs hwn oherwydd bod gofalu wastad wedi bod yn fy natur,” meddai. “Dwi wedi gweithio mewn gofal drwy gydol fy mywyd ac mae gen i’r sgiliau trosglwyddadwy a ddysgais yn sgil blynyddoedd o ofalu am fy nheulu fy hun. Ond nawr dwi eisiau mynd â phethau ymhellach a dod yn weithiwr cymdeithasol.”

Olibia Chaffatt yn gwenu gyda'i theulu.

Un o’r uchafbwyntiau i Olibia oedd lefel y manylder ar y cwrs: “Dwi wedi dysgu sut i chwilio am wybodaeth gredadwy a pha wefannau i’w defnyddio. Dwi wedi darganfod y polisïau a’r deddfau a gyflwynir gan y llywodraeth i ddiogelu hawliau pawb, a pham ei bod yn hanfodol defnyddio moeseg,” meddai wrthym â balchder.

Eto i gyd, cafwyd ambell anhawster. “Gan mai un o Jamaica ydw i, dwi wedi wynebu heriau yn y byd academaidd. Yn enwedig, roeddwn i’n arfer ysgrifennu fel oeddwn i’n siarad. Roedd yn anodd i mi addasu, ond gydag ymarfer daeth yn haws.”

Wrth iddi raddio gyda ffrind yr oedd hi wedi argymell y cwrs iddi, meddai Olibia, “Dwi’n meddwl y dylai pawb gael gradd. Mae’n agor drysau i swyddi gwell, rhagor o gyflog ac yn rhoi cyfle i gael gwell ffordd o fyw.”  


Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau