Mae angerdd un o raddedigion Llambed am archaeoleg tecstilau yn creu cyfleoedd newydd i archwilio a darganfod y gorffennol
Graddiodd Debby Mercer o’r cwrs BA (Anrh) Celfyddydau Breiniol gyda Blwyddyn Sylfaen. Symudodd i Lambed ar ôl iddi brynu tyddyn a dewis y Drindod Dewi Sant Llambed oherwydd ei hymrwymiadau i’r tir a’r anifeiliaid.
![Debby Mercer mewn gwisg academaidd.](/sites/default/files/styles/media_component_16_9_sm/public/2023-10/lampeter-graduates-passion-for-textile-archaeology-creates-new-opportunities-to-explore-and-unravel-the-past.jpg?h=2d235432&itok=3Uft7lex)
Penderfynodd Debby astudio’r Celfyddydau Breiniol gan ei bod wedi bod yn gwau ac yn nyddu ers dros 10 mlynedd ac mae wedi bod â diddordeb mewn archaeoleg tecstilau erioed.
Meddai: “Fe wnaeth y Celfyddydau Breiniol fy ngalluogi i archwilio gwlân a thecstilau o sawl ongl a fy ngalluogi i osgoi ffasiwn! Unwaith y bydd y ffabrig yn dod yn rhywbeth, rwy’n colli diddordeb yn gyflym, fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o gyrsiau tecstilau yn canolbwyntio ar ffasiwn, gan mai dyna’r agwedd fwyaf gweladwy ar decstilau.”
Roedd Debby wrth ei bodd â’i hamser fel myfyriwr, a’i hoff agwedd ar y cwrs oedd,
“Y rhyddid i ddewis! Trwy beidio â chael modylau craidd, gallwn deilwra fy ngradd fy hun oedd yn gweddu i’m diddordebau. Penderfynais ganolbwyntio ar decstilau hynafol a datblygiad gwlân. Oherwydd y rhyddid hwn, roeddwn i’n gallu edrych ar ddofi defaid yn y cyfnod cynnar ym Mesopotamia, sut roedd y Rhufeiniaid yn defnyddio iaith tecstilau mewn rhethreg wleidyddol, y diwydiant gwlân yng Nghymru yn yr 20fed ganrif ac edrych ar sut mae tecstilau’n cael eu cynrychioli a’u haddysgu mewn amgueddfeydd ac arddangosfeydd.”
Gyda chefnogaeth darlithwyr, cafodd ei hannog i archwilio meysydd gwlân a thecstilau o fewn modylau penodol. Fe wnaethant hefyd ei helpu i ddod o hyd i bynciau aseiniadau a oedd yn berthnasol i ganlyniad y modwl a’i diddordeb mewn tecstilau.
Rhoddodd y darlithwyr gyfle i Debby hefyd y tu allan i’r cwrs, i arddangos ei galluoedd i gynulleidfa ehangach, a dywedodd fod hynny wedi cynyddu ei hyder y tu allan i’r ystafell ddosbarth.
Dywedodd Debby ei bod hefyd wedi cael cynnig cyfleoedd megis gwirfoddoli fel mentor Dysgu gyda Chymorth Cymheiriaid (PAL), a hefyd meithrin cysylltiadau o fewn a thu allan i’r brifysgol, sydd i gyd wedi ei helpu i ddatblygu fel unigolyn a magu hyder.
Ar ôl graddio, mae Debby yn bwriadu parhau â’i hastudiaethau ac astudio am MSc mewn Cynaliadwyedd a Newid Ymddygiad.
Meddai: “Rwy’n gobeithio gweithio tuag at greu dyfodol cynaliadwy trwy ddefnyddio fy ngwybodaeth hanesyddol a’m cefndir yn y Dyniaethau i ennyn diddordeb y cyhoedd mewn gwlân fel adnodd cynaliadwy, adnewyddadwy a hefyd cynyddu ei werth economaidd i ffermwyr Cymru .”
Dywedodd Debby y byddai’n annog eraill i astudio’r un cwrs â hi yn Llambed.
“Y BA Celfyddydau Breiniol yw’r radd orau erioed y gallwch ei “dylunio eich hun”. Gallwch chwarae gyda syniadau a throi at y darlithwyr yn gynnar os bydd rhywbeth yn mynd ychydig o’i le. Fe gewch lawer o gefnogaeth a gallwch wneud rhywbeth gwirioneddol unigryw a fydd o fudd gwirioneddol i fywyd ar ôl y brifysgol,” ychwanegodd.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476