Mae PCYDDS yn rhan o ymgyrch newydd yn arddangos pŵer trawsnewidiol addysg uwch
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn rhan o ymgyrch Prifysgolion Cymru sy’n galw ar bobl i rannu sut mae mynd i’r brifysgol wedi newid eu bywyd. Mae Trawsnewid Bywydau, a lansiwyd heddiw, yn rhannu straeon ysbrydoledig am raddedigion prifysgol y mae eu bywydau wedi’u newid yn sylweddol yn sgil eu taith addysgol.
![Rebecca Davies, graduate of the MDes in Surface Pattern and Textiles](/sites/default/files/styles/media_component_16_9_sm/public/2024-03/UWTSD%20-%20Rebecca%20Davies%20%20in%20Studio.jpg?h=1dd3cf61&itok=nqXYdeql)
Gall astudio yn y brifysgol fod ymhlith y profiadau mwyaf pleserus a gwerth chweil ym mywyd person, gyda manteision o ran datblygu sgiliau, meithrin gwybodaeth, ffurfio cyfeillgarwch newydd, a byw’n annibynnol. Mae gradd o brifysgol yn y DU hefyd yn parhau i roi hwb sylweddol i gyflog, lefelau cyflogaeth a rhagolygon gyrfa graddedigion gydol eu hoes.
Fodd bynnag, y tu ôl i’r ystadegau mae pobl go iawn y mae eu bywydau wedi newid er gwell o ganlyniad i fynd i’r brifysgol. A’r bobl hyn y mae Prifysgolion Cymru am roi sylw penodol iddyn nhw, gan rannu straeon am raddedigion sydd wedi goresgyn heriau, wedi darganfod eu hangerdd, ac wedi dod o hyd i’r hyder i gyflawni eu potensial.
Mae dwy o gynfyfyrwyr y Brifysgol yn rhan o’r ymgyrch: Rebecca Davies ac Elisha Hughes, y ddwy ohonynt wedi graddio o Goleg Celf Abertawe.
Stori Rebecca
Graddiodd Rebecca, y gyntaf o’i theulu i fynd i addysg uwch, o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gyda MDes mewn Patrymau Arwyneb a Thecstilau. Trwy’r brifysgol fe sicrhaodd interniaeth â thâl gyda Rolls-Royce fel rhan o dîm dylunio unigryw’r cwmni, a arweiniodd yn y pen draw at ei rôl bresennol fel Dylunydd Arbenigol gyda’r cwmni. Mae Rebecca yn canmol y brifysgol am ei galluogi i ddilyn gyrfa greadigol.
“Cynigiodd y brifysgol ystod eang o wahanol gyfleoedd a newidiodd fy llwybr gyrfa yn llwyr”.
Stori Elisha
Graddiodd Elisha Hughes mewn Celfyddyd Gain ac mae bellach yn gweithio o fewn tîm Ehangu Mynediad y Brifysgol lle mae’n defnyddio ei sgiliau creadigol i ysbrydoli eraill i ystyried addysg uwch. Mae Elisha yn eiriolwr dros adeiladu partneriaethau gyda chymunedau lleol i symbylu newid cadarnhaol. Fel rhan o dîm Ehangu Mynediad PCYDDS mae’n awyddus i ddatblygu cysylltiadau â sefydliadau a busnesau i gynnig mwy o gyfleoedd i’r cymunedau hynny.
“Roedd mynd i’r brifysgol wedi rhoi cyfleoedd i mi na fyddwn i erioed wedi’u dychmygu. Roeddwn yn gallu dysgu ar lefel arall, gwella fy set sgiliau ac ochr yn ochr â hyn newidiodd fy mywyd. Rwy’n angerddol y gall prifysgol fod yn gwbl addas i unrhyw un. Crëwyd llwybr yr eiliad y dechreuais fy ngradd a byddaf yn parhau i fynd ar drywydd fy uchelgeisiau lle bynnag y bydd hynny’n mynd â mi nawr.”
Mae’r Athro Paul Boyle, Cadeirydd Prifysgolion Cymru, yn esbonio pam mae’r ymgyrch mor bwysig:
“Mae Cymru’n wynebu heriau sylweddol o ran cyfranogiad, gyda llai o bobl ifanc 18 oed o Gymru yn dewis gwneud cais i brifysgol nag ar unrhyw adeg yn y degawd diwethaf. Mae dadansoddi annibynnol yn rhagweld y bydd Cymru angen 400,000 o raddedigion ychwanegol erbyn 2035, ac eto mae posibilrwydd gwirioneddol y bydd gennym garfannau o bobl ifanc â llai o gymwysterau na’u rhagflaenwyr uniongyrchol.
“Mae felly’n bwysicach nag erioed ein bod yn dathlu’r holl fanteision – personol a phroffesiynol – y gall mynd i brifysgol eu cynnig i unigolion.
“Mae’r penderfyniad i ddilyn addysg uwch yn fwy na dewis academaidd; mae’n llwybr sy’n newid bywyd ac yn agor drysau; mae’n ehangu gorwelion, ac yn rhoi’r pŵer i unigolion gyrraedd eu llawn botensial.
“Mae’r ymgyrch Trawsnewid Bywydau yn rhoi cyfle gwych i ni dynnu sylw at rai o’r unigolion ysbrydoledig hyn, a’n gobaith yw y bydd pobl, yn eu tro, yn cael eu cymell i rannu eu straeon eu hunain am sut mae’r brifysgol wedi trawsnewid eu bywydau.”
![Elisha Hughes, UWTSD's Widening Access Team Member](/sites/default/files/styles/media_component_16_9_sm/public/2024-03/UWTSD%20-%20Elisha%20Hughes%20portrait.jpg?h=57424c92&itok=4vTVjkt_)
Ymunwch â’r ymgyrch
Mae Prifysgolion Cymru yn gwahodd graddedigion, myfyrwyr, ac unrhyw un sydd wedi profi grym trawsnewidiol addysg uwch i ymuno â’r ymgyrch.
Rhannwch eich taith bersonol, eich llwyddiannau, a’r eiliadau sydd wedi siapio eich bywyd. Efallai nad oeddech chi erioed wedi meddwl y byddech chi’n mynd i’r brifysgol, neu efallai bod eich bywyd wedi mynd i gyfeiriad hollol annisgwyl oherwydd eich amser yn y brifysgol a’r cyfleoedd a ddaeth yn sgil hynny. Gall fod trwy’r cysylltiadau a wnaethoch, yr anogaeth a gawsoch, y pynciau a astudiwyd gennych, neu’r drysau gyrfa a agorwyd i chi. Rhannwch eich stori yma.
DIWEDD
Nodiadau
- Gall pobl gyflwyno eu straeon trwy ffurflen ar-lein.
- Gellir dod o hyd i fwy o astudiaethau achos Trawsnewid Bywydau ar wefan Prifysgolion Cymru o ddydd Mawrth 26 Mawrth, ac isod.
- Mae delweddau eglur a manylion ychwanegol am yr ymgyrch ar gael ar gais.
- Mae Prifysgolion Cymru yn gorff aelodaeth sy’n cynrychioli buddiannau’r naw prifysgol sydd yng Nghymru. Rydym yn datblygu polisi addysg uwch, yn ymgysylltu â gwleidyddion a rhanddeiliaid, ac yn ymgyrchu ar faterion ble mae gan ein haelodau fuddiannau a rennir. www.uniswales.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: eleri.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07968 249335