Skip page header and navigation

Ar 2 a 3 Medi 2023, bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn noddi adran Gwirfoddolwyr Ironman Cymru a’r rasys ‘Ironkids’ ar gyfer athletwyr ifanc.

Rhieni â phlant ifanc yn agosáu at y llinell derfyn wrth i wylwyr bwyso dros y bariau ar y ddwy ochr i’r llwybr.

Mae Ironman Cymru, a gynhelir yn Sir Benfro, gorllewin Cymru, bob mis Medi yn driathlon dygnwch blynyddol sy’n cynnwys nofio 2.4 milltir, ras feicio 112 milltir a rhedeg 26.2 milltir o amgylch Dinbych-y-pysgod a de Sir Benfro. Mae’n denu dros 3000 o athletwyr a llawer mwy o wylwyr.

Eleni, yn rhan o’i phartneriaeth gydweithredol ag Ironman Wales, mae’r Drindod Dewi Sant yn noddi Ironkids, cyfres o rasys sy’n cael eu cynnal ddydd Sadwrn 2 Medi ar gyfer plant a phobl ifanc. Bydd Y Drindod Dewi Sant hefyd yn noddi’r gwaith gwirfoddoli sy’n darparu staff yn ystod diwrnodau arwain a chofrestru yn ogystal ag ar gyfer pob rhan o’r prif ddigwyddiad Ironman ddydd Sul 2 Medi.

Mae’r Brifysgol hefyd yn cefnogi un o’i graddedigion, Sarah Arthur, i gwblhau’r ras. Astudiodd Sarah TAR ar gampws Caerfyrddin Y Drindod Dewi Sant, ac erbyn hyn mae’n ddirprwy bennaeth ar Ysgolion Tafarnsbeit a Thredeml yn Sir Benfro.

Mae gan y wraig 43 oed raglen hyfforddi arbennig, gyda chymorth Geraint Forster, Cyfarwyddwr Rhaglen BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn Y Drindod Dewi Sant. Ymwelodd Sarah â Labordy Ffisioleg y Brifysgol ar gyfer prawf VO2max, dadansoddiad dull nofio tanddwr a thrafodaeth am strategaethau maeth ar gyfer hyfforddi a rasio.

“Mae Geraint wedi helpu i wella fy nhechneg ac wedi fy ngalluogi i ddeall y wyddoniaeth y mae’n seiliedig arni,” meddai. “Rwy wedi dilyn ei gyngor ac rwy’n gallu gweld y gwahaniaeth yn barod.”

Ychwanegodd Geraint: “Roedd hi’n wych cael gweithio gyda Sarah. Roedd hi eisoes yn hyfforddi’n galed ac yn dilyn rhaglen hyfforddi dda, ond roedd y profion ffisiolegol yn ein galluogi i benderfynu yn fwy cywir ar ei pharthau hyfforddi er mwyn sicrhau ei bod hi’n gweithio ar y dwysedd cywir. Fe wnaeth y dadansoddiad nofio hefyd helpu i wella ei heffeithlonrwydd yn y dŵr er mwyn arbed rhagor o ynni ar gyfer maes o law yn y ras.”

2023 yw ail gynnig Sarah ar Ironman Cymru gyda chymorth Y Drindod Dewi Sant, ar ôl iddi ddioddef damwain wael yn ystod y ras feicio yn y digwyddiad llynedd a achosodd anafiadau a difrod mawr i’w beic.

Yn gwisgo fest rhedeg glas a gyda’i sbectol haul wedi’i gwthio i fyny i bwyso uwchben ei thalcen, mae Sarah Arthur yn gwenu tuag at y camera.

Wrth reswm, roedd Sarah yn siomedig nad oedd hi wedi gwireddu ei breuddwyd, ond gyda chymorth y teulu a ffrindiau, mae hi’n rhoi cynnig arall arni eleni, yn gryfach yn sgil y profiad yn ogystal â’r enillion meddyliol a ddatblygwyd ar ôl bownsio’n ôl o’r ymgais gyntaf.

Meddai: “Roedd angen i mi adael i’r plant yn yr ysgol wybod, er fy mod i wedi ymarfer a hyfforddi’n galed, weithiau mae pethau’n digwydd a’r peth gorau i’w wneud yw codi ar eich traed unwaith eto a rhoi cynnig arall arni.”

Yn awyddus i ysbrydoli eraill i gystadlu yn y digwyddiad, sydd mor enwog am ei galedwch ag ydyw  am ei leoliad ysblennydd, meddai Sarah: “Os galla i wneud hyn, gall unrhyw un. Rwy am i bobl wybod ei bod hi’n bosib, er ei bod hi’n heriol dros ben. Rwy hefyd am ysbrydoli rhagor o fenywod i gymryd rhan a theimlo’n fwy cyfartal mewn cystadlaethau ar y lefel hon.”

Mae Sarah yn gobeithio ysbrydoli disgyblion yn ei hysgolion hefyd. “Rwy’n gweld llawer o’m disgyblion a’u rhieni pan dwi allan yn hyfforddi, ac maen nhw mor galonogol, sydd wedi bod yn hyfryd. Rwy’n gobeithio y bydd yr hyn rwy’n ei wneud yn ysbrydoli’r plant, yn enwedig y merched. Mae’n bwysig eu bod nhw’n cydnabod y gall menywod gyflawni hefyd.”

Eleni, mae merch Sarah wedi ymuno ag Ironkids Cymru ac wedi mwynhau gwylio ei Mam yn hyfforddi gyda ffrind ac un arall o raddedigion TAR Y Drindod Dewi Sant, Lauren Arthur. “Mae wedi bod yn heriol, o ran ceisio trefnu hyfforddiant o amgylch cartref a bywyd gwaith sydd eisoes yn brysur, ond mae’r teulu a ffrindiau wedi bod mor gefnogol, ac yn fy helpu i ddod i ben.”

“Mae gwybod y bydd Lauren yno ar y diwrnod, naill ai o’m blaen i neu y tu ôl i mi, yn gysur! Ambell fore mae’n anodd codi a dechrau hyfforddi, ac mae hi wedi bod yn wych am gymhelliant a’m helpu i gyda hynny. Mae hi’n gydymaith a ffrind heb ei hail, sydd â’r dull cywir o hyfforddi’n galed a byw’n dda, gan gofleidio hyd yn oed yr eiliadau anodd hefyd! “

Bydd Sarah a Lauren yn cystadlu ddydd Sul 3 Medi ar ran Y Drindod Dewi Sant.

Mae partneriaeth Y Drindod Dewi Sant ag Ironman Cymru yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr a staff gydweithio ag Ironman ar feysydd sy’n gysylltiedig â phortffolio’r Brifysgol gan gynnwys Chwaraeon, Iechyd a Lles, Twristiaeth, Lletygarwch, Rheoli Digwyddiadau yn ogystal â Ffilm a’r Cyfryngau.  Mae’r Drindod Dewi Sant hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer ymchwil gymhwysol, gan gynnwys cynnal astudiaethau effaith ac adroddiadau sy’n llywio cynllunio busnes Ironman Cymru a strategaeth y dyfodol.

Y wawr ar y traeth yn Ninbych-y-pysgod wrth i ymgeiswyr ymgynnull ar gyfer y ras nofio.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon