Skip page header and navigation

Myfyriwr a Chyn-fyfyriwr yn cydweithio i ddefnyddio wal y brifysgol yn gynfas a dod â lliw i ganol dinas Abertawe.  

Dwy ochr i adeilad unllawr â murlun lliwgar wedi’i baentio’n drwchus arno: mae’r geiriau ‘Be You, Be Creative’ i’w gweld ymhlith siapiau lliw.

Mae murlun lliwgar wedi’i beintio yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac mae i’w weld a’i fwynhau ar Gampws Dinefwr yng nghanol dinas Abertawe.  

Enw’r murlun yw Bydd yn Ti Dy Hun, Bydd yn Greadigol, a chafodd ei ddylunio gan Huw Edwards a oedd yn fyfyriwr pryd hynny yn astudio BA Dylunio Graffig yn y Drindod Dewi Sant, ond sydd wedi graddio’n ddiweddar.  Yn rhan o’i brosiect annibynnol yn y drydedd flwyddyn, roedd Huw yn dymuno cyfleu i ddarpar fyfyrwyr a phobl ifanc bod modd dilyn gyrfaoedd a rhaglenni addysg creadigol heb ofn, cywilydd neu gael eich barnu, a bod digon o gymorth ar gael.  

Mae’r DU yn enwog drwy’r byd fel pwerdy creadigol, gyda’r diwydiannau creadigol yn cyfrannu £13.2 miliwn i’r economi bob awr, sy’n creu cyfraniad blynyddol oddeutu £115.9 biliwn yn 2019 (Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, 2019.) Mae’r murlun newydd sbon yn y Drindod Dewi Sant yn dathlu amrywiaeth pynciau celf a dylunio a’r bobl fywiog sy’n dilyn llwybrau creadigol, gan gynnwys llawer a ddechreuodd ar eu taith yng nghoridorau Coleg Celf Abertawe.  

Ar ôl gorffen y dyluniad, cydweithiodd Huw â’r cwmni o Abertawe Fresh Creative sy’n peintio murluniau, i ddod â wal ar y campws yn fyw.  Gan weithio gyda Phil Cheater, artist Fresh Creative sydd hefyd yn gyn-fyfyriwr yng Ngholeg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant, creodd y ddau’r murlun gyda phroffesiynoldeb a brwdfrydedd, gan greu delwedd fywiog a llawn llawenydd i bawb ei fwynhau a chraffu arni.

Agoslun o ran o’r murlun.

Meddai Huw: “Rwyf mor ddiolchgar am y cyfle i greu murlun sy’n adlewyrchu rhywbeth sy’n agos iawn at fy nghalon.  Byddai pobl bob amser yn dweud wrthyf i mai hobi’n unig yw celf, ond gwneud y penderfyniad i astudio celf a dylunio yn y brifysgol oedd y peth gorau a ddigwyddodd i mi erioed, ac mae wedi agor drysau proffesiynol yn barod.” Graddiodd Huw yr haf hwn gydag anrhydedd Ddosbarth Cyntaf, ac aeth i weithio ar unwaith yn ddylunydd.  

Meddai Donna Williams, Rheolwr Rhaglen ar gyfer Dylunio Graffig yn y Drindod Dewi Sant:  “Rydym ni wrth ein boddau bod y prosiect wedi’i gwblhau a’r murlun wedi’i greu i bawb ei fwynhau.  Mae hyn wedi bod yn llafur cariad i Huw, sydd wedi bod yn fyfyriwr gwych, a phob amser yn ychwanegu ystyr ac yn llawenhau ymhob peth mae’n ei greu.  Gwnaeth ei ddewrder wrth ddilyn yr hyn roedd yn dymuno’i wneud argraff arnom ni, hefyd ei ymgysylltu parhaus a’i ymatebion creadigol i’w holl brosiectau, sy’n dod â llawenydd i ni fel darlithwyr.  

“Rydym ni wrth ein boddau bod yr artist Phil Cheater o Fresh Creative, cyn-fyfyriwr yn y Drindod Dewi Sant, wedi gweithio gyda ni i roi’r dyluniad ar y waliau.  Rhoddodd hyn hyd yn oed fwy o bwyslais i’r murlun ac mae’n enghreifftio’r hyn rydym ni’n ei wneud yma; mae’n dathlu cyflawniadau ein graddedigion ac rydym yn gobeithio ei bod yn cynnig hyder i ddarpar fyfyrwyr, ac artistiaid a dylunwyr y dyfodol.”

Y Dylunydd Graffig, Huw Edwards, yn eistedd wrth waelod ei furlun.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon