Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi croesawu myfyrwyr o Goleg Douglas, Canada ers 2009, ar semester dramor, rhaglenni haf ac er mwyn cwblhau graddau.

A picture of James Piggott standing outside the Dewi Building on the Carmarthen Campus

Cafodd James Piggott, sy’n astudio Gwyddor Chwaraeon ac Addysg Gynradd, ei ddenu i PCYDDS oherwydd ei chyrsiau amrywiol a’i chyfleusterau chwaraeon gwych. Roedd ei argraffiadau cyntaf yn cyd-fynd â’i ymweliad blaenorol â’r DU yn 2017, ac fe deimlodd yn gartrefol yn gyflym.

“Rwy’n teimlo fy mod wedi ymgartrefu’n gyflym, wnes i ddim hiraethu am gartref unwaith, ac rydw i wedi mwynhau fy holl amser yma. Mae bywyd myfyrwyr yn hwyl yma gan fod mwyafrif y ffrindiau rydw i wedi’u gwneud yma’n byw ar y campws hefyd. Rwy’n hoffi bod y campws yn llai o faint yng Nghaerfyrddin felly mae gan y brifysgol ymdeimlad da o gymuned, llonyddwch, a glendid.” 

Mae James wedi gwneud yn fawr o’i amser fel myfyriwr ar y campws gan gymryd rhan yn nigwyddiadau’r Undeb Myfyrwyr megis bowlio deg a Bounce Below. Mae hefyd wedi ymuno â’r tîm pêl-droed. Dywedodd:

“Cefais amser gwych yn chwarae i’r tîm pêl-droed. Llwyddais chwarae pedair gêm olaf y tymor a sgorio pedair gôl yn y pedair gêm hynny. Criw ffeind a chyfeillgar o fois ar y tîm. Mae’r cyfleusterau ar y campws yn dda. Rwy’n gwneud defnydd da o’r cae chwarae pêl-droed 3G. Rwy’n mynd i fyny i gicio pêl yn rheolaidd gyda fy ffrindiau. Mae safon y pêl-droed yn PCYDDS yn go debyg i’r safon rwy’n ei chwarae nôl yng Nghanada. Mae hefyd amrywiaeth gwahanol o chwaraeon ar gael yma o’i gymharu â Chanada.” 

Teimlodd yn gartrefol ar y campws yn syth, ar ôl cael cefnogaeth dda gan dîm rhyngwladol PCYDDS a’i ddarlithwyr, gan ddweud fod pawb wedi bod yn gyfeillgar a chymwynasgar.

Mae ei amser yn PCYDDS wedi ehangu ei orwelion yn academaidd ac yn ddiwylliannol. Mae’n llawn cyffro i rannu ei brofiadau â theulu a ffrindiau nôl yng Nghanada, gan ennyn eu diddordeb mewn astudio dramor, yn enwedig yng Nghymru. 

Meddai Kath Griffiths, Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol PCYDDS: 

“Rydym yn falch iawn o gael James i ymuno â ni’r semester hwn, ac mae’n hyfryd gweld ei fod wedi cofleidio bywyd ar y campws yn llwyr. Mae astudio dramor yn benderfyniad sylweddol, un a all newid bywyd go iawn. Mae’n rhoi cyfle i fyfyrwyr fel James nid yn unig i ymgolli mewn diwylliant newydd ond hefyd i adfyfyrio ar eu bywydau gartref. Ar ben hynny, nod y rhaglenni cyfnewid hyn yw meithrin cydweithredu rhyngwladol a chyfnewid gwybodaeth rhwng Cymru a Chanada ar raddfa ehangach.”

Os ydych chi’n ymgeisydd neu’n fyfyriwr presennol yn PCYDDS ac am ddysgu mwy am gyfleoedd rhyngwladol: Astudio Dramor a Chyfnewid | University of Wales Trinity Saint David (uwtsd.ac.uk)

Myfyrwyr ar ymweliad â Chymru: Myfyrwyr cyfnewid a myfyrwyr ar ymweliad | University of Wales Trinity Saint David (uwtsd.ac.uk)


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau