Skip page header and navigation

Mae myfyriwr Ffilm sydd newydd raddio gyda gradd dosbarth cyntaf  o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ddiolchgar i Ganolfan S4C Yr Egin am y cyfle i ddatblygu yn y maes yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr yn y Brifysgol.

Gethin Elwyn yn gwisgo gŵn a het academaidd.

Penderfynodd Gethin Elwyn o Aberystwyth ddod i astudio Ffilm ar gampws Caerfyrddin y Drindod Dewi Sant yn y gobaith y byddai’n gallu cydweithio gyda’r Egin i ennill profiad gwaith o fewn y diwydiant creadigol.

Bu’n ddigon ffodus o gael cyfle i wneud interniaeth gyda Chanolfan S4C Yr Egin pan wnaeth ei ddarlithwyr o’r cwrs Ffilm ei annog i ymgeisio am y rôl. Meddai:

“Roedd yr interniaeth yn apelio gan ei fod yn rhoi’r cyfle i mi ddysgu sgiliau yn y maes cyfryngau, ac ennill profiad ymarferol a chreadigol.”

Fel intern, cafodd Gethin y cyfle i gael profiad gwaith ar y gyfres deledu ‘Jonathan’ sawl gwaith, helpu gyda nifer o sioeau a chyngherddau a gynhaliwyd yn Yr Egin drwy helpu gyda’r gosod sain a golau, gwaith camera a golygu fideos i’r Egin. Ychwanegodd:

“Mi wnaeth e roi rhywbeth ychwanegol i’r gwaith academaidd yn amlwg - rhywbeth wnaeth wir wneud i mi gyrraedd fy mhotensial llawn ar adeg brysur. Roedd yna lawer o fomentau sy’n gwneud i mi deimlo’n falch. Gyda’r ddau beth yn mynd law yn llaw, roedd yn gwneud fy mhrofiad fel myfyriwr yn llawer mwy gwerthfawr. Roedd staff cyfeillgar ar gael i fy helpu, pobl fel Llinos oedd yn fy annog i fedru gwneud y mwyaf o’r cyfle.”

Bu Gethin hefyd yn delio gyda chwsmeriaid Yr Egin, a  gweithio gyda phobl ifanc megis Clwb Canfas i greu ffilm fer. Cafodd y cyfle i fod yn gyfarwyddwr ar y prosiect hwn, gan gynorthwyo gyda’r dysgu am dechnegau ffilm gan gynnwys gwaith camera a’u goruchwylio drwy gydol y broses.

Dywedodd Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin:

“Rydym y tu hwnt o falch o lwyddiant Gethin ac yn ei longyfarch yn ddiffuant ar raddio gydag anrhydedd. Tra’n fyfyriwr gwnaeth gymryd bob cyfle allgyrsiol oedd ar gael iddo boed hynny’n brofiad gwaith gyda chwmnïau teledu megis Afanti a Boom yn ogystal â chyfnod estynedig fel interniaeth yma yn Yr Egin yn gweithio ar lu o ddigwyddiadau byw ac arlein. Mae pontio rhwng addysg a diwydiant yn rhan bwysig o genhadaeth Yr Egin ac edrychwn ymlaen at weld gyrfa Gethin yn mynd o nerth i nerth.”

Fel myfyriwr, teimlodd Gethin ei fod wedi derbyn arweiniad da gan ei ddarlithwyr a’i diwtoriaid wrth astudio’i gwrs Ffilm. Un rhinwedd o’r cwrs wnaeth Gethin fwynhau oedd y rhyddid oedd yn perthyn i brosiectau’r cwrs. Ychwanegodd:

“Mi wnes i ddau brosiect ar gyfer y ddau fodiwl diwethaf ar ddiwedd cyfnod y Brifysgol. Wnes i ffilm ddogfen fer ar hanes afalau yng Nghymru. Wnes i ffilmio Sam Robinson Person, unigolyn diddorol iawn sydd wedi symud o Loegr i Ddyffryn Dyfi a dysgu Cymraeg a gweithio fel bugail a nawr yn sefydlu busnes bach yn gwneud seidr. Gwnaeth y ffilm ddogfennu afalau Cymreig. Wnes i hefyd gyfweld Morgan Owen sydd yn gweithio yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd’, Aberystwyth, ac fe wnaeth sôn am hen enwau ar afalau a hanes yr enwau.

“Fy ail brosiect oedd y ffilm fer Croesi Traeth. Wnes i greu rhywbeth gyda llawer o ysbrydoliaeth gan gynhyrchwyr a chyfarwyddwyr eraill. Mae’n stori am ddyn ifanc unig sydd yn mynd ar siwrne o ddeffroad emosiynol o fod mewn cyfnod tywyll i gael gobaith ac ysbrydoli eraill. Yn y ffilm defnyddiais linellau o’r gerdd “Croesi Traeth” gan Gwyn Thomas.”

Ychwanegodd y darlithydd Dr Brett Aggersberg:

“Mae Gethin wedi bod yn fyfyriwr gwych i weithio gyda,  gan ei fod wedi cofleidio’r daith ddysgu. Mae wedi dod â’i natur chwilfrydig a’i feddwl creadigol i’n gradd BA Gwneud Ffilmiau a chymhwyso theori a phrosesau’r ddisgyblaeth hon i’w waith.

“Fel Cymro balch a siaradwr Cymraeg mae Gethin wedi gwneud y gorau o’r cyfleoedd a ddarparwyd iddo tra yn y Brifysgol. Ymhlith y rhain, roedd yr Interniaeth a ddechreuodd yng Nghanolfan S4C Yr Egin, a chynhyrchu rhaglen ddogfen yn y Gymraeg sy’n dathlu’r iaith a’i chysylltiad â ffermio traddodiadol afalau seidr.

“Mae Gethin yn gobeithio symud ymlaen â’i yrfa ym maes cynhyrchu ffilmiau creadigol drwy’r Gymraeg yng Nghymru.”

Mae Gethin bellach wedi graddio, ac wrthi’n datblygu prosiectau creadigol, ac yn benderfynol o ennill gwaith yn y maes cyfryngau.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau