Skip page header and navigation

Pan fydd Peolita Douglas yn croesi’r llwyfan yn ei seremoni raddio yn Birmingham y mis hwn (MEHEFIN) gyda’i theulu agos a’i ffrindiau’n gwylio, bydd hi’n gwneud hynny gyda balchder, gan wybod bod ei gwaith caled wedi talu ar ei ganfed.

Peolita Douglas yn gwisgo cap a gŵn graddio.

Gyda chefnogaeth darlithwyr, mae Peolita wedi goresgyn heriau yn sgil y pandemig a’r argyfwng costau byw presennol i raddio gyda gradd Meistr mewn Rheoli Sgiliau yn y Gweithle.

Mae byd o wahaniaeth rhwng hyn a’i dyddiau yn yr ysgol yn ystod y 1960au lle, er ei bod yn mwynhau rhai agweddau ar y gwersi, roedd hi’n dioddef hiliaeth.  

Meddai Peolita: “Rwy’n fyfyriwr aeddfed, yn dod o rieni Caribïaidd dosbarth gweithiol, a ymfudodd i Loegr o Ynys St Kitts yn y Caribî ar ddechrau’r 1960au.  Roedd fy magwraeth a mynd i’r ysgol yn y 60au yn Birmingham yn anodd, ac yn hiliol ar adegau a byddwn i’n teimlo’n ynysig.  

“Ond roedd fy rhieni bob amser wedi hyrwyddo addysg fel ffordd o gyflawni cymaint ag y bo modd mewn bywyd, felly roeddwn i’n awyddus i wneud hynny.”

Ers iddi adael yr ysgol mae Peolita wedi mwynhau gyrfa 40 mlynedd yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol fel gweithiwr ieuenctid, gofalwr maeth, uwch gynorthwyydd gwaith cymdeithasol, swyddog comisiynu lleoliadau a rheolwr maethu.

Peolita Douglas, yn ei chap a gŵn graddio, yn sefyll gyda dyn wrth ei hochr.

Yn 2019, penderfynodd Peolita led-ymddeol er mwyn gallu mwynhau teithiau i ffwrdd gyda’i theulu a’i ffrindiau – ond ni pharhaodd yr egwyl dda ei bwriad honno’n hir.

Meddai Peolita: “Ochr yn ochr â fy swydd, rwy’n fam, yn wraig, hefyd rwy’n cefnogi aelodau fy nheulu estynedig a ffrindiau.

“Roeddwn i’n awyddus i gymryd amser i ffwrdd a lled-ymddeol a mwynhau bywyd yn mynd ar wyliau am ychydig o flynyddoedd.

“Ond ar ôl siarad â ffrind a oedd ar fin cychwyn yn y brifysgol a chlywed am y cyfleoedd i astudio am radd, neidiais ar y cyfle.

 “I ddechrau doeddwn i ddim wedi meddwl am ennill cymwysterau tu hwnt i lefel 4 Sgiliau yn y Gweithle, a dyma fi 3 blynedd yn ddiweddarach yn gwneud gradd Meistr.

“Mae ffrindiau a theulu’n dweud eu bod yn hynod o falch ohonof fi.  Rwyf innau’n falch ohonof fy hun hefyd.  Rwy’n gobeithio cyflawni rôl reoli yn y dyfodol ym maes AD. Yn y cyfamser rwyf i wedi dewis ymgymryd â gwaith gwirfoddol ym maes recriwtio yn AD o fewn Barnardo’s lle rwy’n gweithio’n rhan amser. Mae hyn yn teimlo’n gyffrous, a bydd yn fy ngalluogi i ddefnyddio llawer o’r sgiliau rwyf wedi’u hennill gyda fy ngradd BA. 

Dywedodd Peolita ei bod wedi profi heriau yn ystod ei hastudiaethau ond roedd wedi gweithio’n galed i’w goresgyn.

Meddai: “Rwyf wedi profi llawer o galedi ariannol, oherwydd y dirywiad economaidd a chostau byw’n codi.  Hefyd darganfyddais yn fy mhumdegau hwyr fod gen i anableddau dysgu.  

“Gallai’r caledi hwn fod wedi fy rhwystro, ond dyfalbarheais ac rwy’n gwybod bod gen i’r fath ymdeimlad o gyflawniad o wybod ei bod i gyd wedi bod yn werth chweil.  

“Byddwn i’n argymell y cwrs hwn i bobl eraill, yn enwedig myfyrwyr aeddfed sydd wedi gweithio cyn hynny ac yn awyddus i wella ac ehangu eu gwaith a’u profiad bywyd.  Ac yn enwedig i’r rheini sy’n dymuno cael cyfle i brofi bywyd prifysgol.” 


Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau