Skip page header and navigation

Mae un o raddedigion Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi newid ei gyrfa trwy ddychwelyd i’r dosbarth i annog ac ysbrydoli eraill.

Rachel Williams

Ar ôl cymhwyso’n gyfrifydd yn 22 oed, roedd Rachel Williams yn dal yn ansicr iawn a oedd hi wedi gwneud y penderfyniad cywir o ran ei gyrfa.

Meddai: “Yn teimlo ar goll, treuliais ychydig amser i ffwrdd o’r gwaith i deithio a gwirfoddoli gyda phlant a theuluoedd yn Ffiji a Seland Newydd. Y profiad hwn a’m helpodd i sylweddoli mai datblygiad plentyndod oedd fy niddordeb, yn y cyd-destun addysgol yn benodol.”

Yn 25 oed, penderfynodd Rachel ddychwelyd i’r brifysgol ac ymgeisiodd i astudio Astudiaethau Addysg: Cynradd yn y Drindod Dewi Sant. Roedd hi’n chwilio am rywbeth a oedd:

“yn fwy personol, cefnogol, rhyngweithiol a chyfeillgar, lle’r oedd y darlithwyr yn adnabod eich enw ac yn cymryd diddordeb ynoch chi fel unigolyn. Ar gyfer hyn, roedd y Drindod Dewi Sant yn gweddu’n berffaith.”

Nod Rachel oedd dilyn gyrfa yn y sector addysg.

Dywedodd: “Rwy’n credu bod dewis cwrs addysg cynradd mwy cyffredinol yn hytrach na’r opsiwn o ffocws ar SAC neu ADY wedi fy helpu i weithio allan fy nghyfeiriad.”

Mae Rachel wedi datblygu sylfaen gadarn o wybodaeth y mae hi’n credu a fydd o gymorth iddi mewn unrhyw gyfeiriad. Teimla Rachel hefyd fod y lefel o ymrwymiad, anogaeth a chefnogaeth gan ei darlithwyr a’i thiwtor personol wedi rhoi mwy o hyder iddi yn ei gallu fel unigolyn. Mae hyn wedi’i galluogi i wneud cais llwyddiannus i astudio gradd meistr seicoleg mewn Addysg, wrth iddi weithio tuag at ei nod o gwblhau PhD a dod yn seicolegydd addysgol.

Ychwanega Rachel:

“Mae disgwyliadau a gofynion y radd hon wedi rhoi prawf ar fy ngwydnwch yn ddysgwr annibynnol ac wedi fy annog i archwilio’n feirniadol byd damcaniaethol ac ymarferol addysg. Heb yr ystod eang o ddamcaniaethau a phynciau yr ymdrinnir â nhw ar y radd hon, mae’n debygol na fyddwn wedi darganfod y cyfleoedd sydd ar gael yn y sector addysg y tu hwnt i addysgu.”

Meddai’r Darlithydd Alison Murphy:

“Roedd Rachel yn fyfyriwr ardderchog, yn llawn cymhelliant ac yn drefnus iawn. Roedd ei phrofiadau yn y sector addysg yn amhrisiadwy wrth rannu ei mewnwelediadau â myfyrwyr eraill ac roedd ei chyfraniadau mewn darlithoedd yn wastad yn ystyriol a pherthnasol. Dymunaf bob lwc iddi ar gyfer y dyfodol.”

Ar ôl graddio, prif nod Rachel yw:

“cael effaith bositif ar brofiadau dysgu unigol a bywydau plant a phobl ifanc; a chyda chymorth ac arweiniad fy narlithwyr yn y Drindod Dewi Sant, credaf fod hyn yn rhywbeth y gallaf ei gyflawni.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau