Skip page header and navigation

Mae myfyriwr BA Gwneud Ffilmiau Antur o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cydweithio â Thîm Achub Mynydd Bannau’r Gorllewin i arddangos eu gwaith.

Dyn yn gwisgo siaced oren lachar.

Penderfynodd Scott Beckett o Flaendulais ddilyn gwaith Tîm Achub Mynydd Bannau’r Gorllewin o ddydd i ddydd ar gyfer rhaglen ddogfen fer fel rhan o’i waith cwrs.

Bu Scott yn edmygydd mawr erioed o sefydliad Achub Mynydd. Pan ddarganfu fod ganddo ychydig o amser ar gael i’w brosiect ffilm, penderfynodd greu fideo a fyddai nid yn unig yn cefnogi ei waith cwrs, ond hefyd sefydliad a allai elwa ohono ar yr un pryd.

Meddai:

“I mi, mae Achub Mynydd yn rhan annatod o unrhyw fath o waith yn yr awyr agored, oherwydd pe bai rhywbeth yn mynd o’i le, nhw fydd y rhai i’ch helpu. Mae’r ffaith mai gwirfoddolwyr yw pawb yn dangos y lefel o ymroddiad roeddwn i eisiau ceisio ei ddal ar ffilm a’i rhannu â chynulleidfa mor eang â phosib.”

Mae’r rhaglen ddogfen 6 munud yn cynnwys cyfweliadau ag aelodau’r tîm sy’n rhannu eu stori. Meddai:

“Roedd pwnc y ffilm yn ddelfrydol gan fod rhan o’r cwrs Gwneud Ffilmiau Antur yn ymdrin â  ‘digwyddiadau yn yr awyr agored’ yn enwedig y paramedrau y byddai Tîm Achub Mynydd yn gweithredu ynddynt, fel y gallwn weld a hyd yn oed defnyddio rhai o’r sgiliau yr oeddwn wedi’u dysgu drwy gydol y cwrs wrth weithio ar y prosiect hwn. 

 “Roedd cydweithio gyda’r tîm yn agoriad llygaid ac fe wnaethon nhw greu amgylchedd croesawgar i hwyluso datblygiad fy ngweledigaeth greadigol.”

Gwirfoddolwyr achub mynydd yn tywys stretsier ar declyn codi i fyny clogwyn.

Penderfynodd Scott astudio BA Gwneud Ffilmiau Antur yn Y Drindod Dewi Sant gan fod y Brifysgol yn cynnig cwrs unigryw wedi ei addysgu gan arbenigwyr yn y diwydiant. Meddai:

“Wrth ddod allan o’r cwrs rwy’n teimlo’n fwy cymwys fel gwneuthurwr ffilmiau ac ymarferydd awyr agored. Oni bai am y cwrs: - y sgiliau roeddwn i wedi’u dysgu, y cysylltiadau roeddwn i wedi’u hennill a’r hyder a roddodd i mi, ni fyddai’r ffilm erioed wedi gweld golau dydd.”

Mae’r tîm Achub Mynydd yn falch o’i waith a byddant yn ei arddangos ar eu tudalen Facebook i hyrwyddo eu gwaith er mwyn denu rhoddion a rhagor o wirfoddolwyr.

Meddai Nick McAllister, Ysgrifennydd Tîm Achub Mynydd Bannau’r Gorllewin:

“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Scott ar y prosiect hwn ac rydym yn falch dros ben o’r prosiect gorffenedig. Mae wedi llwyddo i gyfleu ein stori mewn ffordd realistig, gan ddangos sut mae ein haelodau yn mwynhau’r hyn maen nhw’n ei wneud heb unrhyw dâl ariannol. Gobeithio y bydd y fideo hwn yn goleuo’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu yn ne, canolbarth a gorllewin Cymru.”

Meddai’r Uwch Ddarlithydd Dr Brett Aggersberg:

“Mae Scott Beckett yn fyfyriwr sy’n graddio gyda BA (Anrh) o’r cwrs Gwneud Ffilmiau Antur sy’n rhedeg ers cwta bum mlynedd. Mae’r cwrs eisoes wedi creu gweithwyr gwneud ffilmiau proffesiynol cyffrous, sydd wedi cyfrannu at yr agwedd newydd hon ar y diwydiannau ffilm ac awyr agored. Mae myfyrwyr fel Scott yn cael cyfle i ddatblygu eu diddordebau creadigol a phroffesiynol a gwneud hyn trwy eu hastudiaethau dan oruchwyliaeth ac ymgysylltu â diwydiant.”

Gallwch wylio ffilm ddogfen Scott ar YouTube

Gwirfoddolwyr achub mynydd mewn gêr llawn.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus  
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus  
E-bost: lowri.thomas@uwtsd.ac.uk  
Phone:  07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau