Skip page header and navigation

Mae Kerry Collison, 23 oed, bob amser wedi teimlo bod rhaid iddi weithio gyda’i dwylo.

Kerry Collison yn gwenu yn ei gŵn graddio.

“Mae gen i atyniad pendant at ddeunyddiau peryglus,” meddai, wrth iddi sôn wrthym am astudio Cerflunio yn Ysgol Gelf Caerfyrddin. “Metelau poeth, gwydr - mae rhywbeth barddonol am barchu deunydd, ac yntau’n caniatáu i chi greu rhywbeth allan ohono.”

Ar ôl gwneud gwaith castio, cerfio ac adeiladu ar gyfer ei gradd Baglor, parhaodd Kerry i ddyfnhau ei harfer creadigol ar gwrs arall, y tro hwn ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

“Dewisais i astudio MA Celfyddydau Cain: Deialogau Cyfoes yng Ngholeg Celf Abertawe,” meddai. “Fe wnes i ei ddewis oherwydd pa mor agored ac amlddisgyblaethol ydyw. Roedd lle i mi gyfuno celf gain gysyniadol a gwneud crefftau.

“Yn aml, mae celf a chrefft yn cael eu cadw’n hollol ar wahân, sy’n drueni o ystyried y gorgyffwrdd enfawr rhyngddyn nhw, ond wedyn yn Y Drindod Dewi Sant maen nhw’n cael eu trin yn gyfartal.”

“Pan ddechreuais i’r cwrs, dim ond anelu at wneud panel gwydr lliw bach a datblygu fy ymarfer celf gain ychydig yn fwy oeddwn i. Roeddwn i eisiau ennill ychydig o sgiliau arbenigol nad oeddwn hyd yn oed yn siŵr y byddwn i’n eu defnyddio yn y dyfodol.”

“Doedd gen i ddim syniad y byddwn i, o wneud y cwrs, ochr yn ochr â’r holl wybodaeth newydd, yn datblygu cariad a dealltwriaeth o wydr yn ddeunydd a fyddai’n siapio cyfeiriad fy nyfodol.”

Gan ddisgrifio ei darlithwyr yn ‘addysgwyr hynod dalentog’, dywed Kerry fod Y Drindod Dewi Sant wedi meithrin perthnasoedd gwaith a chyfleoedd gyrfa a fydd yn ei galluogi i fynd o nerth i nerth yn y blynyddoedd i ddod. “Mae’r holl bethau hyn yn werth llawer mwy na chymhwyster,” meddai Kerry.

“Yr uchafbwynt i mi yng Ngholeg Celf Abertawe oedd gallu gweithio’n agos gyda’r Ganolfan Gwydr Pensaernïol. Daeth y stiwdio yn ail gartref i mi, ac rwy’n teimlo mor freintiedig fy mod i wedi cael dysgu gan Owen Luetchford a Stacey Poultney. Mae’r ddau’n ymarferwyr talentog iawn.”

Kerry Collison yn gwenu gyda'i rhieni.

Cadwodd Kerry ei hun yn brysur wrth astudio, gan gwblhau cyfnod preswyl i raddedigion yn Ysgol Gelf Caerfyrddin a Phrentisiaeth mewn Gwydr Lliw yn y Ganolfan Gwydr Pensaernïol, wrth weithio’n agos gyda New British Art i gynnal arddangosfa unigol ochr yn ochr â’i Sioe Raddio MA.

Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ystyried sut mae pobl yn gweld gwydr lliw, gan ddefnyddio hiwmor a delweddau annodweddiadol i wneud crefft o fri traddodiadol yn fwy ystyrlon i gynulleidfa gyhoeddus. “Bu gan wydrwyr synnwyr digrifwch erioed, un maen nhw wedi’i guddio’n glyfar drwy gydol eu gwaith,” meddai Kerry. “Dim ond pan fyddwch chi’n astudio eu gwaith yn agos y daw’n amlwg, ac i mi, mae hwn yn beth pwysig i’w amlygu.”

Wrth orffen ei gradd Meistr, mae Kerry hefyd wedi bod yn gweithio gyda Sky Arts ar ail dymor Master Crafters: The Next Generation Bill Bailey a fydd yn cael ei ddarlledu nos  Iau 13 Gorffennaf, am 8 o’r gloch.

“Fe wnes i gais am y sioe ar fympwy llwyr, heb ddisgwyl o gwbl y byddai’n do di rywbeth - yn enwedig gan fod fy ngwaith yn aml yn anhraddodiadol a dadleuol. Ond mae’n ymddangos eu bod nhw’n dwlu ar hynny!”

“Roeddwn i’n sicr yn nerfus i weithio ar gamera, ond unwaith i mi ddechrau, cefais gymaint o hwyl yn cwblhau’r heriau ar gyfer y sioe. Roedd yn teimlo fel breuddwyd, felly rwy’n gyffrous i’w weld yn cael ei ddarlledu a’r profiad cyfan yn troi’n realiti.”

Creodd y ffilmio berthynas wych rhwng Kerry, y crefftwyr eraill a’r gweithwyr proffesiynol y bu’n gweithio gyda nhw, y gobeithia y bydd yn arwain at gydweithio yn y dyfodol. “Mae wedi bod yn brofiad dysgu a bywyd gwych. Byddwn i’n cynghori crewyr eraill y bydd unrhyw ran yng nghymuned eich maes o fudd i’ch dyfodol yn artist.

“Ond yn gyntaf oll, fyddwn i ddim lle’r ydw i nawr heb astudio yng Ngholeg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant a gweithio gyda’r Ganolfan Gwydr Pensaernïol. Mae Abertawe’n adnabyddus am ei gwydr lliw, ac mae wir wedi ennill y gydnabyddiaeth honno.

“Ces i gymorth aruthrol gan dechnegwyr Y Drindod Dewi Sant, ac mae’r cyfleusterau’n anhygoel – byddai hi’n amhosibl i mi argymell  y rhaglen yn ddigon cryf os oes gennych chi ddiddordeb mewn Gwydr Lliw.”

Daliwch Kerry ar Sky Arts, Nos Iau 13 Gorffennaf am 8 o’r gloch.

Kerry Collison yn sefyll wrth fainc waith mewn ystafell ganoloesol gromennog yng nghwmni Billy Bailey, John Reyntiens ac eraill.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau