Skip page header and navigation

Mae un o fyfyrwyr MA Theatr Gerddorol Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi diogelu swydd ei breuddwydion wrth iddi ymuno â ‘The Satin Dollz.’

Llun ochr o’r fyfyrwraig MA Theatr Gerddorol, Darcie Cochrane, yn gwisgo top gwyn oddi ar yr ysgwydd.

Bydd Darcie Cochrane yn ymuno â ‘The Satin Dollz’ i berfformio’n rhan o driawd canu ‘pin-up’ yn arddull yr oes a fu. Sefydlwyd ‘The Satin Dollz’ yn 2005 yn LA, ac mae gan y cwmni adrannau yn Efrog Newydd, Paris, Yr Eidal a Llundain ar hyn o bryd.

Yn rhan o’i rôl, bydd Darcie yn perfformio mewn amrywiaeth o leoedd yn rhan o’r grŵp gan gynnwys gwyliau’n dathlu’r oes a fu, digwyddiadau Ail Ryfel Byd a digwyddiadau corfforaethol.

Meddai Darcie:

“Des i o hyd i’r ddolen clyweliadau trwy Instagram y Satin Dollz, lle roeddynt yn hysbysebu eu bod am gynnal clyweliadau i gantorion a meddyliais pam lai? Bu’n freuddwyd gen i fod yn rhan o’r gymuned sy’n mwynhau’r oes a fu ac mae perfformio ynddi’n well fyth! Gwnes gais am fy mod yn gwybod y byddai’r amseru’n berffaith o ran gorffen fy nghwrs ac er fy mod yn dal i gael hyfforddiant, waeth i mi ddechrau cynnig fy hun ar gyfer rolau.

“Rwy’n siŵr mai bod yn y Satin Dollz yw dechrau fy nhaith i yrfa berfformio fywiog, gyffrous ac amrywiol!”

Penderfynodd Darcie astudio’r MA Theatr Gerddorol yn Y Drindod Dewi Sant, am ei bod yn gwybod bod angen cwrs dwys arni i’w chodi i safon berfformio broffesiynol yn y diwydiant.

“I mi, mae natur ddwys y cwrs wedi bod o help enfawr. Yn ein tymor cyntaf gwnaethom ganolbwyntio ar ein sgiliau ymarferol, a gwnaethom orffen ein hasesiadau ym mis Chwefror. Gwnaeth tymor o ddosbarthiadau dwys addysgu i mi’r hyn oedd arnaf ei angen i ddod yn well perfformiwr.

“Mae ein hathrawon yn WAVDA mor gefnogol bob tro ac yn eich gwthio i gyrraedd eich potensial llawnaf. Mae Tori Johns, ein hathrawes ddawns, wedi rhoi hwb enfawr i’m hyder wrth ddawnsio, a bu pob gwers yn fuddiol i’m twf fel perfformiwr.”

Meddai Eilir Owen Griffiths, Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru.

“Mae bob amser yn newyddion gwych pan fo myfyriwr, sy’n dod i ddiwedd eu hastudiaethau gyda ni, yn sicrhau swydd. Mae Darcie wedi gweithio’n galed yn ystod ei chyfnod gyda ni ac rydyn ni mor falch o’i llwyddiant. Dymunwn yn dda iddi gyda’r Satin Dollz.”

Ychwanegodd y darlithydd Elen Bowman:

“Rydym wrth ein bodd bod Darcie wedi bod yn llwyddiannus gyda’i rôl broffesiynol cyntaf. Mae Darcie wedi tyfu a datblygu yn ystod ei MA mewn Theatr Gerdd ac mae’n fyfyriwr mwyaf bywiog ac ymroddedig. Dymunwn y gorau iddi gyda Satin Dollz a’r holl waith yn y dyfodol sy’n dod ei ffordd!”

Gan fod taith Darcie yn Y Drindod Dewi Sant yn dod i ben, mae hi’n annog eraill i ddilyn ei holion traed:

“Mae’r cyrsiau BA Theatr Gerddorol, BA Perfformio ac MA Theatr Gerddorol yn ddwys er mwyn eich codi i safon sy’n barod i ymuno â’r diwydiant. Os ydych yn chwilio am her ond hefyd cael modd i fyw gyda chyd-fyfyrwyr anhygoel a thalentog, da chi, gwnewch gais! Bydd eich ymdrechion yn talu’u ffordd ar y cwrs hwn, ac erbyn cyrraedd yn agos i ben y daith yn WAVDA, ni fuaswn wedi gallu dychmygu hyfforddi yn unman arall.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau