Skip page header and navigation

Mae myfyriwr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi’i ddewis i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Rhedeg Llwybrau Ewrop, y Trail De Guerledan.

Ollie George, myfyriwr yn PCYDDS, yn rhedeg llwybrau.

Dyma fydd cyfle cyntaf swyddogol Ollie George o Sir Benfro i gynrychioli Cymru. Mae’r Ras yn cael ei hadnabod fel y Trail De Guerledan, sy’n cynnal Pencampwriaethau Rhedeg Llwybrau Ewrop. Mae’n cwmpasu pellter o 26KM yng nghadwyn mynyddoedd/llwybrau Llydaw.

Meddai Ollie: “I mi mae cystadlu mewn ras o safon uchel fel hon, a chystadlu dramor, yn brofiad rhyfeddol a gwefreiddiol ac yn anrhydedd.”

Cafodd ei ddewis wedi iddo ddod yn ail ym Mhencampwriaethau Rhedeg Llwybrau Cymru ym Mhontarfynach ger Aberystwyth ym mis Ebrill.  

Mae Ollie bob amser wedi bod yn angerddol am redeg ers pan oedd yn blentyn, a gan ei fod yn dod o gefndir ffermio, roedd wedi arfer rhedeg ar ôl buches wartheg y teulu.

Meddai: “Yn bersonol, roeddwn i wastad eisiau bod yn rhedwr proffesiynol o oedran ifanc, ac roeddwn yn benderfynol o wneud hynny trwy weithio’n galed, hyfforddi a llwyddo mewn rasys.”

Mae Ollie ar hyn o bryd yn fyfyriwr ar ei flwyddyn gyntaf yn y Drindod Dewi Sant a phenderfynodd astudio yn y Brifysgol am ei fod eisiau datblygu ei dechneg rhedeg. Mae wedi cael cyfle i gystadlu gyda’r Brifysgol eleni hefyd ym Mhencampwriaethau Traws Gwlad Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) ym Mhen-bre.

Dywedodd fod y cwrs wedi’i helpu i ddatblygu ei yrfa fel athletwr.

“Mae Geraint Forster, fy narlithydd, wedi rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i mi i gynorthwyo gyda’m gyrfa rhedeg, gan gynnwys rhoi Prawf VO2 Max i mi,” ychwanegodd.

Meddai’r darlithydd Geraint Forster: “Mae’n wych bod y Brifysgol wedi gallu cefnogi Ollie gyda’i weithgareddau chwaraeon ochr yn ochr â’i astudiaethau. Fel aelod o’r Academi Chwaraeon Unigol, mae Ollie’n derbyn cefnogaeth gan gynnwys sesiynau trac, sesiynau cryfder a chyflyru a chlinigau therapi chwaraeon.

“Mae Ollie hefyd wedi cynrychioli’r Brifysgol eleni ym mhencampwriaethau traws gwlad Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS), gan wneud yn wych a gorffen fel yr athletwr mwyaf llwyddiannus o’r Drindod Dewi Sant mewn ras gystadleuol iawn. Hoffem ddymuno’n dda i Ollie yn ei ras ryngwladol gyntaf.”

Wrth i Ollie edrych ymlaen at gystadlu yn y Trail de Guerledan, byddai hefyd yn hoffi parhau i ganolbwyntio ar ddatblygu ei yrfa rhedeg yn broffesiynol.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau