Skip page header and navigation

Mae Ellie Jones, sy’n fyfyrwraig ar ei blwyddyn olaf yn astudio rhaglen Meistr Dylunio Patrwm a Thecstilau Integredig yng Ngholeg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wedi derbyn rôl gyffrous gyda’r manwerthwr ffasiwn a nwyddau cartref Prydeinig Matalan.

Ellie Jones yn sefyll gyda balchder wrth ymyl samplau o’i gwaith; mae’r samplau papur wal yn dangos golygfeydd o gefn gwlad.

Erthygl gan Susan Down, myfyrwraig 2il flwyddyn BA Patrwm Arwyneb a Thecstilau, Coleg Celf Abertawe.

Cafodd Ellie ei chyflogi fel dylunydd i Matalan ar ôl arddangos ei gwaith yn arddangosfa fawreddog New Designers yn Llundain, arddangosfa flynyddol o dalent newydd mwyaf arloesol y DU.

Dywedodd Ellie: “Roedd yn gyfle mor werthfawr gan fod fy ngwaith yn cael ei arddangos i nifer fawr o bobl, llawer ohonynt yn gwmnïau mawr yn ein diwydiant dylunio, felly roedd yn wych cael y teimlad o brofi’r diwydiant, a siarad gyda phobl profiadol.”

Ar ddiwedd y sioe ddylunio cysylltodd Tîm Creadigol Matalan gyda Ellie, a chynnig gwaith ar leoliad iddi am 4 wythnos yn eu prif swyddfa yn Lerpwl, a gwblhaodd yn haf 2022.

Roedd y fwrsariaeth Datblygu Gyrfa o’r Drindod Dewi Sant wedi ei helpu i dalu am lety a chostau teithio ar gyfer ei interniaeth 4 wythnos, a alluogodd iddi gwblhau’r gwaith a gwblhaodd yn haf 2022.

Dywedodd: “Fy hoff ran o fy mhroses ddylunio yw gwneud delweddau, dwi wrth fy modd yn gweld fy syniadau yn dod yn fyw.” Tynnodd ei phatrymau lliwgar a chwareus ar gyfer papurau wal, cynnyrch mewnol, a thecstilau sylw Tîm Dylunio Deunydd Cartref Matalan, ac fe gysyllton nhw â hi ym mis Hydref 2022, i ymgeisio am swydd.

Cafodd Ellie ei chyflogi ar ôl proses ddethol drylwyr a oedd yn cynnwys pecyn cais, adolygiad portffolio, briff dylunio dros gyfnod o wythnos a dau gyfweliad. Dywedodd Ellie:

“Pan gynigiodd Matalan y swydd i mi ym mis Ionawr, roeddwn i’n ecstatig, yn emosiynol, ac yn llawn cyffro. Doeddwn i methu credu fy mod wedi llwyddo i gael swydd i raddedigion cyn i mi raddio. Fe gymerodd hi dipyn o amser i mi gredu hyn!”

Ychwanegodd Ellie: “Roeddwn hefyd yn un o enillwyr cystadleuaeth Contrado X New Designers felly cafodd fy ngwaith ei gynnwys ar stondin Contrado ac mae gen i siop ar-lein bellach ar eu gwefan lle gall eraill brynu fy nghynnyrch printiedig.”

Ellie Jones yn sefyll gyda balchder wrth ymyl samplau o’i gwaith; mae’r samplau papur wal a thecstilau yn dangos patrymau blodeuog mewn lliwiau pastel a llachar.

Meddai Georgia McKie, Rheolwr Rhaglen Patrwm Arwyneb a Thecstilau yn Y Drindod Dewi Sant, “Mae gweld Ellie yn derbyn y rôl hon yn Matalan yn foment mor arbennig i’r tîm Patrwm Arwyneb a Thecstilau - rydym yn falch iawn ohoni a’r hyn y mae wedi’i gyflawni. Mae clywed bod Matalan wedi dewis Ellie ar gyfer rôl fel Is- Gynllunydd Deunydd Cartref oherwydd ei gwaith tecstilau eang a’i gwybodaeth patrwm arwyneb amlddisgyblaethol yn glod i’r rhaglen hon. Dyma’n union beth rydyn ni’n gobeithio gwneud i arfogi ein myfyrwyr, a’u gwneud yn ddylunwyr hynod gyflogadwy ar gyfer y dyfodol.

“Rydym yn dymuno pob lwc i Ellie, ac edrychwn ymlaen at ei chroesawu’n ôl i rannu ei phrofiadau o gyflogaeth yn y dyfodol agos.”

Dywedodd Niamh Morgan, myfyrwraig 2il flwyddyn sy’n astudio BA (Anrh) Patrwm Arwyneb a Thecstilau, “Mae wedi bod mor ysbrydoledig i weithio gerllaw Ellie, ac mae sylwi ar yr hyn mae’n gwneud yn y stiwdio neu wrth ei desg wedi bod yn hyfryd. Nid yw’n syndod ei bod wedi cael ei dewis ar gyfer Matalan oherwydd ei rhagoriaeth o fewn ein disgyblaeth. Mae’n esiampl i ni gyd! Mae’n gymaint o anogaeth i ni ei gweld hi’n symud ymlaen i fod yn llwyddiannus fel hyn.”

I weld mwy o waith hyfryd Ellie, ewch i’w gwefan elinorfrances.co.uk

Desg Ellie Jones yng Ngholeg Celf Abertawe; ar y ddesg mae samplau o bapur wal a thecstilau yn ogystal â byrddau naws.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau