Skip page header and navigation

Ymunodd Emma Macgregor â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fel myfyrwraig aeddfed ac mae wedi cwblhau ei gradd Eiriolaeth yn llwyddiannus tra hefyd yn rhedeg ei busnes ei hun, yn gofalu am ei theulu, ac yn ymdopi â heriau Covid.

Emma Macgregor mewn gwisg academaidd.

Ar y dechrau, roedd dychwelyd i addysg fel myfyrwraig aeddfed yn her. Meddai:

“Yn yr ysgol, roeddwn i wir yn teimlo nad oedd gen i ddim hyder. Cymerodd amser hir i mi fagu hyder a dechrau fy nhaith i addysg uwch. Deilliodd hynny o’r cyfle i gymryd diswyddiad gwirfoddol yn fy hen weithle ac yna penderfynais roi cyfle i mi fy hun newid fy llwybr gyrfa.

“Mae’n gyfle gwych i fod yn fyfyriwr aeddfed gan ein bod wedi profi da a drwg yn ein bywydau, rydym yn cael rhannu hynny gydag eraill a’i ddefnyddio i wneud newid er gwell.”

Penderfynodd astudio yn y Drindod Dewi Sant gan ei bod yn brifysgol leol ac ar ôl clywed ei bod yn lle gwych i astudio. Meddai:

“Fe wnaeth dysgu am Eiriolaeth a’r hyn mae eiriolwyr yn ei wneud newid fy agwedd ar fywyd a nawr rwy’n gweld y gymdeithas a’r bobl ynddi’n wahanol. Yn fy maes gwaith i’n gyffredinol cafodd effaith ar fy ffordd o weithio a delio â gwahanol sefyllfaoedd.”

Mae Emma’n teimlo ei bod wedi esblygu yn y ffordd y mae’n gweld pethau o safbwynt gwahanol ac mae wedi ennill mwy o wybodaeth a dealltwriaeth mewn nifer o ffyrdd.

“Efallai fy mod wedi barnu o’r blaen, ond mae fy safbwynt wedi newid yn aruthrol. Gallaf gyfaddef bod hynny’n ddewr, rwy wir wedi newid fel person, er gwell.”

I Emma, rhan fwyaf heriol y cwrs oedd dechrau dysgu yng nghanol covid, gan fod ganddi fabi 6 mis oed, plentyn 8 oed yn dysgu gartref, roedd ei gŵr yn gweithio, ac er ei bod yn teimlo’n ynysig iawn ar adegau, helpodd y brifysgol hi i gadw at drefn benodol o ran ei dysgu.

“Roedd jyglo bywyd cartref, gwaith a phrifysgol yn un peth y gallaf ddweud fy mod wedi ei gyflawni, ac roedd yn sicr wedi fy ngwneud i’n gryfach.”

Dywedodd Emma fod ei darlithwyr wedi ymrwymo i’r hyn maent yn ei ddysgu ac yn credu ynddo. Ychwanegodd:

“Ar adegau, rwy’n credu, fel pob myfyriwr, rydych chi’n gallu ei chael hi’n anodd, efallai eich bod chi eisiau rhoi’r gorau iddi, ond ni fyddai’r darlithwyr yn gadael i chi wneud hynny. Maent yn rhoi cefnogaeth ac arweiniad i sicrhau bod unrhyw feddyliau neu eiliadau negyddol yn cael sylw, yn rhoi anogaeth i ddal ati ac aros yn bositif, a’ch helpu chi mewn unrhyw ffordd y gallant.”

Dywedodd Ken Dicks, Rheolwr y Rhaglen Eiriolaeth:

“Mae wedi bod yn anhygoel gweld yr ysbrydoliaeth y mae Emma wedi’i chael o’i hastudiaethau a’i phenderfyniad i wneud gwahaniaeth. Mae hi wedi dangos ymrwymiad mawr ac rydym yn dymuno’n dda iddi wrth iddi ddilyn gyrfa mewn Eiriolaeth.”

Wrth i Emma raddio, mae’n edrych ymlaen at roi popeth y mae wedi’i ddysgu ar waith wrth iddi ddechrau ei swydd newydd fel hwylusydd i Mencap. Byddai hi hefyd yn hoffi rhoi cynnig ar lwybrau gwahanol ac archwilio gwahanol fathau o eiriolaeth, cyn penderfynu beth yr hoffai arbenigo ynddo.

Dywedodd Emma yr hoffai annog eraill i astudio eiriolaeth, ac i ddilyn ôl ei throed.

“Pe bai gan rywun ddiddordeb mewn cofrestru mewn Eiriolaeth, byddwn yn ei argymell yn fawr. Mae llai na 50 o eiriolwyr proffesiynol annibynnol yng Nghymru, ac mae Eiriolaeth yn rôl unigryw y bydd ei hangen yn y dyfodol, yn fwy nag erioed o’r blaen, i fod yn ddiduedd gan weithio a chynnal hawliau pobl a’u grymuso i sicrhau bob amser bod lleisiau pobl yn cael eu clywed.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau