Skip page header and navigation

Mae Mary Bath, myfyrwraig o Goleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi creu gwobr arbennig ar gyfer categori ‘Barn y Bobl’ yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn.

Y wobr: darluniad wedi’i fframio o ddynes ifanc â gwallt coch hir mewn gŵn gwyn yn cofleidio cath lwyd sydd ddim yn edrych yn hapus iawn.

Dyma’r unfed ar ddeg flwyddyn yn olynol i fyfyriwr o Goleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant greu gwobr ar gyfer y categori hwn. Lluniodd Mary ddarlun arbennig a gafodd ei roi fel rhodd gan Golwg360, noddwyr Gwobr Barn y Bobl i’r awdur Gwenllian Ellis am ei chyfrol: “Sgen i’m Syniad: Snogs, Secs, Sens.”

Mae Mary wedi bod yn frwd dros lyfrau lluniau ers yn ifanc iawn, mae’n canolbwyntio ar ddarlunio naratif, yn enwedig darluniau llyfrau plant. Yn ei darluniau mae’n creu cymeriadau a bydoedd gan ddefnyddio cyfrwng digidol. Mae hi’n archwilio gweadau a lliwiau sy’n cyd-fynd â themâu’r straeon. Mae ei gwaith yn amrywio o themâu o gyfeillgarwch ac antur i arswyd. yn ei drydedd flwyddyn mae Mary wedi dylunio llyfrau lluniau Cymraeg i blant ar gyfer ysgolion ledled Cymru.

Mae’r darlithydd Gwenllian Beynon o Goleg Celf Abertawe yn falch o waith Mary.

“ Mae cydweithio gyda Golwg 360 yn wych ac yn rhoi cyfle i’n graddedigion o Ddarlunio i gael platfform i’w gwaith yn y byd proffesiynol llenyddol yng Nghymru. Eleni mae Mary wedi canolbwyntio ar ei diddordeb o adrodd stori trwy lun ac ar ddarlunio ar gyfer plant.”

“Mae creu gwobr Llyfr y Flwyddyn sydd yn ffocysu ar waith y myfyrwyr yn hytrach nag ar greu gwobr yn rhoi platfform gwych i raddedigion i roi eu gwaith allan yn y byd go iawn ac felly yn rhoi sylfaen iddynt yn eu gyrfa. Wrth edrych yn ôl dros y ddegawd diwethaf,  mae’n hynod o ddiddorol i weld bod y graddedigion hynny wedi llwyddo mewn nifer o wahanol feysydd, boed yn athrawon, yn rhedeg busnesau creadigol llewyrchus yn artistiaid ac yn creu darluniau ar gyfer llyfrau. Mae edrych yn ôl yn dangos bod y cyfleoedd yma yn werth eu gwneud. Rydym yn ddiolchgar iawn am gydweithio gyda Golwg360 ar gyfer ei rhodd o wobr Barn y Bobl Golwg360.”

Cyn ddisgybl o Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur yw Mary.  Gwnaeth gwrs Sylfaen Celf a Dylunio cyn mynd ymlaen i wneud gradd BA Darlunio yng Ngholeg Celf Abertawe, ac fe raddiodd o’r cwrs yr wythnos ddiwethaf.

Mae Mary’n ystyried y cyfle hwn fel anrhydedd:

“Mae wedi bod yn grêt meddwl am fy ngwaith mewn ffordd arall ac ystyried a datblygu fy ngwaith ar gyfer gwobr. Roedd yn edrych yn grêt yn y ffrâm.

“Diolch i Golwg 360 am creu’r posibiliad yma i’n myfyrwyr i greu gwobr Barn y Bobl Golwg 360.”

Mary Bath yn dal ei dyluniad ar gyfer y wobr.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon