Skip page header and navigation

Mae haf cyffrous o flaen Emma Landek, myfyrwraig pedwaredd flwyddyn yng Ngholeg Celf Abertawe, y Drindod Dewi Sant, wrth iddi ddechrau interniaeth myfyrwyr â thâl gyda Rolls Royce y mis hwn (Gorffennaf).

Emma Landek yn gwenu i gyfeiriad y camera wrth eistedd ger ddesg mewn stiwdio gelf, gyda llyfr braslunio a gliniadur ar agor wrth ei hochr.

Emma yw’r ail fyfyrwraig Patrymau Arwyneb a Thecstilau i gael cynnig Interniaeth Myfyrwyr 13 mis gyda’r tîm Lliw ac Addurn Mewnol Pwrpasol yn eu pencadlys dylunio a gweithgynhyrchu yn Goodwood.

Dywedodd Emma, a fydd yn graddio’r flwyddyn nesaf gyda gradd Meistr mewn Dylunio ym maes Patrymau Arwyneb a Thecstilau: “Dwi ddim yn meddwl mod i’n gallu rhoi mewn geiriau sut rwy’n teimlo – dwi wirioneddol wrth fy modd i gael cyfle mor anhygoel i weithio gyda brand mor enwog â Rolls Royce .”

Yn ystod ei thrydedd flwyddyn, cafodd Emma a’i chyd-fyfyrwyr friff i ddylunio’r tu mewn i’r Rolls Royce ‘Phantom‘ a chyflwyno’r cysyniad i ddau aelod o’r tîm dylunio pwrpasol.

Cydnabu’r tîm ei gallu i sianelu hunaniaeth y brand a chyflwyno naratif soffistigedig a oedd yn ymdrin â’i unigrywiaeth a’i foethusrwydd, a dyfarnwyd yr interniaeth iddi.

Dywedodd Emma na allai fod wedi dychmygu ei hun yn y sefyllfa hon pan ymunodd â Choleg Celf Abertawe 5 mlynedd yn ôl.

Meddai: “Dechreuais y cwrs sylfaen celf heb wybod beth roeddwn i eisiau ei wneud o gwbl, dim ond gwybod fy mod i’n ‘gelfyddydol .’ Trwy hap a damwain y des i o hyd i’r rhaglen Patrymau Arwyneb a Thecstilau trwy ddiwrnod agored a gynhaliwyd yn y brifysgol.

“Nawr fy mod wedi’i gwblhau ac wedi sicrhau lleoliad gyda brand unigryw fel Rolls Royce, mae’n dal i deimlo’n swreal.”

Mae’r rhaglen Patrymau Arwyneb a Thecstilau wedi’i strwythuro i alluogi dysgwyr i raddio a pharhau i weithio yn y maes y maent wedi datblygu arbenigedd penodol ynddo – gyda chreadigrwydd uwch a’r gallu i adnabod a manteisio ar y cyfle. 

Gwneir hyn trwy raglen sydd wedi’i chynllunio’n ofalus, gan gydbwyso gweledigaeth greadigol ac allanoldeb, lle mae sgiliau penodol sy’n ofynnol yn y maes ymarfer yn cael eu nodi a’u datblygu. Mae prosiectau ymarferol yn cael eu cyd-destunoli o’r cychwyn cyntaf ac mae’r astudiaethau cyd-destunol a’r modylau priodoleddau graddedigion o fewn y rhaglen yn atgyfnerthu hyn. Mae prosiectau byw’n cael eu cynnwys hwnt ac yma drwy gydol y tair neu bedair blynedd o astudio.

Mae myfyrwyr wedi mwynhau prosiect byw sylweddol gyda Patternbank, ac yn y gorffennol maent wedi gweithio gydag enwau cyfarwydd megis H&M, Eley Kishimoto, a phartneriaid mwy lleol fel Orangebox a Sain Ffagan.

Maent hefyd yn cael cyfle ar ddiwedd eu cwrs i arddangos yn New Designers yn Llundain.

Mae graddedigion yn mynd ymlaen i amrywiaeth o swyddi gan gynnwys gweithio gyda’r canlynol: Monsoon, Accessorize, Marks and Spencer, Toast, John Lewis, Hallmark, Tigerprint, H&M, Zara a llawer mwy.

Dywedodd Emma fod y prosiectau byw a alluogodd fyfyrwyr i weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, yn hanfodol ar gyfer magu hyder a chael profiad uniongyrchol yn y sector hwn.

“Yn ystod fy nghyfnod ar y cwrs, rwy wedi cael cyfleoedd gwych i weithio gydag ystod o friffiau byw gan gynnwys Patternbank, Rolls Royce, Mini Moderns, Idott, oriel gelf Glynn Vivian, ac archif Treftadaeth Jazz Cymru ,” ychwanegodd.

“Fel dylunydd, mae gen i lygad craff am sylw i fanylion, ac mae gweithio gydag ystod o frandiau wedi fy ngalluogi i ddehongli pob briff yn llwyddiannus i gyd-fynd â’u hunaniaethau brand penodol. Rwy’n credu bod gallu sianelu’r brandiau trwy’r gwaith rwy’n ei gynhyrchu wedi arwain yn y pen draw at y foment hon.

“Mae gallu gweithio ar friffiau byw a derbyn adborth gan y brandiau yn cynnig ymdeimlad o foddhad a chydnabyddiaeth o’r gwaith a gynhyrchwn. Mae hefyd yn ein galluogi i rwydweithio â brandiau a allai fod yn gyflogwyr posibl yn y dyfodol.”

Mae Emma bellach yn edrych ymlaen at gwrdd â gweddill y tîm, a deall y gwaith mewnol o wneud ceir Rolls Royce.

“Edrychaf ymlaen at bob profiad y bydd yr interniaeth hon yn ei roi i mi ac rwy’n gobeithio gwneud y mwyaf ohoni. Mae gen i ddyled arbennig i’r staff darlithio, y technegwyr, a fy nghymheiriaid am y gefnogaeth a’r anogaeth gyson. Mae’r 5 mlynedd diwethaf wedi bod yn bleser llwyr!”

Yr intern cyntaf o’r Drindod Dewi Sant oedd Rebecca Davies, un o raddedigion yr MDes Patrymau Arwyneb a Thecstilau. Mae hi bellach yn gweithio fel dylunydd pwrpasol yn Rolls Royce.

Dywedodd Rebecca fod Emma wedi creu cryn argraff pan ymwelodd y tîm â’r Brifysgol y llynedd.

“Roedd Emma wedi adeiladu naratif cryf a oedd yn taro tant â Rolls Royce fel brand, ac wedi cyflwyno ei gwaith, yn bersonol ac ar bapur, gyda llawer iawn o broffesiynoldeb,” meddai. “Fe wnaethon ni edrych trwy ei phortffolio a’i gwaith diweddaraf, ac mae’n amlwg ei bod hi’n mynd i’r afael â’i holl waith gyda llawer iawn o ddiwydrwydd, a gyda llygad craff am arddull ddylunio a chyflwyniad .”

Dywedodd Rebecca ei bod yn gyffrous i groesawu cyd gyn-fyfyriwr Patrymau Arwyneb a Thecstilau yn y Drindod Dewi Sant i dîm Rolls Royce.

Ychwanegodd: “Roeddwn yn obeithiol unwaith y cefais yr un cyfle, ddwy flynedd yn ôl, y gallai fy interniaeth agor y drws i gyfleoedd yn y dyfodol i’r rhai sy’n astudio’r un cwrs. Roedd cymaint o ddoniau i ddewis o’u plith. Rwy’n siŵr y bydd Emma yn ychwanegiad gwych i’r tîm a gobeithio y bydd yn mwynhau’r cyfle gymaint â minnau!”

Dywedodd Georgia Mckie, Rheolwr y Rhaglen BA(Anrh) a MDes(Anrh) Patrymau Arwyneb a Thecstilau: “Mae Emma wedi bod yn stori lwyddiant go iawn i Goleg Celf Abertawe. Mae hi wedi mwynhau 5 mlynedd ragorol gyda ni - o’r Sylfaen i’r Meistr - mae’n wych, ac rydyn ni i gyd yn rhannu’r llawenydd o eiliadau fel hyn!

“Rydym yn meddwl bod Emma o’r diwedd yn credu yng ngrym ei galluoedd – dydw i ddim yn meddwl ein bod ni erioed wedi cael myfyriwr mor llwyddiannus o ran ein briffiau byw allanol! Mae ganddi record o ennill tri briff mawr o’r bron – Patternbank, Mini Moderns a nawr Rolls Royce – anhygoel.

“Mae gwybod bod Emma yn ymuno â Rebecca Davies, un arall o’n graddedigion yn Rolls Royce, yn ein llenwi â balchder. Mae hyn yn dangos yn berffaith bwysigrwydd adeiladu ein rhwydweithiau tra rydym gyda’n gilydd ar y rhaglen. Mae’n hyfryd eu gweld yn mynd â rhan o’n cymuned Patrymau Arwyneb a Thecstilau allan i’r gweithle gyda’i gilydd. Rydym yn gwybod y bydd Emma yn ychwanegiad gwych i’r tîm Mewnol Pwrpasol a dymunwn bob lwc iddi ar gyfer ei dyfodol cyffrous.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau