Skip page header and navigation

Mewn dull difyr o ddysgu, fe wnaeth myfyrwyr o’r rhaglenni Astudiaethau Addysg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant dreulio’r diwrnod yn archwilio effeithiolrwydd amgylcheddau dysgu amgen yn ddiweddar.  

Education Studies students workshop on the beach

Dechreuodd y diwrnod gyda sesiwn greadigol ar y traeth yn Abertawe lle aeth myfyrwyr ati i lunio celf mandala o ddeunyddiau naturiol a gasglwyd ganddynt. Fe wnaeth y gweithgaredd hwn sbarduno trafodaethau ar ei addasrwydd ar gyfer grwpiau oedran gwahanol a’i fanteision dros ystafelloedd dosbarth traddodiadol.

Parhaodd yr archwilio gydag ymweliad ag Inspire Training, darparwr hyfforddiant sy’n cyflwyno amrywiaeth o raglenni megis darpariaeth yn yr ysgol, Twf Swyddi Cymru +, rhaglenni i oedolion di-waith, ac sy’n cefnogi busnesau yng Nghymru i uwchsgilio eu gweithlu. Yma, cafodd myfyrwyr gyfle i ddysgu rhagor am raglenni dysgu seiliedig ar waith a sut y gellir defnyddio gweithgareddau megis cerdded ceunentydd i wella sgiliau meddwl dysgwyr. Rhoddodd y profiad ymarferol hwn gipolwg gwerthfawr ar sut i gymhwyso dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth gonfensiynol yn ymarferol.

Dywedodd Libby Casey, myfyriwr a aeth ar yr ymweliad ac a fu’n astudio’r modwl Amgylcheddau Dysgu Amgen ar Lefel 5:

“Roedd hi’n addysgiadol dysgu am y materion cymdeithasol allweddol a allai rwystro cyfranogiad myfyrwyr mewn addysg a deall amgylcheddau dysgu amgen lle gall myfyrwyr fynegi eu hunain y tu allan i’r cwricwlwm.”

Daeth y diwrnod i ben ym Mharc Cwmdoncyn, sydd wedi’i leoli yn yr Uplands yn Abertawe. Cynigodd y lleoliad hwn fan perffaith ar gyfer Geogelcio, trafodaethau gwyddonol, a llunio ffyn taith yn adrodd hanes baner Cymru. Drwy gydol y gweithgareddau hyn, anogwyd y myfyrwyr i ystyried sut y gellid integreiddio pob un yn y cwricwlwm ac adfyfyrio ar fanteision amgylcheddau dysgu yn yr awyr agored wrth feithrin datblygiad addysgol. 

Meddai Joy Cole, myfyriwr arall a gymerodd ran yn yr ymweliadau,

“fe wnaeth ymgolli mewn gweithgaredd/taith ddysgu awyr agored roi mwy o gyd-destun a dealltwriaeth i mi o’r damcaniaethau y tu ôl i’r pwnc, y strategaethau y gellir eu defnyddio mewn addysg a gweithredoedd dysgwyr.”

Fe wnaeth y dull arloesol hwn nid yn unig ehangu dealltwriaeth y myfyrwyr o arferion addysgol, ond fe wnaeth hefyd amlygu pwysigrwydd dysgu drwy brofiad wrth ddatblygu meddwl beirniadol a sgiliau datrys problemau.

Dywedodd Laura Hutchings, Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer Astudiaethau Addysg yn PCYDDS:

“Mae bod ar gampws yng nghanol Abertawe’n golygu y gallwn gael mynediad hawdd at y cyfleusterau gwych sydd gan Abertawe i’w cynnig, fel y traethau a’r parciau lleol. Mae’r agosrwydd hwn yn ein galluogi i ymestyn addysg y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth draddodiadol, gan roi cyfle unigryw i’n myfyrwyr gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol mewn cyd-destun ymarferol yn y byd go iawn.”

A group of students in cwmdonkin park

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon