Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi croesawu plant Blwyddyn 6 o Ysgol Gynradd i gampws Caerfyrddin i gael profiad o fore o Ddrama Mewn Addysg.

Pedwar plentyn blwyddyn chwech o ysgol gynradd yn cymryd rhan mewn gweithdy drama.

Yn ddiweddar daeth 34 o blant ysgol gynradd Blaen y Maes yn Abertawe ar ymweliad â champws Caerfyrddin i gael profiad o weithdai Drama Mewn Addysg gyda myfyrwyr Blwyddyn 2 y Celfyddydau Perfformio. Bu tîm Ehangu Mynediad y Drindod Dewi Sant yn gweithio gyda’r darlithydd Drama Gymhwysol, Ali Franks, i gefnogi’r cyfle gwych hwn i’r ysgol a’r myfyrwyr.

Mae myfyrwyr y cyrsiau cyfrwng Saesneg BA Actio a BA Drama Gymhwysol yn astudio modwl yn eu hail flwyddyn ar ‘Ddrama a Theatr mewn Addysg’, lle maent yn dysgu amrywiol ffyrdd o weithio gyda phlant a phobl ifanc gan ddefnyddio Drama fel offeryn ar gyfer dysgu.

Mae plant yn dysgu drwy gymryd rhan weithredol mewn senarios chwarae rôl, darnau byrfyfyr a gweithgareddau drama. Mae Drama mewn Addysg yn rhoi cyfle i gymryd rhan, ennill profiad a chydweithredu. Mae’n ceisio trawsnewid dysgu drwy annog plant i weithio gyda’i gilydd yn greadigol i archwilio ystod o syniadau – gallai fod yn draws-gwricwlaidd gan dynnu ar wahanol bynciau ysgol, gall fod â ffocws cymdeithasol a gall ymwneud â datblygiad personol.

Mynychodd y disgyblion ddau weithdy gwahanol lle buont yn chwarae gemau drama, yn cymryd rhan mewn addasiadau byrfyfyr a hyd yn oed yn gweithredu fel ditectifs i ddatrys dirgelwch ‘Tedi’r Drindod’ oedd ar goll.

Yr ymweliad ysgol hwn â Chaerfyrddin oedd y cyfle cyntaf i fyfyrwyr ymarfer eu sgiliau newydd gyda disgyblion ysgol cyn iddynt fynychu’r ysgol eu hunain yn ddiweddarach yn y tymor i gynnal gweithdai drama gyda’r 68 plentyn ar draws y 3 dosbarth.

Meddai Ali Franks, darlithydd Drama Gymhwysol yn y Drindod Dewi Sant:  

“Mae’n bartneriaeth wych rhwng yr ysgol a’r brifysgol gan fod y myfyrwyr yn elwa cymaint o’r profiad byd go iawn sy’n deillio o’r sefyllfa, ac mae’r disgyblion yn cael cyfle i gymryd rhan yn y profiadau dysgu hyn sy’n arbennig o greadigol.  Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ymweld â’r ysgol yn ddiweddarach yn y tymor pan fydd y myfyrwyr yn darparu gweithdai’n seiliedig ar y llyfr mae’r plant yn ei ddarllen yn y dosbarth. Mae hyn yn wych gan ein bod yn cael cyfle i gefnogi’r cwricwlwm dysgu wrth ddarparu cyfleoedd asesu dilys i’n myfyrwyr”.

Grŵp o blant blwyddyn chwech o ysgol gynradd mewn neuadd yn cymryd rhan mewn gweithdy drama sy’n cael ei redeg gan fyfyrwyr blwyddyn 2 y cwrs Celfyddydau Perfformio.

Ychwanegodd Amy Smith, athrawes o Ysgol Gynradd Blaen y Maes:

“Gwnaeth y plant fwynhau mas draw ar y campws! Roedden nhw’n siarad am y gweithdai gyda disgyblion Blwyddyn 5 pan ddychwelon ni i’r ysgol. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at y gweithdai ym mis Mai.”

Soniodd y myfyriwr BA Actio, Jack Eriksen:

“Cafodd y plant eu hysbrydoli i gymryd rhan mewn rhywbeth newydd a chreadigol, gan gael amser hwyliog yn cwrdd â phobl newydd ac yn chwarae gemau. Bydd yn anrhydedd gweithio gyda nhw eto ym mis Mai.”

Meddai’r myfyriwr BA Drama Gymhwysol, Kyle Collingwood:  

“Cafodd y plant amser cyffrous o’r dechrau i’r diwedd, profiad gwirioneddol drochol i’r hwyluswyr a’r cyfranogwyr”.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau