Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr o’r rhaglenni Doethuriaeth Broffesiynol mewn Celf a Dylunio ac MA Celf a Dylunio yng Ngholeg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant wedi cychwyn ar daith addysgol wahanol eleni. Mewn dull addysgu sy’n torri tir newydd, maen nhw wedi cael eu cyflwyno i fyd cyfareddol gwyddbwyll ac arddulliau arloesol y meistri gwyddbwyll.

Myfyrwyr yn eistedd gyferbyn â’i gilydd wrth fwrdd hir; mae gliniaduron a nodiadau o’u blaen, ond mae’r myfyrwyr yn canolbwyntio ar y bobl gyferbyn.

Y nod yw iddynt gael eu hysbrydoli gan yr arwyr gwyddbwyll hyn a chymhwyso eu strategaethau i’w harferion eu hunain. O dan arweiniad darlithwyr y rhaglen, mae’r myfyrwyr wedi trafod mawrion y byd gwyddbwyll, o natur fethodolegol Hou Yifan, athrylith Bobby Fischer, a ffordd anrhagweladwy Mikhail Tal o chwarae. Trwy ymgolli yn strategaethau a phrosesau meddwl y meistri hyn, mae’r myfyrwyr wedi cael eu herio i ennill dealltwriaeth fanylach o’u harddulliau unigryw ac wedyn i ddatblygu eu hagweddau arbennig eu hunain at arfer celf a dylunio academaidd.

O fewn addysgu prifysgol, mae’r athroniaeth addysgu anghonfensiynol ac unigryw hon ar y ddwy raglen wedi rhoi safbwynt newydd i’r myfyrwyr, gan eu hannog i archwilio llwybrau newydd ar eu teithiau creadigol. Trwy gyffelybu gwyddbwyll a’r disgyblaethau celf a dylunio, y nod yw meithrin arloesi, meddwl yn feirniadol, a datrys problemau’n greadigol ymhlith eu myfyrwyr.

Meddai Stuart Mackay, myfyriwr MA Celf a Dylunio: “Rydw i wedi’i gymhwyso sawl gwaith yn fy ymchwil ac yn fy arfer, ac yn wir, fe wnaeth gicdanio allbwn fy egni creadigol yn ddiweddar yn fy arfer. Fe wnaeth meddylfryd Tal ganiatáu i mi fynd amdani a dod o hyd i ffordd i mewn i’m creadigrwydd. Mae’n rhaid fy mod i wedi aberthu beirniad mewnol neu rywbeth. Yna yn fy ymchwil, rydw i wedi gweld fy hun yn canolbwyntio ar amddiffyn fy syniadau, gan wneud i mi ganolbwyntio’n fwy ar ymchwil. Rwy’n credu ei fod yn adnodd gwych i reoli eich ffordd o feddwl.” 

Mae Kylie Boon yn darlithio ar y rhaglen. Meddai hi: “Ein nod yw herio ein myfyrwyr, i’w galluogi nhw i feddwl yn wahanol a hwyluso amgylchedd o arbrofi a all arwain at ymchwil celf a dylunio arloesol. Trwy astudio’r strategaethau a’r technegau a ddefnyddir gan feistri gwyddbwyll, daeth yn amlwg fod ein myfyrwyr wedi dechrau mynd at eu harfer a mynegi eu hymchwil mewn goleuni newydd. Roedd hyn yn amlwg yn y dadleuon bywiog a ddigwyddodd yn y dosbarth. Mae’r fethodoleg addysgu unigryw hon yn arddangos ein hymrwymiad i gyflwyno profiad addysgol unigryw a chyfoethog i’n myfyrwyr.”

Myfyrwyr yn eistedd wrth fwrdd hir; mae rhai yn edrych ar eu gliniadur tra bod eraill yn sgwrsio; mae sgrin fawr ym mhen pella’r ystafell yn darllen 3.48 mewn llythrennau glas llachar.

Meddai Yueyao Hu, sy’n aelod arall o’r tîm darlithio: “Mae’r arddull gwyddbwyll yn ysbrydoli myfyrwyr i feddwl yn strategol. Yn y dosbarth, rwy’n annog myfyrwyr i gysylltu darnau gwyddbwyll â’u cwestiynau ymchwil, dulliau ymchwil, safbwyntiau damcaniaethol, ac arferion creadigol. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ddatblygu ffordd y myfyrwyr o feddwl ac yn eu hannog i nodi’r “frenhines” a’r “brenin” yn eu hymchwil eu hunain, gan eu galluogi i fynegi dadleuon dros eu pynciau ymchwil a chefnogi eu datganiadau. Rydym wedi’n cyffroi i weld y gwaith unigryw a gwreiddiol a ddaw i’r amlwg o’r cydweithrediad ysbrydoledig hwn. Trwy bontio bydoedd gwyddbwyll a chelf a dylunio, mae’r cyrsiau Doethuriaeth Broffesiynol ac MA Celf a Dylunio’n grymuso eu myfyrwyr i ddod yn feddylwyr ac ymarferwyr arloesol.”

Mae Coleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant yn enwog am ei ymrwymiad i feithrin creadigrwydd ac arloesi mewn addysg celf a dylunio. Gydag ystod amrywiol o raglenni israddedig ac ôl-raddedig, mae’r Coleg yn cynnig amgylchedd cefnogol i fyfyrwyr ddatblygu eu doniau artistig ac archwilio posibiliadau newydd yn y maes. Trwy feithrin creadigrwydd a meddwl yn feirniadol, mae Coleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant yn rhoi i raddedigion y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ragori yn y byd celf a dylunio sy’n esblygu’n barhaus.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon