Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr ar gwrs BA Drama Gymhwysol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cymryd rhan yn eu digwyddiad Platfform’ yng Nghanolfan S4C Yr Egin yn ddiweddar.

Grŵp o bobl sy’n mynychu cynhadledd, yn eistedd o flaen sgrin ddigidol fawr a siaradwr.

Dathliad ar ffurf symposiwm yw Platfform sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr sy’n graddio i gyflwyno enghreifftiau a gwerthusiadau o’u prosiectau Drama Gymhwysol yn gyhoeddus i gynulleidfa wadd o ymarferwyr proffesiynol o’r diwydiannau creadigol o gefndiroedd mentrau cymdeithasol, addysg, lles a gwaith cymunedol.

Cafodd siaradwyr gwadd o’r diwydiant, y mae sawl un ohonynt wedi cefnogi’r myfyrwyr yn ystod eu rhaglen radd trwy gynnig lleoliad, darlithoedd gwadd a phrofiadau proffesiynol, gyfle i glywed yn uniongyrchol am y prosiectau traethawd hir a’r gwaith ymarferol dylanwadol y mae’r myfyrwyr wedi’u cwblhau yn ystod eu blwyddyn olaf.

Eleni, cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghanolfan S4C Yr Egin, sydd ag enw da cynyddol am ddarparu gwaith cymunedol, ieuenctid a chyfranogol ysbrydoledig – a chefnogi myfyrwyr.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan bwysig o waith paratoi’r myfyrwyr ar gyfer gyrfa broffesiynol yn y celfyddydau cyfranogol, gan ddarparu llwyfan i amlygu eu diddordebau unigol a’u nodau creadigol mewn amgylchedd cefnogol a gwerthfawrogol.

Meddai un o’r myfyrwyr, Faye Brightman:

‘’Roeddwn i wedi cyffroi i gymryd rhan yn nigwyddiad Platfform, oherwydd cefais rannu un o’m hoff brosiectau i mi eu cwblhau yn rhan o fy arfer hyd yn hyn.

“Prosiect ymchwil ansoddol oedd ‘Being Seen’, a ddefnyddiodd dechnegau Drama Gymhwysol ac ysgrifennu creadigol amrywiol i archwilio cynrychiolaeth drawsryweddol mewn teledu a ffilm, a sut mae hyn yn effeithio ar aelodau o’r gymuned draws ac anneuaidd.  

“Digwyddodd y prosiect dros gyfnod o bythefnos, gyda’r cyfranogwyr yn gweithio i drafod enghreifftiau o gynrychiolaeth gadarnhaol a negyddol o bobl draws, sut mae’n teimlo i gael eich cynrychioli o’i gymharu â sut mae’n teimlo i beidio â chael eich cynrychioli, ynghyd â chreu rhestr o’r hyn maen nhw am ei weld gan gynrychiolaeth draws yn y dyfodol.”

Meddai’r Rheolwr Rhaglen ar gyfer BA Drama Gymhwysol, Jonathan Pugh:

“Gwir gryfder Platfform yw ei ddathliad o daith broffesiynol barhaus ein myfyrwyr. Roedd pawb a oedd yn bresennol yn symposiwm eleni, rhai yn rhieni a rhai yn weithwyr proffesiynol ym maes y celfyddydau a lles, yn gefnogol iawn ac wedi’u cyffroi gan brosiectau’r myfyrwyr.

“Fe wnaeth pob un ohonom ddysgu mwy am y gwir angen am y prosiectau cyfranogol trwy sesiynau holi ac ateb ac mewn gweithdai dan arweiniad ein graddedigion – sydd bellach yn gweithio gyda ‘People Speak Up’ Sir Gâr. Byddwn yn parhau â’r sgyrsiau pwysig hyn gyda sector y celfyddydau a lles ar ein MA Theatr Gymhwysol newydd flwyddyn nesaf.”

Grŵp o bobl sy’n mynychu cynhadledd, yn eistedd o flaen sgrin ddigidol fawr a siaradwr.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau