Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr BA Actio a BA Dylunio Set a Chynhyrchu ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a myfyrwyr o Goleg Sir Gâr yn edrych ymlaen at gydweithio i berfformio cynhyrchiad llwyfan o ‘The Visit’ gan Friedrich Dürrenmatt.

Poster The Visit – nodir y dyddiad, amser a phris ar ddiwedd yr erthygl.

Bydd y myfyrwyr yn perfformio addasiad modern gan Hannah McPake o’r ddrama o’r 1930au ‘The Visit’ gan y dramodydd o’r Swistir, Friedrich Dürrenmatt. Mae’r ddrama’n adrodd hanes merch ifanc yn gadael ei thref enedigol ac yn dychwelyd yno yn ddiweddarach yn ei bywyd ar ôl gwneud ei ffortiwn. Mae’n penderfynu y byddai’n hoffi buddsoddi peth o’i harian i achub y dref yn gyfnewid am ffafr gan y trigolion – i ladd ei chyn-gariad.

Dyma fydd y cynhyrchiad ar y cyd cyntaf rhwng myfyrwyr 3edd flwyddyn BA Actio a BA Dylunio Set a Chynhyrchu y Drindod Dewi Sant a myfyrwyr Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Sir Gâr. Mae’r cyfle hwn yn rhoi blas i’r myfyrwyr o’r hyn ydyw i weithio o fewn y diwydiant theatr trwy weithio gyda myfyrwyr creadigol eraill y tu allan i’w cwrs, i arddangos eu sgiliau galwedigaethol, i rwydweithio a chreu argraff dda o flaen gweithwyr proffesiynol y diwydiant.

Fel rhan o’r profiad hwn, caiff y myfyrwyr gyfle i weithio’n agos gyda chyfarwyddwyr proffesiynol yn y diwydiant sef Matthew Holmquist a Samantha Alice Jones o Gaerdydd. Meddai Matthew:

“Dwi wedi bod yn gweithio gyda’r Drindod Dewi Sant yn achlysurol ers bron i chwe blynedd erbyn hyn, a dwi bob amser yn edrych ymlaen at ddod yma gan nad oes gan y myfyrwyr a’r staff a’r tîm ofn rhoi cynnig ar bethau newydd. Rydyn ni’n defnyddio drama wreiddiol gan Friedrich Dürrenmatt, ac rydyn ni wedi’i haddasu rhywfaint. Rydyn ni’n rhyw fath o ddyfeisio a chreu’r deunydd o’r testun gwreiddiol, a hefyd yn gwneud ein fersiwn ein hunain o hwnnw a’u taflu nhw at ei  gilydd mewn rhyw fath o gybolfa artistig gwych.

“Mae wedi rhoi math gwahanol o berchnogaeth i’r myfyrwyr dros y deunydd oherwydd maen nhw’n gwneud beth maen nhw eisiau ei wneud mewn ymateb i’r hyn mae’r ddrama’n ymwneud ag ef. Mae cynnydd y myfyrwyr yn ystod yr amser rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda nhw yn galonogol iawn o ran gwneud y sioe ond hefyd o ran meddwl am eu gyrfa yn y tymor hir.”

Ychwanega Samantha:

“Fel gwneuthurwyr theatr, mae’r math hwn o waith yn debyg iawn i’r hyn y byddan nhw’n ei wneud yn y byd go iawn pan fyddant yn graddio, felly maen nhw’n cael y berchnogaeth, yr hyder a’r set sgiliau i ddyfeisio testun a gwneud gwaith a fydd yn amhrisiadwy iddynt fel gwneuthurwyr theatr pan fyddant yn gadael.

Mae Maisie Bidwell yn fyfyrwraig BA Dylunio Set a Chynhyrchu ar ei 3edd flwyddyn, ac ymgeisiodd am rôl dylunydd y gwisgoedd ar y cynhyrchiad. Mae ei rôl yn cynnwys gweithio’n agos gyda’r cyfarwyddwyr i drafod gwisgoedd ar gyfer y cymeriadau, gweithio o fewn cyllideb i ddod o hyd i wisgoedd ar gyfer y cynhyrchiad a chymryd mesuriadau. Meddai:

“Mae gallu bod yn ddylunydd gwisgoedd ar y cynhyrchiad hwn wedi gwneud i mi sylweddoli mai dyma dwi eisiau ei wneud, ac mae’r cyfle hwn wedi rhoi gwell dealltwriaeth i mi o’r hyn sy’n ofynnol yn y diwydiant – mae wedi fy helpu i weld sut mae pethau’n gweithio ym myd y theatr go iawn. Mae gweithio gyda’r criw actio wedi gwneud i mi sylweddoli ein bod yn gweithio fel un tîm, ac rydym wedi cydweithio i rannu syniadau a dyluniadau.”

Mae Sophie Mildiner, sydd wedi ymuno â myfyrwyr actio y 3edd flwyddyn yn y Drindod Dewi Sant o Goleg Douglas yn Vancouver, Canada hefyd wedi mwynhau’r profiad. Mae’n chwarae rôl Claire Zackery – cyfreithiwr sy’n rhoi arian i’r ysgol.

“Mae’r ymarferion wedi bod yn wych, ac mae wedi bod yn fraint gweithio gyda Sam a Matthew. Mae wedi bod yn broses o ymddiried, a dwi wrth fy modd â’r ffaith eu bod nhw wastad yn ystyried ein syniadau ni – dwi’n teimlo fy mod yn cael fy nghlywed fel actor, ac maen nhw hefyd yn parchu ein dewisiadau. Mae’n hollol wahanol i’r hyn dwi wedi’i wneud o’r blaen. Mae’r profiad hwn wedi fy mharatoi ar gyfer yr hyn y gallaf ei ddisgwyl yn y diwydiant. Dwi wedi cael fy herio fel actor i greu’r cymeriad, ac mae’r sgiliau creu cymeriad dwi wedi’u dysgu wedi bod yn wych.

“Mae gweithio gyda’r criw dylunio set wedi bod yn anhygoel, ac mae wedi bod yn braf eu cael nhw yn yr ystafell gyda ni yn cydweithio fel ensemble i drafod syniadau am y goleuadau a’r set. Yn bendant roedd yna ymdeimlad o gymuned yn yr ystafell.”

Meddai’r Cyfarwyddwr Rhaglen BA Actio, Lynne Seymour:

“Mae’r prosiect perfformio mawr cyntaf hwn bob amser yn gyfnod cyffrous o’r flwyddyn i fyfyrwyr y drydedd flwyddyn yn ogystal â’r staff.  Rydyn ni wrth ein bodd yn gweld yr adran yn paratoi ar gyfer sioe ac mae’n gyfle gwych i’r holl fyfyrwyr fireinio’r sgiliau maent wedi’u dysgu o fewn amgylchedd sy’n efelychu’r diwydiant.  Mae gweithio gyda chyfarwyddwyr proffesiynol nid yn unig yn golygu bod myfyrwyr yn dod i gysylltiad ag arferion gweithio’r ‘byd go iawn’, ond mae hefyd yn gyfle i adeiladu eu rhwydweithiau a’u cysylltiadau proffesiynol yn barod ar gyfer eu gyrfaoedd ar ôl gadael y Drindod Dewi Sant.”

Meddai’r Cyd-Reolwr Rhaglen BA Dylunio Set a Chynhyrchu, Stacey Jo-Atkinson:

“Mae wedi bod yn hyfryd i’r myfyrwyr weithio ar ddarn sydd yn rhannol wedi’i sgriptio ac yn rhannol wedi’i ddyfeisio a gweld sut y gellir cynhyrchu a datblygu sioe drwy broses ymarferol. Mae pob myfyriwr wedi rhoi mewnbwn creadigol i’r darn ac wedi gallu adeiladu ar eu sgiliau cydweithio a’u sgiliau ymarferol i ddod â’r darn gwych hwn at ei gilydd. Maent wedi cael nifer o gyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau, ac mae hyn wedi helpu i feithrin eu hyder yn eu galluoedd. Dwi’n edrych ymlaen i weld ymateb y cynulleidfaoedd i’r sioe maent wedi’i chreu a dwi’n llawn cyffro i weld eu taith trwy eu blwyddyn olaf.”

Cynhelir perfformiadau o ‘The Visit’ yn Y Llwyfan ar gampws Caerfyrddin ar 24 a 25 Tachwedd, ac ar 1 a 2 Rhagfyr.  Mae tocynnau ar gael trwy Stacey Jo Atkinson: s.atkinson@pcydds.ac.uk

Manylion

Lleoliad: Y Llwyfan, Campws Caerfyrddin, SA31 3EP  
Dyddiadau:

  • 24 Tachwedd am 7pm
  • 25 Tachwedd am 1pm a 7pm
  • 1 Rhagfyr am 7pm
  • 2 Rhagfyr am 1pm a 7pm

Tocynnau: £5.00  
Consesiwn: £3.00

Dilynwch ni ar Instagram Instagram: @thevisit.uwtsd


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon